Adroddiad newydd yn dangos sut mae partneriaethau ymchwil yn gwella plismona ledled Cymru
Mae adroddiad newydd yn dangos sut mae cydweithio rhwng prifysgolion Cymru, heddluoedd a swyddfeydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn gwella arferion plismona, yn cryfhau diogelwch y cyhoedd ac o fudd i gymunedau ledled Cymru.
Wedi’i lansio yn Symposiwm Ymchwil Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan (AWPAC) a gynhaliwyd yn ddiweddar, mae Adroddiad Effaith AWPAC yn tynnu sylw at yr hyn mae’r bartneriaeth wedi’i gyflawni, a sut mae hyn yn arwain at fanteision ymarferol yng nghymunedau Cymru.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi bod yn bartner balch o’r Ymchwil Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan (AWPAC) ers ei sefydlu yn 2022. Mae’r Brifysgol wedi chwarae rhan weithredol yn nifer o’r prosiectau ymchwil a gyllidwyd gan AWPAC, gan gyfrannu ymchwil ag impact sydd wedi cynhyrchu argymhellion ymarferol ac wedi dysgu gwersi gwerthfawr. Mae’r canfyddiadau hyn wedi helpu i lunio a gwella arferion plismona ledled Cymru, gyda llawer o’r llwyddiannau hyn yn cael eu harddangos yn Adroddiad Effaith AWPAC.
Mae ymchwil AWPAC wedi llywio plismona gweithredol, cryfhau ymatebion i gam-driniaeth domestig a thrais yn erbyn menywod a merched, gwella gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr, ac archwilio cyfleoedd newydd ar gyfer defnyddio data’r heddlu yn ddiogel mewn ymchwil.
Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at waddol ehangach. Y tu hwnt i brosiectau unigol, mae AWPAC wedi sefydlu rhwydwaith cryf ledled Cymru o ymchwilwyr a phroffesiynwyr plismona sy’n rhannu arbenigedd, yn nodi anghenion ymchwil ac yn datblygu ymatebion cydlynol sy’n galluogi sefydliadau i ymateb yn fwy effeithiol i heriau sy’n dod i’r amlwg.
Tynnodd Dr Bronwen Williams, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Abertawe yn y Drindod Dewi Sant a Chadeirydd Grŵp Effaith a Dysgu AWPAC, sylw at arwyddocâd y cydweithrediad:
“Mae’r bartneriaeth rhwng y byd academaidd a phlismona yn hanfodol i gyflawni newid ystyrlon a pharhaol. Ni ddylai ymchwil fodoli ar ei ben ei hun; mae ei wir werth yn gorwedd yn ei allu i lywio a gwella ymarfer proffesiynol. Trwy weithio gyda’i gilydd, gall academyddion a gweithwyr proffesiynol yr heddlu nodi heriau sy’n dod i’r amlwg, casglu a gwerthuso tystiolaeth gadarn, a datblygu argymhellion sy’n arwain at welliannau diriaethol mewn plismona.
“Mae llwyddiant AWPAC yn dangos pŵer cydweithredu. Trwy ymrwymiad, arbenigedd a mewnwelediad a rennir y ddau sector y gellir ymgorffori arloesiadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn effeithiol, gan fod o fudd i wasanaethau plismona a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu yn y pen draw. Heb y bartneriaeth gydfuddiannol hon, byddai cyflawni newid parhaus ac ystyrlon yn llawer mwy heriol.”
Meddai Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Heddlu Dyfed-Powys:
“Mae AWPAC yn dangos beth ellir ei gyflawni pan fydd plismona ac arbenigedd academaidd yn dod at ei gilydd o amgylch anghenion cymunedau. Mae ei ymchwil eisoes yn llywio arfer gweithredol, hyfforddiant a chefnogaeth i ddioddefwyr, tra bod y perthnasoedd a adeiladwyd trwy’r bartneriaeth yn rhoi sylfaen gryfach i Gymru ar gyfer ymateb i heriau’r dyfodol. Mae’r adroddiad hwn yn dangos gwerth ymarferol y gwaith a gyflawnwyd hyd yn hyn a’r potensial ar gyfer cydweithio parhaus.”
Meddai’r Athro Roger Whitaker, Cadeirydd Rhwydwaith Arloesi Cymru:
“Mae prifysgolion Cymru’n ffynhonnell anhygoel o wybodaeth, talent ac arloesedd. Mae AWPAC yn dangos gwerth cysylltu’r arbenigedd hwnnw â sefydliadau sydd ar reng flaen darparu gwasanaethau cyhoeddus, gan greu cyfleoedd i ddatblygu syniadau newydd a mynd i’r afael â heriau a rennir trwy gydweithio.
“Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at y cyfraniad y mae prifysgolion yn ei wneud, nid yn unig trwy ymchwil, ond trwy ddwyn ynghyd arbenigedd, meithrin arloesedd a helpu i drosi gwybodaeth yn ddatrysiadau ymarferol.”
DIWEDD
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 01267 676790