Angerdd am Ddatblygu Gemau yn arwain William i'r Drindod Dewi Sant
Mae William Baker, o Landysul yng Ngheredigion, yn graddio heddiw gyda BSc mewn Cyfrifiadura (Datblygu Gemau).
Dywed cyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Aberaeron ei fod bob amser wedi bod yn angerddol iawn am gyfrifiadura a rhaglennu a’i fod â’i fwriadu o gael gyrfa yn y maes. Nawr, diolch i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant mae’n gweithio ar brosiect i hyfforddi robotiaid gan ddefnyddio NVIDIA Isaac, platfform datblygu robot ac mae’n mwynhau’r profiad yn fawr.
Dywedodd: “Rwyf bob amser wedi bod eisiau datblygu gemau fideo fy hun, ac roedd y Drindod Dewi Sant yn teimlo’n berffaith i mi wella fy sgiliau. Roedd y cwrs Datblygu Gemau nid yn unig yn cwmpasu rhaglennu, ond hefyd rhaglennu 3D gydag OpenGL yn ogystal â gweithio gyda pheiriannau gemau fel Unreal Engine 5, gan ei wneud yn berffaith i rywun sydd eisiau bod yn ddatblygwr gemau”.
Nid y cwrs yn unig a berswadiodd William i wneud cais i’r Drindod Dewi Sant drwy Clirio, cafodd ei ddenu hefyd at gampws SA1 y Glannau yn Abertawe ac ymagwedd y Drindod Dewi Sant at ddysgu.
Mae’n esbonio: “Fe wnes i gais trwy Clirio oherwydd, ar y pryd, doeddwn i ddim yn arbennig o siŵr beth oeddwn i eisiau ei wneud gyda fy mywyd. Roeddwn i wedi mynd i brifysgol o’r blaen, ond fe wnes i adael yn y flwyddyn gyntaf, yn bennaf oherwydd nad oeddwn yn arbennig o hapus gyda fy hun ac yn amau bod y brifysgol yn lle i mi”.
“Ar ôl siarad â rhai pobl, penderfynais geisio eto a mynd i brifysgol newydd ond roeddwn newydd golli’r prif ddyddiad cau ar gyfer gwneud cais. Diolch i’r broses Clirio, fodd bynnag, roeddwn i’n dal yn gallu gwneud ac roedd yn caniatáu i mi fynd am fy ngradd! Mae’n dangos nad yw byth yn rhy hwyr i benderfynu beth i’w wneud!”
Mae’n parhau: “Roedd y broses glirio yn hawdd iawn. Roedd gwneud cais trwy UCAS yn hawdd, ac roedd y Brifysgol yn gymorth mawr pan alwais i ofyn cwestiynau.”
Ar ôl penderfynu ennill gradd, taflodd William ei hun i’w astudiaethau er mwyn datblygu ei sgiliau, yn enwedig ieithoedd rhaglennu a defnyddio offer datblygu gemau/APIs, ond hefyd i ehangu ei sgiliau mewn meysydd eraill fel rhwydweithio neu weithio ystwyth (agile).
Mae’r dulliau ymarferol i lawer o’r modiwlau yn eu gwneud yn fwy pleserus a hwyliog ac uchafbwynt oedd dysgu am ddatblygu gemau trwy’r blynyddoedd trwy gael chwarae hen gonsolau gemau, yn ogystal â chodio cymhwysiad 3D ynghyd gyda’r darlithydd mewn amser real.
Dywed William fod y cwrs hefyd wedi ei helpu i gwrdd â llawer o bobl newydd a gwneud ffrindiau newydd, ac er ei fod weithiau’n cael trafferth gyda’i iechyd meddwl mae’n canmol ei ddarlithwyr a’i ffrindiau am ei annog a’i gefnogi. Dywedodd: “Ar sawl adegau roeddwn i’n teimlo fel rhoi’r gorau iddi eto neu roeddwn i’n teimlo nad oeddwn i’n ddigon da. Weithiau roeddwn i’n teimlo’n eithaf straen oherwydd aseiniadau a doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i byth yn cael fy ngradd. Ond diolch i gefnogaeth gan fy narlithwyr a’m ffrindiau, roeddwn i’n gallu gwthio drwodd ac fe wnes i gyrraedd y diwedd. Ac rwy’n hapus iawn fy mod i wedi gwneud!”
Mae’n parhau: “Os ydych chi’n angerddol am ddatblygu gemau, rendro 3D, rhaglennu, neu gyfrifiadura yn gyffredinol, byddwn yn bendant yn argymell y cwrs hwn. Mae’n rhoi llawer o gyfleoedd i chi ddysgu sgiliau newydd a dod yn ddatblygwr uchelgeisiol.
“Rwy’n teimlo fy mod wedi tyfu llawer diolch i’r cwrs hwn, nid yn unig o ran ehangu a mireinio fy set sgiliau, ond fel person hefyd. Trwy gwrdd â phobl newydd ac ymladd yn erbyn caledi, rwy’n teimlo fel ei fod wedi gwneud llawer o les i mi.”
Mae William bellach yn edrych ymlaen at ddechrau gradd Meistr trwy ymchwil yn y Brifysgol ac yn gobeithio symud i ymchwil ac astudiaethau doethurol.
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 01267 676790