Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi cael eu cydnabod â dau o anrhydeddau uchaf y diwydiant teithio a thwristiaeth i fyfyrwyr ar ôl derbyn gwobrau cenedlaethol ym Mharti a Gwobrau Haf y Sefydliad Teithio a Thwristiaeth (ITT), a gynhaliwyd ar y Teras yn Nhŷ’r Cyffredin.

Two students standing on the terraces at the House of Commons in London, with the London eye in the background.

Y ddarlledwraig a’r newyddiadurwraig Ayesha Hazarika oedd llywydd y digwyddiad mawreddog hwn, a ddaeth â chynrychiolwyr o Ganolfannau Rhagoriaeth ITT a ffigurau blaenllaw o bob rhan o ddiwydiant teithio a thwristiaeth y DU ynghyd i ddathlu llwyddiant arbennig y myfyrwyr.

Derbyniodd Wiktoria Kuciarska, myfyrwraig yn PCYDDS, Wobr Myfyriwr y Flwyddyn Sefydliad Teithio a Thwristiaeth Bella Rangel Callan 2026, a chafodd Simon Canby ei enwi’n Fyfyriwr y Flwyddyn Canolfan Ragoriaeth ITT PCYDDS.

Mae’r gwobrau’n cydnabod myfyrwyr sydd wedi dangos ymrwymiad, arweinyddiaeth a chyfraniad eithriadol i’r sector teithio, twristiaeth a digwyddiadau trwy gydol eu hastudiaethau.

Ymunodd Wiktoria â PCYDDS drwy Glirio ar ôl ymweld â champws y Brifysgol wrth astudio Teithio a Thwristiaeth yng Ngholeg Merthyr. Yn ystod ei hamser yn PCYDDS, manteisiodd ar bob cyfle a oedd ar gael, gan wasanaethu’n Gynrychiolydd Myfyrwyr ABTA y Brifysgol a chymryd rhan mewn ymweliadau addysgol â Llundain, Paris a Malaysia, yn ogystal â lleoliadau diwydiant gydag Universal yn Fflorida.

Chwaraeodd ran allweddol hefyd wrth drefnu digwyddiad rhwydweithio cyntaf Parti Tŷ PCYDDS.

Dewisodd Simon, a astudiodd Letygarwch ac Arlwyo yng Ngholeg Sir Gâr cyn symud ymlaen i PCYDDS, arbenigo mewn rheoli digwyddiadau i ddatblygu ei sgiliau arwain a rheoli ymhellach. Ochr yn ochr â’i gyd-fyfyrwraig Carys Davies, mae’n gweithio’n rheolaidd mewn gwyliau a digwyddiadau mawr ledled Cymru.  Cymerodd hyd yn oed amser i ffwrdd o weithio yn y Sioe Frenhinol i fynd i’r seremoni wobrwyo.

Gwahoddwyd y cyd-fyfyrwyr Digwyddiadau yn PCYDDS a’r Llysgenhadon ITT Nia Moores a Carys Davies hefyd gan drefnwyr y digwyddiad, Dellar Davies, i gefnogi’r gwaith o gyflwyno digwyddiad Tŷ’r Cyffredin, ar ôl gwneud argraff yng Nghynhadledd ITT ym Málaga. Rhoddodd y cyfle brofiad uniongyrchol gwerthfawr iddyn nhw o weithio mewn digwyddiad seneddol mawreddog ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant.

Mae’r myfyrwyr wedi bod yn ganolog i lawer o fentrau blaenllaw PCYDDS, gan gynnwys trefnu a chynnal digwyddiad gyrfaoedd Future You: Cymru i’r Byd yn Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe, a ddenodd 670 o gynrychiolwyr. Mae Nia hefyd wedi adeiladu portffolio trawiadol o brofiad yn y diwydiant, gan weithio yn Stadiwm Principality, ICC Cymru yn Celtic Manor, Lolfa VIP Arena Abertawe ac Au Vodka.

Meddai Wiktoria: “Rwy’n falch iawn o dderbyn y wobr. Alla i byth â bod yn fwy diolchgar am y gydnabyddiaeth hon. Mae’n adlewyrchu’r cymorth, yr anogaeth a’r cyfleoedd rydw i wedi bod yn ffodus i’w derbyn trwy gydol fy nhaith.

“Roedd hi hefyd yn fraint mynychu’r Parti Haf yn Nhŷ’r Cyffredin. Roedd cwrdd â chymaint o bobl ysbrydoledig, dathlu gyda chydweithwyr proffesiynol a bod yn rhan o ddigwyddiad mor gofiadwy yn gwneud y profiad yn fwy arbennig byth.

“Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran am ei wneud e’n achlysur mor fythgofiadwy. Ces i amser mor anhygoel ac rwy’n gwerthfawrogi’n fawr yr anrhydedd rhyfeddol hwn.”

Meddai Jacqui Jones, Cyfarwyddwr Rhaglen Teithio, Twristiaeth, Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol yn PCYDDS: “Mae gweld Wiktoria yn cael ei chydnabod yn genedlaethol yn Fyfyriwr y Flwyddyn ITT Bella Rangel Callan a Simon yn cael ei enwi’n Fyfyriwr y Flwyddyn Canolfan Ragoriaeth ITT yn dipyn o gamp ac yn un haeddiannol iawn. Mae’r ddau fyfyriwr wedi dangos proffesiynoldeb, ymrwymiad a pharodrwydd i gofleidio pob cyfle oedd ar gael iddyn nhw.

“Beth sy’n gwneud y gwobrau hyn yn fwy rhyfeddol byth yw eu bod nhw’n adlewyrchu’r diwylliant ehangach o fewn ein rhaglenni. Mae Wiktoria, Simon, Nia, a Carys wedi ymgolli mewn profiadau yn y diwydiant, o ymweliadau astudio rhyngwladol a lleoliadau i arwain digwyddiadau mawr fel Future You: Cymru i’r Byd. Maen nhw’n llysgenhadon rhagorol ar gyfer PCYDDS, ac rydyn ni’n hynod falch o’u gweld nhw’n cael eu cydnabod gan y diwydiant mewn digwyddiad cenedlaethol mor fawreddog.”

Mae llwyddiant myfyrwyr PCYDDS yn adlewyrchu enw da cynyddol y Brifysgol yn arweinydd ym maes addysg teithio, twristiaeth a digwyddiadau. Yn un o Ganolfannau Rhagoriaeth ITT cydnabyddedig y DU, mae PCYDDS yn gweithio’n agos gyda phartneriaid diwydiant i ddarparu cyfleoedd proffesiynol eithriadol, profiadau rhyngwladol a dysgu ymarferol i fyfyrwyr sy’n eu paratoi nhw ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus.

O leoliadau gyda sefydliadau byd-eang ac ymweliadau addysgol dramor i drefnu digwyddiadau diwydiant mawr a rhwydweithio gydag uwch weithwyr proffesiynol, anogir myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau, yr hyder a’r cysylltiadau diwydiant sy’n eu gosod nhw ar wahân. Mae’r gwobrau cenedlaethol diweddaraf yn atgyfnerthu ymhellach ymrwymiad PCYDDS i feithrin y to nesaf o weithwyr proffesiynol ym maes teithio, twristiaeth a digwyddiadau.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon