Skip page header and navigation

Cafodd staff, cyn-fyfyrwyr a phartneriaid diwydiant byd-eang Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant eu dathlu yn lansiad cyhoeddiad twristiaeth pwysig newydd, Tourism on the Edge, Leadership on the Line gan yr academydd twristiaeth enwog yr Athro Terry Stevens. 

A man standing at a podium at an official event.

Daeth y digwyddiad lansio o fri a gynhaliwyd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro (CAVC), â gweithwyr proffesiynol, academyddion a myfyrwyr ym maes twristiaeth, yn ogystal ag arweinwyr y diwydiant ynghyd i ddathlu cyhoeddi’r llyfr newydd, a gyhoeddwyd gan y cyhoeddwr annibynnol o Gymru, Graffeg. 

Mae’r llyfr yn cynnwys cyfraniadau gan 113 o weithwyr proffesiynol, academyddion ac arbenigwyr blaenllaw’r diwydiant twristiaeth a lletygarwch o 30 o wledydd, gan amlygu safbwyntiau byd-eang ar arweinyddiaeth, gwytnwch, a dyfodol twristiaeth. Mae PCYDDS wedi chwarae rôl sylweddol yn y cyhoeddiad gyda chyfraniadau gan staff presennol, cyn-fyfyrwyr a phartneriaid rhyngwladol. 

Gwahoddodd yr Athro Terry Stevens, a sefydlodd raglenni twristiaeth yn PCYDDS ym 1986, yr Athro Gareth Davies - Deon Sefydliad Rheolaeth ac Iechyd y Brifysgol a Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen y portffolio Rheoli Teithio, Twristiaeth, Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol, i gyfrannu penodau at y llyfr. Mae cyfraniad yr Athro Davies yn archwilio datblygiad ac effaith addysg twristiaeth yn PCYDDS, tra bod Jacqui yn archwilio’r berthynas hanfodol rhwng ymarfer y diwydiant ac arweinyddiaeth wrth lunio dyfodol twristiaeth. 

Cydnabyddir dylanwad Twristiaeth PCYDDS trwy gydol y gyfrol, gyda chyfeiriadau ar y clawr blaen mewnol ac o fewn sawl pennod, sy’n adlewyrchu cyfraniad hirsefydlog y Brifysgol i addysg twristiaeth ac ymgysylltu â’r diwydiant. 

Mae nifer o gyn-fyfyrwyr PCYDDS nodedig wedi cyfrannu at y gyfrol hefyd, gan gynnwys: 

  • Craig Jarret, Is-lywydd, Sodexo Live 
  • Dominic Jones, Prif Swyddog Gweithredol, Mary Rose Trust

Cyfrannwr arall yw  Ed Sims, cyn Prif Swyddog Gweithredol, Westjet, sydd wedi cefnogi a mentora myfyrwyr PCYDDS. 

Yn ogystal, mae’r llyfr yn cynnwys cyfraniadau gan  bartneriaid gwerthfawr PCYDDS, gan gynnwys cynrychiolwyr o Sefydliad Astudiaethau Twristiaeth, Malta, sy’n cynnal ymweliad symudedd Taith a ariennir gan PCYDDS ym mis Ionawr, a Claire Steiner o Institute Travel and Tourism (ITT). 

Mae PCYDDS yn cael ei chydnabod fel Canolfan Ragoriaeth HCA ac mae’n cynnal menter lwyddiannus HCA Dyfodol Ti Cymru’r sefydliad. 

Ysgrifennwyd y rhagair gan Mark Tanzer, Prif Weithredwr ABTA, un o brif sefydliadau diwydiant teithio’r byd gan gryfhau ymhellach hygrededd y cyhoeddiad o fewn y diwydiant. Mae PCYDDS yn bartner addysg hirsefydlog ABTA. 

Roedd y digwyddiad lansio yn cynnwys trafodaeth banel dan arweiniad yr Athro Stevens, gan gynnwys cyfweliad gyda Jacqui. Ymhlith y cyn-fyfyrwyr a fynychodd roedd Heledd Williams, Pennaeth Digwyddiadau Busnes Cymru, ynghyd â chyn-fyfyrwyr eraill sydd bellach yn ddarlithwyr Twristiaeth a Digwyddiadau yn PCYDDS, sef Debbie Jenkins a Lisa Bassler – ffaith sy’n amlygu cryfder rhwydwaith cyn-fyfyrwyr twristiaeth y Brifysgol.

Bydd dathliadau i nodi cyhoeddi’r llyfr yn parhau yn ystod y misoedd nesaf. Bydd yr Athro Davies yn ymuno â’r digwyddiad lansio nesaf yng Ngwlad yr Haf, man geni’r Athro Stevens, cyn i’r llyfr gael ei gyflwyno’n ffurfiol i fyfyrwyr PCYDDS yn ystod y digwyddiad arbennig yn Ystafell Drochi’r Brifysgol ar 7 Rhagfyr yn Abertawe. 

Bydd y lansiad i’r myfyrwyr yn rhan o ddathliadau ehangach sy’n nodi 40 mlynedd ers i’r Athro Terry Stevens sefydlu cyrsiau twristiaeth yn PCYDDS, gan gydnabod pedwar degawd o arloesi, addysgu ac arweinyddiaeth yn y diwydiant sydd wedi helpu i lunio gweithwyr proffesiynol ar draws Cymru a’r tu hwnt. 

Meddai’r Athro Gareth Davies: “Mae twristiaeth wedi bod wrth wraidd PCYDDS am bedwar degawd. Mae’n wych gweld effaith y Brifysgol yn cael ei chydnabod mewn cyhoeddiad sy’n dwyn ynghyd rai o feddylwyr ac ymarferwyr uchel eu parch y sector o bob cwrs o’r byd. 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon