Arbenigwr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn lansio llyfr newydd sy'n archwilio cyfranogiad plant mewn addysg gynnar
Mae arbenigwr mewn addysg plentyndod o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cyd-olygu gwerslyfr hygyrch a chynhwysfawr ar hawliau cyfranogol plant mewn addysg gynnar a lleoliadau gofal.
Caiff cyfranogiad plant ei gydnabod fel hawl sylfaenol dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sy’n nodi bod gan blant yr hawl i fynegi eu barn a chael eu clywed mewn materion sy’n effeithio arnynt.
Mae Young Children’s Participation: Exploring Practice in Early Education and Care (Routledge), wedi’i gyd-olygu gan Dr Jane Waters-Davies o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Dr Jacky Tyrie o Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod Prifysgol Abertawe, yn dod ag ymchwil, damcaniaeth ac enghreifftiau ymarferol ynghyd i archwilio’r hyn mae cyfranogiad plant yn ei olygu mewn ymarfer.
Mae’r llyfr ar gyfer myfyrwyr ac ymchwilwyr ym maes plentyndod cynnar ac addysg gynnar, yn ogystal ag ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant ifanc a myfyrwyr ôl-raddedig
Mae’n archwilio sut gall ymarferwyr symud y tu hwnt i ofyn i blant am eu safbwyntiau, tuag at greu amgylcheddau pob dydd lle gall safbwyntiau plant ddylanwadu ar benderfyniadau a phrofiadau dysgu.
Mae’r llyfr hefyd yn archwilio rhai o’r heriau sy’n rhan o roi hawliau cyfranogol plant ar waith, gan gynnwys y ffyrdd gwahanol y caiff lleisiau, dylanwad a chyfranogiad plant eu deall.
Mae’r pynciau’n cynnwys:
- Y cyd-destun polisi ar gyfer hawliau cyfranogol plant
- Modelau cyfranogiad
- Lleisiau plant a chael eu clywed
- Cyfranogiad a dehongliad cymdeithasol o blentyndod
- Creu lleoedd ar gyfer cyfranogiad
- Dylanwad a chyfranogiad
- Mesur cyfranogiad
- Ymagweddau rhyngwladol at gyfranogiad plant
Dywedodd Dr Jane Waters-Davies: “Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi’r llyfr hwn. Mae’n ystyried cyfranogiad plant ifanc o safbwynt hawliau plant, gan archwilio sut y gallwn ei ymgorffori mewn gweithredu proffesiynol o ddydd i ddydd mewn lleoliadau addysg gynnar a gofal. Mae pob pennod yn cynnig mewnwelediadau i weithwyr proffesiynol a myfyrwyr ar sut y gall plant brofi eu hawliau cyfranogol a dylanwadu ar brofiadau gwneud penderfyniadau a dysgu mewn amgylcheddau lle mae eu safbwyntiau yn cael eu cydnabod, eu parchu a’u hymateb.”
Ychwanegodd Dr Jacky Tyrie: “Mae’r llyfr hwn yn archwilio sut gall cyfranogiad symud y tu hwnt i ymgynghoriad er mwyn dod yn rhan sefydlog o ymarfer plentyndod cynnar pob dydd. Rydym yn gyffrous iawn bod myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol bellach yn gallu cael gwybodaeth ymarferol am wrando ar blant, cydnabod eu safbwyntiau, a chreu amgylcheddau lle mae lleisiau plant ifanc yn dylanwadu ar wneud penderfyniadau a phrofiadau dysgu.”
Wedi’i ddisgrifio gan feirniad fel “adnodd amserol a chyfoethog”, mae Young Children’s Participation: Exploring Practice in Early Education and Care (Routledge) ar gael fel llyfr clawr caled, clawr papur ac fel e-lyfr.
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 01267 676790