Skip page header and navigation

Bydd treftadaeth ieithyddol gyfoethog Gorllewin Cymru’n cael ei dathlu mewn diwrnod agored arbennig a gynhelir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen ar gampws Llambed, ar 29 Ebrill am 2pm.

image of Dr Christine Jones

Mae’r diwrnod agored hwn yn cynnig cyfle prin i ymgysylltu ag archif ddiwylliannol bwysig ac archwilio gorffennol, presennol a dyfodol tafodieithoedd Cymraeg yng Ngorllewin Cymru.

Bydd y digwyddiad, o’r enw “Archif Tafodieithoedd Dyfed: Ddoe, Heddiw ac Yfory,” yn cynnwys sgwrs gan Dr Christine Jones, cyn Ddeon Addysg a’r Dyniaethau yn y Drindod Dewi Sant. Bydd Dr Jones yn adfyfyrio ar ei chyfranogiad yn yr astudiaeth arloesol, Arolwg Tafodieithoedd Dyfed (1983–88), a gynhaliwyd yn wreiddiol gan Brifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan - sydd bellach yn rhan o PCYDDS.

Dyma’r unig archif tafodieithoedd Cymraeg sy’n canolbwyntio’n unig ar dafodieithoedd y tair sir, Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin yng Ngorllewin Cymru. Mae’n cynnwys recordiadau o nifer sylweddol o blwyfi o fewn y tair sir uchod ac ar sail hynny mae’n ffynhonnell hynod gyfoethog o ddeunydd i ymchwilwyr.Mae’r astudiaeth academaidd o dafodieithoedd yn hanfodol i ddeall y berthynas gymhleth rhwng iaith a diwylliant. Mae’r archif a ddeilliodd o hyn, sy’n cynnwys mwy na 2,000 o dapiau sain, yn darparu cofnod unigryw o batrymau lleferydd rhanbarthol yn ystod cyfnod o safoni cynyddol yn yr  iaith Gymraeg. Y tu hwnt i ieithyddiaeth, mae’r recordiadau yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr i hanes cymdeithasol a phrofiadau byw cymunedau ledled Dyfed.

Ar yr adeg y gwnaed y recordiadau (1983-4 a 1986-88), roedd amrywiad semantig rhwng cenedlaethau ac ardaloedd yn arbennig o arwyddocaol, oherwydd datblygiadau mewn addysg a phatrymau symudedd cynyddol. Mae’r archif yn cofnodi’r symudiad graddol hwn i safoni ieithyddol, ac yn dangos y dirywiad mewn termau Cymraeg amaethyddol a morol arbenigol sy’n aml yn unigryw i’r ardal.

a collection of photographs from the archive showing the recording and interviewing process that happened a few years ago

Cyfyngedig fu’r cyhoeddiadau ar rai o’r tafodieithoedd hyn hyd yma, yn rhannol oherwydd data ieithyddol hygyrch cyfyngedig. Mae’r archif hon felly’n llenwi bwlch pwysig yn ein sylfaen wybodaeth. Mae’n rhoi’r cyfle i academyddion, yn enwedig y rhai sy’n arbenigo mewn tafodieitheg, sosioieithyddiaeth neu agweddau ar y dyniaethau,  gynnal astudiaethau cymharol manwl, a thrwy hynny ddarparu mewnwelediadau pwysig i sut mae’r Gymraeg a’i diwylliant yng Ngorllewin Cymru wedi esblygu dros amser.  

Meddai Dr Christine Jones: 

“Wrth bori drwy archif lafar fel Archif Tafodieithoedd Dyfed fe ddowch ar draws cymaint o wybodaeth hanesyddol na chewch mewn unrhyw lyfr am yr ardal, oherwydd mae atgofion y siaradwyr mor bersonol ac unigryw. Mae adnoddau hanes llafar fel yr archif hon yn fodd o ddod â’n cefndir ieithyddol, diwylliannol a hanesyddol yn fyw, ac mae’n bwysig eu cadw, fel y gall cenedlaethau’r dyfodol eu mwynhau a’u gwerthfawrogi.”

Caiff y mynychwyr gyfle i wrando ar ddarnau dethol o’r archif, sydd wedi’u digido’n ofalus gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, gan ddod â’r lleisiau hyn yn fyw i genhedlaeth newydd.

Traddodir y sgwrs yn Gymraeg, gyda chyfieithu ar y pryd ar gael. Gofynnir yn garedig i westeion sydd angen clustffonau nodi hyn wrth gadw lle.

images showing examples of recording and interviewing work that happened

Meddai Siân Collins, Pennaeth Casgliadau Arbennig ac Archifau yn y Drindod Dewi Sant: 

“Mae’r cyfweliadau hyn yn cynrychioli cofnod diwylliannol arbennig, gan gynnal y lleisiau, y tafodieithoedd a’r ffyrdd o fyw sydd ers hynny wedi diflannu. Maent yn amhrisiadwy nid yn unig i ymchwilwyr, ond i unrhyw un sydd â diddordeb ym mhrofiad bywyd cymunedau Cymraeg yn y gorffennol. Trwy fanylion sy’n ymddangos yn ddibwys – y gystadleuaeth rhwng plant oedd yn byw o bobtu afon, straeon am redeg trwy gaeau ar nosweithiau haf ers talwm yn chwarae gemau - mae’r recordiadau’n crisialu cof cyffredin a fyddai fel arall wedi’i golli. Mae gwaith Christine a’i chydweithwyr wedi diogelu rhan hanfodol o’n treftadaeth anniriaethol, gan greu gwaddol sy’n haeddu cael ei rannu a’i ddathlu.”

I gadw lle, cysylltwch â: specialcollections@uwtsd.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon