Skip page header and navigation

Mae cydweithrediad arloesol rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a Belron® yn hyrwyddo ymchwil i wydr modurol.

UWTSD's Jordan Jenkins demonstrates automotive glass chip technology

Daeth ymchwil a chyfleusterau arloesol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) o dan y chwyddwydr ar ei champws yn Abertawe yn ddiweddar.

Croesawodd yr Athro Kelvin Donne a Jordan Jenkins o Ganolfan Ymchwil Gwydr Modurol Cymru, labordy balisteg a gomisiynwyd gan Belron®, ddirprwyaeth o swyddogion gweithredol a newyddiadurwyr Carglass® Germany o’r Almaen i weld y cyfleusterau ac i ddysgu am ymchwil arloesol i wydr modurol sy’n ysgogi arloesedd yn y maes ac, yn y pen draw, o fudd i ddefnyddwyr ledled y byd.

Defnyddir y Ganolfan, sydd wedi’i lleoli ar gampws SA1 Glannau Abertawe y Brifysgol, i ymchwilio effaith y difrod sy’n digwydd pan fydd cerrig o’r ffordd yn taro sgriniau-gwynt cerbydau yn ogystal â ffactorau sy’n effeithio ar ddifrod i’r sgrin wynt, megis tymheredd amgylchynol, gwresogi’r sgrin ar foreau oer, oeri’r sgrin ar ddiwrnodau poeth ac amrywiad mewn mathau o gerrig o’r ffordd ac effaith cyflymder/onglau  yn ogystal â pham mae sglodion cerrig yn cael eu ffurfio a beth sy’n gwneud iddynt hollti dros amser. 

“Mae ein cyfleuster yn unigryw yn Ewrop”, meddai’r Athro Kelvin Donne, y dechreuodd ei gysylltiad â Belron® dros 30 mlynedd yn ôl. “Rydym yn cynnal ymchwil arbrofol ar sgriniau gwynt o fewn siambr darged a reolir ei thymheredd sy’n gallu symud rhwng tymheredd is-sero mor isel â -10 °C hyd at dymheredd mor uchel â 50 °C. Mae hyn yn golygu y gallwn ddarparu mewnwelediadau digyffelyb i ymddygiad gwydr modurol o dan amodau amgylcheddol amrywiol.”

Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu dirprwyaeth o’r Almaen â thîm ymchwil a staff academaidd y Drindod Dewi Sant ochr yn ochr â swyddogion gweithredol o Carglass® Germany a’i riant-gwmni Belron® i ddysgu am yr ymchwil a’i gymhwysiad masnachol. Cawsant hefyd sesiynau ymarferol yn y labordy balisteg a ddaeth â’r wyddoniaeth yn fyw ac aethant ar daith o amgylch cyfleusterau’r Brifysgol a oedd yn cynnwys gweithdai Modurol a Chwaraeon Modurol ac efelychydd F1. 

Dywedodd Dr Chris Davies, Pennaeth Ymchwil Dechnegol ac Arloesi Belron® ac Athro Ymarfer yn y Drindod  Dewi Sant: 

“Mae Belron® yn parhau i ddibynnu ar gyfleusterau ac arbenigedd unigryw PCYDDS yn ei ymdrech i wybod popeth am greu difrod gwydr a beth sy’n gwneud i sglodion cerrig dyfu a gwaethygu dros amser. Mae’r wybodaeth hon yn sicrhau bod Belron® a’i frandiau fel Carglass® yn parhau i ddarparu gwasanaeth atgyweirio sglodion o’r radd flaenaf i’w gwsmeriaid.”

Ochr yn ochr â’r cyfleuster arbrofol, mae’r Athro Donne wedi datblygu modelau cyfrifiadurol cymhleth o broblem effaith cyflymder uchel a’r hollti sy’n digwydd ar ôl y sglodyn cychwynnol. Mae’r gwaith efelychu yn cael ei raddnodi yn erbyn canlyniadau arbrofol a gafwyd o’r labordy balisteg, gan sicrhau cywirdeb a dibynadwyedd yn y canfyddiadau’r ymchwil.

Ychwanegodd yr Athro Donne: “Mae’r bartneriaeth rhwng y Drindod Dewi Sant a Belron® yn dangos ymrwymiad cydfuddiannol i hyrwyddo technoleg gwydr modurol a safonau diogelwch ar gyfer gweithgynhyrchwyr a gyrwyr ceir ledled y byd.” 

Professor Kelvin Donne presents the work of the Wales Automotive Glass Research Centre
Delegation from Germany visit UWTSD Wales Automotive Glass Research Centre

Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 01267 676790

Nodiadau i’r Golygydd

  • Yn ogystal â chefnogi Belron®, mae Canolfan Ymchwil Gwydr Modurol Cymru wedi cynnal ymchwil contract ar gyfer cleientiaid rhyngwladol, gan gynnwys Corning (UDA) ac AGC (Ewrop). 
  • Gyda gweithrediadau mewn 42 o wledydd ar draws chwe chyfandir a thua 30,000 o weithwyr, Belron yw un o brif grwpiau atgyweirio, ailosod ac ailraddnodi gwydr cerbydau yn y byd. Yn 2025, cwblhaodd 17.1 miliwn o swyddi i’w gwsmeriaid ac mae’n rhiant-gwmni Carglass Germany ac Autoglass Ltd yn y DU.

Rhannwch yr eitem newyddion hon