Bywydau Cudd wedi’u Datgelu mewn Diwrnod Agored Casgliadau Arbennig yn PCYDDS Llambed
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnal Diwrnod Agored Casgliadau Arbennig ddydd Mercher 28 Ionawr, a dydd Iau 29 Ionawr, yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen ar ei champws Llambed, sy’n gwahodd y cyhoedd i ddatgelu’r straeon sy’n aml yn cael eu hanghofio am y bobl y tu ôl i’r llenni a wasanaethodd y coleg.
Teitl Bywydau Cudd: Gweision Coleg Dewi Sant, mae’r digwyddiad yn ailymweld ag arddangosfa a ymddangoswyd gyntaf ddiwedd 2024 sy’n canolbwyntio ar y gweision a gyflogwyd gan Goleg Dewi Sant rhwng 1890 a 1979 ac yn dod â’u hanesion personol i’r amlwg drwy ymchwil archifol.
Wrth wraidd yr arddangosfa, mae ffotograff hynod a dynnwyd yn 1909, sy’n dangos gweision y Coleg gyda’i gilydd ac, yn anarferol, yn cofnodi eu henwau. Gan ddefnyddio’r ffotograff fel man cychwyn, ymgymerodd staff Casgliadau Arbennig ag ymchwil manwl er mwyn darganfod cymaint â phosibl am yr unigolion yn y llun; eu bywydau, eu gwaith a’u cysylltiadau â’r Coleg.
Bydd y Diwrnod Agored yn rhoi cipolwg i ymwelwyr, nid yn unig ar fywydau’r gweision eu hunain, ond hefyd i’r broses ymchwilio y tu ôl i’r arddangosfa, gan archwilio sut y gellir defnyddio deunyddiau archifol i ddatgelu hanesion cudd
Rhennir y diwrnod yn ddwy ran:
- Sesiwn galw i mewn yn y bore (10am-12.00pm)
Mae croeso i ymwelwyr alw i mewn ac edrych ar y deunyddiau archif gwreiddiol a ddefnyddiwyd yn yr ymchwil. - Sgwrs ac arddangosfa yn y prynhawn (2.00pm)
Sgwrs fwy manwl yn amlinellu’r daith ymchwil a darganfyddiadau allweddol ynghyd ag arddangosfa.
Mae angen archebu ymlaen llaw ar gyfer y sesiwn hwn.
Mae’r digwyddiad hwn yn cynnig cyfle prin i ymgysylltu’n uniongyrchol â chofnodion hanesyddol ac adfyfyrio ar fywydau’r rhain y mae eu cyfraniadau i’r Coleg wedi aros yn y cefndir ers amser hir.
Meddai Nicky Hammond, Archifydd Casgliadau Arbennig PCYDDS:
Bydd y cyntaf o ddigwyddiadau’r archif Casgliadau Arbennig yn arddangos amrywiaeth o ddeunyddiau archif sy’n datgelu bywydau’r gweision a fu’n gweithio yng Ngholeg Dewi Sant. Bydd yr eitemau sy’n cael eu harddangos yn cynnwys llyfrau cofnodion, mantolenni, ffotograffau, a disgrifiad swydd wedi’i ysgrifennu â llaw o’r 1890au.
Roedd hon yn arddangosfa hynod ddiddorol i’w hymchwilio, ac roeddem wrth ein boddau gyda faint roeddwn yn gallu ei ddarganfod o’n casgliadau archif.”
Am ragor o fanylion, gan gynnwys gwybodaeth archebu ar gyfer y sgwrs yn y prynhawn, cysylltwch â Ruth Gooding yn r.gooding@uwtsd.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476