Canfod cartref parhaus i Wydr Lliw o Goleg Celf Abertawe, PCYDDS, ym Mystwyr Abertawe
Mae casgliad o baneli gwydr lliw o archif Coleg Celf Abertawe y Brifysgol wedi cael ei osod yn barhaol ym Mystwyr Abertawe, mewn partneriaeth newydd sy’n dathlu treftadaeth artistig ac eglwysig gyfoethog y ddinas.
Mae Mystwyr Abertawe, a elwid yn flaenorol yn Eglwys Golegol y Santes Fair a’r Drindod Sanctaidd, wedi cynnig yn garedig i fod yn gartref i osodiad parhaol o 10 blwch golau sydd yn sefyll ar eu pennau eu hunain gan arddangos paneli gwydr lliw o archif y Brifysgol sy’n arwyddocaol yn rhyngwladol. Bydd y gosodiad yn dod â gwaith hanesyddol i galon y ddinas, gan ganiatáu i ymwelwyr brofi bywiogrwydd a chrefftwaith gwydr lliw mewn lleoliad agos-atoch a myfyriol.
Mae gwydr lliw wedi cael ei addysgu yng Ngholeg Celf Abertawe er y 1930au. Ers bron i ganrif, mae’r Coleg wedi hyfforddi cenedlaethau o artistiaid gwydr sydd wedi diffinio a datblygu’r cyfrwng yn y DU a thramor. Gwelir enghreifftiau o waith cyn-fyfyrwyr a staff eisoes mewn ffenestri a gomisiynwyd ar gyfer yr eglwys yn y 1980au a’r 90au, ac mae’r arddangosfa hon yn ychwanegu’n wych at y ffenestri hyn gyda detholiad wedi’i guradu’n ofalus o baneli a grëwyd gan fyfyrwyr, staff ac artistiaid gwadd er y 1950au.
Mae’r gweithiau yn adlewyrchu ystod eang o arddulliau a thechnegau artistig sy’n rhychwantu degawdau o arfer creadigol, wedi’u huno gan ymrwymiad cyffredin a pharhaol i ragoriaeth mewn crefft.
Meddai Owen Luetchford, Coleg Celf Abertawe: ““Mae Eglwys Gadeiriol Abertawe yn darparu’r lle pensaernïol delfrydol i arddangos gwaith o’n harchif. Mae’n gartref i rai gwydr lliw ysblennydd gan lawer o artistiaid Prydeinig amlwg yr ugeinfed ganrif, gan gynnwys sawl cynllun gan staff a chyn-fyfyrwyr o Goleg Celf Abertawe.
“Mae wedi bod yn bleser cydweithio â’r tîm yng Ngholeg Gadeiriol Abertawe i wireddu’r arddangosfa barhaol hon a rhannu ein casgliad o wydr lliw gyda’r gymuned ehangach. Dim ond detholiad bach o’n harchif yw’r gwaith sydd ar ddangos a wnaed gan fyfyrwyr, staff ac artistiaid sy’n ymweld ers y 1950au. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at arddangos gwaith gan ein myfyrwyr presennol yn y dyfodol agos.”
Mae’r artist a’r hanesydd Martin Crampin wedi bod yn tynnu lluniau ac yn catalogio’r casgliad hwn sydd o bwys rhyngwladol ochr yn ochr â’r artist gwydr lliw Christian Ryan, Coleg Celf Abertawe, gan ddiogelu ei dreftadaeth ac ehangu mynediad iddo. Gellir gweld cannoedd o’r paneli gwydr lliw ar-lein yma.
Mae gwydr lliw wedi adrodd straeon gweledol trwy olau ers dros fil o flynyddoedd. Mae ei offer, technegau a deunyddiau craidd wedi parhau yr un fath i raddau helaeth ers canrifoedd, gyda phob cam o’r broses yn cael ei gynnal â llaw. Trwy waith addysgu arloesol yn Abertawe gwelwyd cyfuno’r technegau traddodiadol hyn â ffyrdd newydd o wneud gweithiau celf mewn gwydr ar gyfer lleoliadau pensaernïol modern.
Mae Coleg Celf Abertawe yn parhau i fod yn ganolfan addysg gwydr a gydnabyddir yn fyd-eang. O ddylunio a thorri gwydr i baentio a gosod plwm, mae creu ffenestri newydd a gwaith cadwraeth yn gofyn am sgiliau arbenigol sy’n fwyfwy mewn perygl os na chânt eu trosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Trwy ei gyrsiau arbenigol, ei gyfleusterau a’i staff arbenigol, mae’r Coleg yn cynnig cyfle i fyfyrwyr feistroli prosesau gwydr traddodiadol a chyfoes, gan sicrhau bod gwydr lliw yn parhau i esblygu ac yn bwerus o berthnasol yn yr 21ain ganrif.
Mae’r bartneriaeth gyda Mystwyr Abertawe nid yn unig yn anrhydeddu cysylltiad hanesyddol y ddinas â’r cyfrwng ond hefyd yn edrych yn gadarn i’r dyfodol. Mae cynlluniau eisoes ar waith i arddangos gwaith myfyrwyr presennol maes o law, gan greu arddangosfa ddeinamig ac esblygol sy’n cysylltu cenedlaethau’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol o artistiaid gwydr.
Mae’r gosodiad bellach yn cael ei arddangos ym Mystwyr Abertawe, gan gynnig cyfle unigryw i ymwelwyr ddod ar draws bron i ganrif o addysgu a chelfyddyd gwydr lliw yn Abertawe.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071