Celyn Cartwright yn ymuno â chast The Ballad of Johnny & June ar daith genedlaethol
Mae Celyn Cartwright, cyn-fyfyrwraig BA Perfformio o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi ymuno â chast y sioe gerdd newydd The Ballad of Johnny & June, cynhyrchiad sy’n seiliedig ar fywydau’r cerddorion eiconig Johnny Cash a June Carter. Bydd y cynhyrchiad yn teithio ar hyd a lled y Deyrnas Unedig ar daith genedlaethol o fis Mawrth tan fis Medi.
Llun: Glyn Rainer
Mae’r sioe gerdd newydd sbon hon, a grëwyd gyda chefnogaeth eu teulu ac a adroddwyd trwy lygaid eu mab, John Carter Cash, yn dangos pam mae Johnny Cash a June Carter Cash yn parhau i fod yn un o gyplau mwyaf enwog yr 20fed Ganrif.
Bydd Celyn yn rhan o’r ensemble, ac yn dirprwyo’r cymeriad June Carter. Pan dderbyniodd Celyn y newyddion, meddai:
“Dwi’n gwireddu breuddwyd i fod yn gwbl onest - ac ma hynny yn deimlad arbennig. Mae’r sioe yma’n dod o America, ac yn newydd i’r DU, ac yn genre newydd i fi o ran y gerddoriaeth. Mae o’n her newydd a chyffrous chwarae rhan person sydd wedi byw, ac dwi wir isho gwneud cyfiawnder â hi.”
Dyma’r tro cynta i Celyn dderbyn rhan fel dirprwy, ac mae’n edrych ymlaen i ddysgu sgiliau newydd drwy wneud hynny. Ychwanegodd:
“Fyddai yn canolbwyntio ar fy nghymeriadau i, tra hefyd yn dysgu geiriau, caneuon ac symudiadau y prif ran, yn y gobaith y byddai yn cael mynd ymlaen fel June yn ystod y daith. Mae angen perffeithio’r acen, ond yn fwy na hynny, dwi yn edrych ymlaen i weithio gyda actorion hollol wych, a dysgu ganddyn nhw. Yn ogystal a hynny, mae’r sioe yn “actor/muso” felly dwi’n cael dysgu chwarae offeryn newydd, sef yr autoharp!
Ers i Celyn raddio o’r Brifysgol, mae wedi mwynhau gyrfa broffesiynol amrywiol a llwyddiannus, gan gynnwys teithio Ewrop gyda Lord of the Dance, teithio’r Deyrnas Unedig gyda’r sioe Come What May, a pherfformio ar lwyfannau Cymru gyda Theatr Bara Caws a Welsh of the West End. Yn ogystal, mae hi wedi ymddangos mewn sawl panto, wedi gwneud gwaith teledu, ac wedi bod yn rhan o brosiectau recordio cerddoriaeth.
Wrth edrych yn ôl ar ei chyfnod fel myfyrwraig ar y cwrs BA Perfformio, mae Celyn yn pwysleisio pa mor werthfawr oedd y sgiliau a ddysgwyd yno.
“Dwi’n cofio Angharad Lee yn dysgu ni sut i rannu script i fewn i guriadau pwysig, a dyna’n union wnes i dwrnod cynta yr ymarferion yma! Ma rhywun yn dysgu gymaint ar y cwrs, ac yn defnyddio y sgiliau yna, tips amhrisiadwy, ym mhob clyweliad a swydd.”
Dewis munud olaf oedd penderfyniad Celyn i ddod i astudio yn PCYDDS, ond dywedodd mai:
“dyna oedd y dewis gorau i mi wedi’r cyfan, ac fe wnes i fwynhau cwrs, a dysgu gymaint. Roedd y ffaith bod y cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg yn apelgar iawn, a’i fod yn gwrs perfformio, ac nid yn canolbwyntio ar un genre.”
Ei hoff agwedd ar y cwrs oedd yr amrywiaeth eang o brofiadau, gan gynnwys gwaith teledu, sgriptio. Ychwanegodd:
“Cawsom ein cyflwyno at bobl oedd yn y diwydiant e.e cyfarwyddwyr, awduron, cyfansoddwyr, cyfeilyddion. Cysylltiadau dwi’n eu trysori hyd heddiw.”
Meddai Angharad Lee, Rheolwr Rhaglen BA Perfformio a BA Theatr Gerddorol PCYDDS:
“Mae clywed fod Celyn yn parhau i ddefnyddio’r technegau dysgodd hi gyda ni yma yn PCYDDS yn wych. Mae llawer o’r gwaith yr ydym yn arbenigo ynddi yma yn dechnegau ‘psycho physical’ a sut mae codi y gwaith sydd angen ei wneud gyda testun i fod yn waith corfforol. Rydym yn annog perfformwyr i ddeall fod y corff yn dod o hyd i bethau weithiau cyn ei meddyliau ac annog perfformwyr i fethu.
“Llongyfarchiadau anferthol i Celyn. Rydym yn cadw llygad ar ei gyrfa, ac yn hollol falch ohoni.”
Am fwy o wybodaeth am y cwrs BA Perfformio, cysylltwch â Angharad Lee: Angharad.rees@uwtsd.ac.uk neu ewch i’n gwefan.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476