Skip page header and navigation

Cafodd wyth chwaraewr o dîm rygbi Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant eu dewis i gynrychioli Academyddion Cymru mewn gêm yn erbyn Prifysgol Rhydychen yng Nghlwb Rygbi Morgannwg Wanderers yn ddiweddar. 

Photo of players

Llion Jones (Clwb Rygbi Llangennech) sy’n chwarae yn safle’r bachwr oedd capten y tîm a chwaraeodd Josh Wrigglesworth (Clwb Rygbi Arberth) o’r Brifysgol yn safle blaenwr rheng flaen. Helpodd y ddau i ddarparu platfform cryf i’r ‘Accies’ wrth iddynt sicrhau buddugoliaeth o un pwynt mewn gêm gystadleuol iawn. 

Gwnaeth dau aelod arall o griw PCYDDS, myfyriwr TAR Fraser Deer (Clwb Rygbi De Gŵyr), a Rob Ayers argraff ar y cae gyda chyfres o rediadau trawiadol â’r bel.  

Y tu ôl i’r sgrym, roedd Noah Potter a Twm Davies o Glwb Rygbi Rhydaman. Mae’r ddau wedi cynrychioli’r clwb nodedig ar sawl achlysur yn y gorffennol. Yn ogystal, cafwyd gêm gyntaf gofiadwy gan Ifan Rossitter (Clwb Rygbi Cefn Cribwr), a ddathlodd ei ymddangosiad cyntaf i’r Accies drwy sgorio cais. 

Roedd Keiran Edwards (Clwb Rygbi San Clêr) wedi’i ddewis ar gyfer y garfan, ond yn anffodus roedd yn rhaid iddo dynnu yn ôl oherwydd anaf. Mae tîm Rygbi PCYDDS yn gobeithio y bydd yn cael cyfle arall i gynrychioli’r clwb yn y dyfodol. 

Meddai Pennaeth Rygbi PCYDDS, Gareth Potter: 

 “Roeddwn yn falch iawn bod cymaint o’n chwaraewyr yn cynrychioli clwb ar wahoddiad a fydd yn dathlu ei ganmlwyddiant y tymor nesaf. Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y cyfle a roddodd staff hyfforddi’r Accies i’r bechgyn. 

 “Mae’r ffaith bod cynifer o chwaraewyr y Drindod wedi cymryd rhan mewn gêm yn erbyn sefydliad mor nodedig â Phrifysgol Rhydychen yn dangos faint mae safon rygbi yn y Brifysgol wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon