Skip page header and navigation

O newid cyfeiriad yn ystod y pandemig i rôl broffesiynol mewn archaeoleg fasnachol, mae Max Morgan, un o raddedigion BA Archaeoleg ac Anthropoleg, wedi troi chwilfrydedd academaidd yn yrfa werth chweil.

Profile photo of Max Morgan in graduation gown

I Max Morgan, roedd y llwybr i ennill gradd ymhell o fod yn gonfensiynol. Ar ôl astudio cerddoriaeth glasurol yn wreiddiol yn y brifysgol yn 2019, rhoddodd y tarfu a achoswyd gan y pandemig gyfle iddo ailasesu ei ddyfodol ac archwilio diddordebau newydd.

Yn ogystal â graddio yr haf hwn, mae cyflawniadau academaidd eithriadol Max wedi’u cydnabod drwy iddo ennill Gwobr Cymdeithas Llambed mewn Archaeoleg a Bwrsariaeth Goffa Andrew Lawson mewn Archaeoleg.

Ar ôl darganfod anthropoleg drwy fodwl ethnogerddoleg, penderfynodd Max ddilyn gradd a ganolbwyntiai ar y Dyniaethau a chwblhaodd gwrs Mynediad i’r Dyniaethau yng Ngholeg Sir Gâr. Ac yntau’n benderfynol o barhau â’i astudiaethau yng Nghymru, mynychodd ddiwrnod agored yn PCYDDS a sylweddolodd yn fuan mai dyma’r union le iddo fe.

“Roeddwn i’n gwybod ar unwaith fy mod i eisiau astudio yno,” cofia Max. “Roedd y cyfuniad o archaeoleg ac anthropoleg yn apelio ataf, ac roedd amgylchedd y campws wir yn sefyll allan.”

Er iddo ddechrau ei astudiaethau gyda diddordeb cryf mewn anthropoleg, buan y darganfu Max angerdd am archaeoleg. Trwy ei astudiaethau a’i brofiadau ymarferol, datblygodd nod gyrfa clir ac aeth ati i ddod yn archaeolegydd aml ei ddoniau.

Un o’r agweddau ar PCYDDS yr oedd Max yn eu gwerthfawrogi fwyaf oedd yr amgylchedd dysgu clòs. Roedd y dosbarthiadau bach yn caniatáu iddo adeiladu perthynas gref â darlithwyr a chyd-fyfyrwyr, gan greu cymuned academaidd gefnogol a agorodd ddrysau i gyfleoedd ychwanegol a phrofiadau gwaith maes.

“Yn sgil y ffaith fod y brifysgol yn un llai ei maint, roedd y darlithwyr yn agos-atoch ac yn dod i’ch adnabod yn dda,” meddai. “Gwnaeth yr ymdeimlad hwnnw o gymuned wahaniaeth gwirioneddol trwy gydol fy astudiaethau.”

Bachodd Max ar bob cyfle i ennill profiad ymarferol ochr yn ochr â’i waith academaidd. Yn ystod ei radd, cymerodd ran mewn ystod eang o brosiectau a lleoliadau archaeolegol ledled y DU, gan gynnwys cloddio am olion mamothiaid o Oes yr Iâ yn Ne Cerney, cyfrannu at ymchwil archaeolegol yn Jersey, cymryd rhan yn Ysgol Faes Ystrad Fflur, a chefnogi catalogio archifau yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen. Cymerodd ran hefyd mewn dau dymor o gloddio ar safle PCYDDS yn Llanllŷr, lle datblygodd ddiddordeb mewn geoffiseg am y tro cyntaf.

Helpodd y profiadau hyn i siapio ei ddiddordebau academaidd a’i uchelgeisiau proffesiynol. Ochr yn ochr â gwaith maes, datblygodd Max angerdd arbennig am archaeoleg ddamcaniaethol, gan arwain at draethawd hir yn archwilio dulliau Materoliaeth Newydd o fewn y ddisgyblaeth.

Wrth adfyfyrio ar ei astudiaethau, mae Max yn tynnu sylw at ehangder y cyfleoedd sydd ar gael trwy’r cwrs.

“P’un a oedd yn brosiectau cloddio, modylau damcaniaethol a heriai’r ffordd roeddwn i’n meddwl am archaeoleg, neu gyfleoedd i weithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol, roedd yna bob amser rhywbeth diddorol i’w ddysgu.”

Fel llawer o fyfyrwyr, daeth Max ar draws cysyniadau heriol yn ystod ei radd, yn enwedig mewn modylau mwy damcaniaethol. Fodd bynnag, mae’n cydnabod cefnogaeth ei ddarlithwyr a’i benderfyniad ei hun i ymgysylltu â deunydd anodd i’w helpu i lwyddo.

Heddiw, mae Max eisoes wedi cymryd y cam cyntaf i adeiladu’r yrfa a ddychmygodd yn ystod ei astudiaethau. Yn ddiweddar, ymunodd â Headland Archaeology fel Geoffisegwr, gan gymhwyso’r sgiliau a’r profiad a gafodd yn PCYDDS mewn lleoliad proffesiynol.

“Mae’r radd hon wedi helpu fy llunio’n archaeolegydd,” meddai. “Rhoddodd y wybodaeth, y profiad ymarferol a’r hyder i mi ddechrau fy ngyrfa.”

Canmolodd Dr Tristan Nash, Cyfarwyddwr Academaidd Dros Dro ar gyfer y Dyniaethau yn PCYDDS, gyflawniadau Max a’r ymrwymiad a ddangosodd drwy gydol ei astudiaethau.

“Mae Max wedi bod yn fyfyriwr rhagorol y mae ei frwdfrydedd dros archaeoleg, ei barodrwydd i gofleidio cyfleoedd newydd a’i ymrwymiad i ddatblygu ei sgiliau ymarferol wedi bod yn amlwg trwy gydol ei amser gyda ni. Mae’n gwbl briodol bod ei gyflawniadau wedi’u cydnabod drwy ennill Gwobr Cymdeithas Llambed mewn Archaeoleg a Bwrsariaeth Goffa Andrew Lawson mewn Archaeoleg.Gwnaeth y mwyaf o bob cyfle a oedd ar gael iddo yn gyson, boed hynny trwy waith maes, lleoliadau, prosiectau ymchwil neu ei astudiaethau academaidd.

“Mae wedi rhoi boddhad mawr gweld Max yn sicrhau rôl gyda Headland Archaeology mor fuan ar ôl graddio. Mae ei lwyddiant yn adlewyrchu nid yn unig ei waith caled a’i ymroddiad, ond hefyd gwerth cyfuno astudiaeth academaidd â phrofiad ymarferol helaeth.

“Mae archaeoleg yn parhau i gynnig rhagolygon cyflogadwyedd cryf i raddedigion sy’n ymgysylltu’n weithredol â’r proffesiwn ac yn datblygu eu sgiliau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Mae Max yn enghraifft ardderchog o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy ymrwymiad, chwilfrydedd a pharodrwydd i fanteisio ar gyfleoedd, ac rydym yn falch iawn o’i weld yn dechrau’r hyn sy’n addo bod yn yrfa lwyddiannus mewn archaeoleg fasnachol a geoffiseg.”

Wrth edrych ymlaen, mae Max yn bwriadu parhau i adeiladu ei yrfa gyda Headland Archaeology, gan ddatblygu ei arbenigedd mewn geoffiseg a symud ymlaen yn y sector archaeoleg fasnachol.

Mae ei gyngor i ddarpar fyfyrwyr yn syml: os ydych chi’n gwerthfawrogi amgylchedd dysgu cefnogol, profiad ymarferol a’r cyfle i feithrin cysylltiadau ystyrlon â staff a chyd-fyfyrwyr, mae’n werth ystyried rhaglen Archaeoleg ac Anthropoleg PCYDDS.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon