Skip page header and navigation

Mae’n bleser gan Goleg Celf Abertawe ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gyhoeddi ADNABOD, arddangosfa MA Deialogau Cyfoes 2025, sy’n agor i’r cyhoedd ddydd Gwener 5 Rhagfyr yn Stiwdio Griffith. Gan arddangos gwaith carfan ôl-raddedig eleni, mae’r arddangosfa yn gwahodd cynulleidfaoedd i brofi archwiliad trawiadol o hunaniaeth, cof a’r naratifau anweledig sy’n siapio bywyd cyfoes.

A vibrant blue abstract art image

Mae’r teitl Cymraeg ADNABOD yn crisialu’r syniadau haenog o wybod ac adnabod. Gan adlewyrchu’r cymhlethdod hwn, mae’r arddangosfa yn dwyn ynghyd weithiau celf sy’n ymchwilio i hunaniaeth ddiwylliannol, dyfalbarhad cof, cynrychiolaeth fenywaidd, ac iechyd meddwl. Trwy ddulliau creadigol amrywiol, mae’r artistiaid yn datgelu ffyrdd newydd o weld eu hunain, ei gilydd, a’r byd ehangach yr ydym yn bodoli ynddo.

Gall ymwelwyr ddisgwyl corff deinamig o waith sy’n rhychwantu sawl disgyblaeth, wedi’i huno gan ymrwymiad cyffredin i ymholi beirniadol, adrodd straeon personol, ac arloesi artistig.

Dywedodd Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau: “Rydym yn hynod falch o gynnal ADNABOD ac i ddathlu creadigrwydd a gwaith caled ein myfyrwyr MA Deialogau Cyfoes. Mae’r arddangosfa hon yn arddangos eu safbwyntiau unigryw a’r syniadau pwerus maen nhw’n eu cyflwyno i’w harfer.”

Mae ADNABOD 2025 yn tynnu sylw at benllanw ymchwil dwys, cydweithredu a datblygiad artistig o fewn astudiaethau ôl-raddedig creadigol.

Mae’r arddangosfa yn rhad ac am ddim ac yn agored i’r cyhoedd.

Manylion yr Arddangosfa:

Digwyddiad Agoriadol: Dydd Gwener 5 Rhagfyr 2025, 4 PM – 9 PM

Lleoliad: Stiwdio Griffith, Abertawe, SA1 3EU

Oriau’r Arddangosfa: 10 AM – 4 PM (Ar gau ar ddydd Sul)

Instagram: @ad_na_bod


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon