Creu Ystafell Ddosbarth Lle Mae Pob Plentyn yn Perthyn
Ysbrydolwyd Marli Lawrence gan awydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i blant, ac yn ddiweddar aeth ati i gymhwyso’n athrawes.
Graddiodd y ferch 21 oed o Ddinbych-y-pysgod yn ddiweddar o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gydag Anrhydedd dosbarth Cyntaf mewn BA Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC).
I Marli, mae gyrfa mewn addysgu yn dilyn traddodiad teuluol cryf. “Athrawon mewn ysgolion lleol yw fy rhieni - mae fy mam yn athrawes ysgol uwchradd a fy nhad yn bennaeth ysgol gynradd”, meddai Marli, “felly, fel y gallwch chi ddychmygu, roedd addysg bob amser yn bwnc trafod gartref. Dwi ddim yn meddwl bod un foment pan sylweddolais i fy mod i eisiau bod yn athro. Rwy’n teimlo fy mod i bob amser wedi gwybod mai dyna roeddwn i eisiau ei wneud”.
Dewisodd Marli y cwrs am ei bod hi am gael gyrfa lle gallai hi wneud gwahaniaeth i fywydau plant. “Fy nod i, yn syml, oedd dod yr athrawes orau y gallwn i fod”, meddai. “Rwy am greu ystafell ddosbarth lle mae plant yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gyffrous i ddod i’r ysgol. Mae astudio gyda nam ar y clyw hefyd wedi cryfhau fy nealltwriaeth o ba mor bwysig yw cynhwysiant, ac mae hynny’n rhywbeth y bydda i’n mynd ag e i mewn i bob ystafell ddosbarth y bydda i’n dysgu ynddi”.
Dewisodd Marli astudio ar gampws Caerfyrddin PCYDDS oherwydd ei ymdeimlad cryf o gymuned a’i ymdeimlad o berthyn.
Meddai: “Roeddwn i am astudio yn rhywle roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n cael cymorth, a dyna’r union beth a ges i yn PCYDDS. Oherwydd yr ymdeimlad cryf o gymuned, daethom ni’n rhwydwaith mor gefnogol o ddarpar athrawon a oedd bob amser yno i galonogi ein gilydd, dathlu llwyddiannau ein gilydd a helpu ein gilydd trwy’r munudau mwy heriol. Ar hyd y ffordd, bues i’n ddigon ffodus i wneud ffrindiau oes!”.
Un o uchafbwyntiau’r cwrs oedd yr elfen lleoliad lle mae myfyrwyr yn treulio amser mewn ysgolion sy’n rhan o bartneriaeth dysgu proffesiynol y Brifysgol.
Meddai: “Roedd hi’n bwysig i mi gwblhau fy lleoliadau yn Sir Benfro, lle rwy’n gobeithio dechrau fy ngyrfa addysgu. Roeddwn i’n hynod ffodus bod pob un o’m tri lleoliad mewn ysgolion croesawgar a chefnogol, a phob un yn darparu profiadau gwahanol a’m helpodd i i fagu hyder a datblygu fy ymarfer addysgu. Rhoddodd pob ysgol gyfle i mi ddysgu gan staff ymroddedig a oedd yn hael gyda’u hamser, eu harweiniad a’u hanogaeth.
“Cwblheais i fy lleoliad olaf yn Ysgol Gymunedol Doc Penfro, sef ysgol arweiniol fy rhwydwaith i hefyd. Cefnogodd yr ysgol fi trwy gydol fy mhrosiect ymchwil terfynol, a darparodd gyfleoedd pontio gwerthfawr, gan fy ngalluogi i barhau i ddatblygu fy mhrofiad a’m hyder wrth i mi baratoi ar gyfer fy ngyrfa addysgu. Roedd fy mentor dosbarth, fy uwch fentor a’r tîm staff ehangach yn hynod gefnogol drwy’r amser, bob amser yn gwneud amser i gynnig arweiniad, sicrwydd a chyfleoedd i ddatblygu. Roedd eu calondid nhw yn help i mi fagu hyder yn athro a gwneud i mi deimlo’n aelod gwerthfawr o gymuned yr ysgol.”
Ochr yn ochr â’i lleoliadau, ymgymerodd Marli ag ymchwil i archwilio sut mae ysgolion yn meithrin perthynas â’u cymunedau ehangach, ymchwil a gyflwynodd hi i uwch dîm arwain ei Hysgol Arweiniol Rhwydwaith, yn ogystal â chyflwyno yng nghynhadledd addysgu flynyddol y Brifysgol.
Meddai: “Un o funudau mwyaf balch o fy ngradd oedd cael fy newis i gyflwyno yng Nghynhadledd Anelu at Ragoriaeth y Brifysgol. Roedd hwn yn brofiad hollol y tu allan i’m lle diogel i, ond ces i fy atgoffa bod y cyfleoedd gorau, yn aml, yn dod o’ch herio eich hun.”
Meddai eto: “Mae’r cwrs hwn wedi rhoi’r hyder i mi ddechrau fy ngyrfa addysgu ac wedi fy annog i gamu allan o fy lle diogel. Rhai o’m hoff atgofion yw’r eiliadau bach, fel cerdded yn ôl i’r ystafell ddosbarth brynhawn Mawrth ar ôl CPA a chlywed “Miss Lawrence, gwelon ni’ch eisiau chi!” Atgoffodd yr eiliadau hynny fi, yn union, pam y dewisais i addysgu!”.
Er y gallai cydbwyso, gwaith prifysgol a rhan-amser fod yn heriol, daeth Marli o hyd i’r amser i greu ei hadnoddau llaw a digidol i wneud pob gwers yn ddiddorol ac ystyrlon i’w dysgwyr.
Meddai: “Dros amser, dysgais i weithio’n fwy effeithlon a sylweddolais i fod y gwahaniaeth mwyaf yn dod o adnabod eich dysgwyr, bod yn addasadwy a gwneud y gorau o bob cyfle dysgu”.
Meddai Marli eto: “Mae addysgu yn caniatáu imi gyfuno creadigrwydd, chwilfrydedd a pherthnasoedd ystyrlon wrth helpu plant i ddatblygu hyder a chariad at ddysgu”.
Mae hi’n argymell y cwrs yn fawr i unrhyw un sy’n ystyried gyrfa mewn addysg. Meddai: “Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r cydbwysedd perffaith i chi rhwng dysgu prifysgol a phrofiad dysgu ymarferol, fel y gallwch chi roi popeth rydych chi’n ei ddysgu ar waith ar unwaith.
“I mi, y bobl a wnaeth y gwahaniaeth mwyaf ar y cwrs hwn. Roedd pob darlithydd yn hygyrch, yn gefnogol ac am i mi lwyddo mewn gwirionedd, yn broffesiynol ac yn bersonol. Roeddwn i bob amser yn teimlo bod rhywun y gallwn i droi ato, waeth pa mor fawr neu fach oedd y broblem”.
Mae Marli bellach yn bwriadu teithio i weld mwy o’r byd ac ymgymryd â gwaith cyflenwi rhwng ei theithiau. Mae hi hefyd yn dysgu Cymraeg i gynyddu ei hyder yn yr iaith yn ogystal â Sbaeneg fel y gall hi gysylltu â threftadaeth ei theulu.
“Rwy’n gwybod y bydd y profiadau hyn yn fy helpu i dyfu’n bersonol ac yn darparu profiad bywyd gwerthfawr y byddaf yn ei gario i mewn i’m dysgu,” meddai. “Er fy mod i’n methu ag aros i gael fy ystafell ddosbarth fy hun, rwy’n bwriadu gwneud rhywfaint o addysgu cyflenwad ar draws amrywiaeth o ysgolion yn Sir Benfro rhwng fy nheithiau cyn chwilio am swydd addysgu fwy parhaol.
“Dwi’n methu ag aros i ddechrau fy ngyrfa addysgu a dod yn rhan o gymuned ysgol lle galla i barhau i ddysgu wrth ysbrydoli plant,” meddai.
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 01267 676790