Croesawu Coleg Ceredigion i ddiwrnod profiad Addysg Uwch mewn Plentyndod ac Addysg
Yn ddiweddar, cynhaliodd tîm Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Ddiwrnod Profiad Addysg Uwch yng Nghaerfyrddin, gan groesawu myfyrwyr addysg a gofal plant o gampws Coleg Ceredigion, Aberystwyth.
Cynigiodd y diwrnod gyfle i fyfyrwyr gwrdd â thîm darlithio Plentyndod, archwilio portffolio’r cwrs, cymryd rhan mewn gweithdai ymarferol, ac ymweld ag Ystafell Drochi arloesol y Brifysgol.
Cafodd y myfyrwyr gyfle i gymryd rhan mewn gweithdai ymarferol yn gysylltiedig â datblygiad iaith plant ifanc yn ogystal ag archwilio pwysigrwydd allweddol gwaith tîm a sgiliau arwain ar gyfer y rheiny sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn meysydd yn ymwneud â phlentyndod ac addysg. Anogodd y gweithdai ddatblygiad sgiliau sy’n gysylltiedig â hyder, gwaith tîm, a chyfathrebu. Yn ogystal, cafodd myfyrwyr syniadau ar sut i gefnogi eu datblygiad proffesiynol, gan gynnwys ffyrdd i gefnogi datblygiad lleferydd ac iaith plant drwy adrodd straeon a chwarae creadigol.
Soffi Morgan, oedd un o’r myfyrwyr a ddaeth i’r diwrnod agored. Meddai:
“Fe wnes i fwynhau’r diwrnod gan fy mod i wedi dysgu llawer am chwarae rôl plant drwy adrodd straeon. Yn ogystal, fe wnes i fwynhau’r gwersi roedden nhw wedi dysgu i ni, yn enwedig pwysigrwydd gwaith tîm wrth adeiladu tŵr allan o falws melys a sbageti.
Meddai’r fyfyrwraig Erin Davies:
“Fe wnes i fwynhau fy ymweliad â PCYDDS yn fawr. Newidiodd fy meddyliau am brifysgol a sbardunodd ddiddordeb mewn hyrwyddo fy nhaith ddysgu academaidd.
“Alison Rees-Edwards, yn benodol, a’m hanogodd i wneud cais am gwrs blynyddoedd cynnar, roedd ei gwers wedi dal fy sylw, roedd yn addysgiadol iawn, ac rwy’n teimlo fy mod i wedi dysgu llawer.
“Roedd ei harddull dysgu yn ysgogol iawn, fel yr oedd gwers Natasha Young, a oedd yn ffordd wych o ymgorffori dysgu gyda chwarae a gwneud y profiad yn hwyl ac yn addysgol.”
Meddai Glenda Tinney, darlithydd Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg:
“Rydym bob amser yn falch iawn i groesawu Coleg Ceredigion, yn enwedig gan eu bod bob amser yn frwdfrydig ac yn barod i ymgysylltu â gweithgareddau’r diwrnod blasu. Maen nhw’n llysgenhadon gwych i Goleg Ceredigion a gwnaeth eu brwdfrydedd argraff arnom yn ystod y diwrnod.
“Mae ein hymweliadau Profiad Addysg Uwch wedi’u cynllunio i chwalu rhai mythau am addysg uwch felly gall myfyrwyr weld drostyn nhw eu hunain sut mae cyrsiau addysg uwch yn PCYDDS yn datblygu’r cysylltiadau rhwng theori ac arfer a chyfuno dysgu gweithredol ochr yn ochr â thasgau ymchwil a thrafod. Rydym am i fyfyrwyr weld bod cyrsiau yn ymwneud â mwy nag eistedd yn oddefol mewn darlithoedd. Yn hytrach, rydym yn cynnig ystod o weithgareddau dysgu gwahanol, sy’n ymarferol, yn rhyngweithiol ac sy’n gwerthfawrogi cydweithrediad a mewnbwn myfyrwyr. Yn ogystal, rydym yn gwneud y gorau o amgylcheddau dysgu arloesol gan gynnwys yr ystafell ddosbarth, yr awyr agored ac adnoddau digidol, felly mae dysgu yn drochol.”
Meddai Annwen Evans, darlithydd gofal plant Coleg Ceredigion:
“Cynigiodd yr ymweliad gipolwg gwerthfawr i gyfleoedd dilyniant yn y sector blynyddoedd cynnar a helpodd dysgwyr i ddatblygu sgiliau allweddol i gefnogi eu hastudiaethau a’u gyrfaoedd yn y dyfodol.
“Roedd y dysgwyr yn frwdfrydig, wedi’u hymgysylltu’n llwyr, ac wedi cynrychioli’r coleg yn arbennig o dda drwy gydol y dydd.
“Hoffem ymestyn ein diolchiadau i dîm y blynyddoedd cynnar yn PCYDDS Caerfyrddin am eu croeso cynnes ac am ddarparu profiad mor gyfoethog a chofiadwy i’n dysgwyr.”
Cysylltwch ag info@uwtsd.ac.uk i ddysgu rhagor am ein cyrsiau neu’n Diwrnodau Profiad Addysg Uwch.
Gallwch gysylltu â g.tinney@uwtsd.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476