Cydnabod Arwen Garland â Gwobr Gwasanaeth Tu Hwnt i’r Galw yn Rowndiau Terfynol y Byd yn Llundain
Mae Arwen Garland, myfyrwraig Digwyddiadau a Rheolaeth Gwyliau Rhyngwladol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi sicrhau cydnabyddiaeth ryngwladol ar ôl derbyn Gwobr Gwasanaeth Tu Hwnt i’r Galw am Waith Blaen Tŷ yn Rowndiau Terfynol mawreddog Young Chef Young Waiter Young Mixologist, a gynhaliwyd yn Llundain.
Gwnaeth y ferch 19 oed o Abertawe, a enwyd yn flaenorol yn Weinydd Ifanc y Flwyddyn Cymru 2025 yn y rowndiau terfynol cenedlaethol a gynhaliwyd yn Stadiwm Swansea.com, argraff ar banel rhyngwladol o feirniaid gyda’i phroffesiynoldeb eithriadol, ei harbenigedd technegol, a’i hangerdd am letygarwch, gan ennill un o anrhydeddau unigol nodedig y gystadleuaeth.
Dechreuodd taith Arwen, sy’n rhugl ei Chymraeg, mewn lletygarwch yn yr un stadiwm ar ei phen-blwydd yn 16 oed yn ystod cyngerdd Elton John. Ers hynny, mae hi wedi adeiladu portffolio helaeth o brofiad ar draws timau cynadledda a digwyddiadau, criwiau gosod, a lletygarwch diwrnod gêm.
Yn rhan o’i phrofiad prifysgol yn PCYDDS, mae Arwen wedi cael ei lleoli yn Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe, lle mae hi bellach yn gweithio’n Oruchwyliwr Bariau. Yn ystod ei lleoliad, mae hi hefyd wedi bod yn gweithio gyda’r Tîm Digwyddiadau Stadiwm, gan helpu i drefnu ystod eang o ddigwyddiadau a chynadleddau unigryw, gan gynnwys cynnal sioe’r seren fyd-eang Snoop Dogg.
Bu Arwen yn aelod gweithgar o Dîm Digwyddiadau Myfyrwyr PCYDDS, gan gyfrannu at gyflwyno Parti Tŷ 2024, ac mae wedi cefnogi ITT Future You Cymru ers 2024. Eleni, ymgymerodd hefyd â rôl panelydd fyfyriwr yn Future You Wales, gan rannu ei thaith yrfa ac ysbrydoli eraill, wrth edrych ymlaen at helpu i drefnu digwyddiad 2026.
Ochr yn ochr â’i hastudiaethau, mae Arwen wedi cofleidio pob cyfle i ehangu ei gwybodaeth a’i phrofiad yn y diwydiant. Mae hi wedi cymryd rhan mewn teithiau maes i Lundain, wedi mynychu World Travel Market (WTM) Llundain a digwyddiad #Passion4Hospitality y Sefydliad Lletygarwch, ac wedi ennill profiad ymarferol gwerthfawr yn gweithio yn y Beach House yn Abertawe sydd â seren Michelin.
Meddai Arwen: “Mae cynrychioli Cymru a PCYDDS yn Llundain wedi bod yn anrhydedd anhygoel, ac rwy’n falch iawn o fod wedi cyflawni’r wobr hon ochr yn ochr â chystadleuwyr mor dalentog o bob cwr o’r byd.
“Mae fy nghwrs wedi chwarae rhan enfawr o ran fy mharatoi i ar gyfer y foment hon. O ddatblygu fy sgiliau gwasanaeth a gwybodaeth am win i ddeall cynaliadwyedd a dyfodol lletygarwch, roeddwn i’n teimlo’n barod i ymgymryd â’r heriau. Fe wnaeth y gystadleuaeth fy ngwthio i feddwl yn feirniadol, addasu’n gyflym, a darparu’r safonau uchaf o wasanaeth, ac rydw i wedi tyfu cymaint trwy’r profiad.
“Dechreuodd y daith hon yn Abertawe pan oeddwn i’n 16 oed, ac mae cael fy nghydnabod ar lwyfan y byd nawr yn deimlad swreal. Gobeithio y bydd e’n ysbrydoli pobl ifanc eraill yng Nghymru i ddilyn gyrfa ym maes lletygarwch; mae’n ddiwydiant sy’n llawn cyfleoedd.”
Dathlodd PCYDDS, a gynhaliodd rowndiau terfynol Cymru ac a gefnogodd Arwen drwy gydol ei thaith, ei champ yn dystiolaeth o gryfder ei rhaglenni a’i phartneriaethau sy’n canolbwyntio ar y diwydiant.
Meddai Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen PCYDDS: “Rydyn ni wrth ein bodd o weld Arwen yn cael ei chydnabod yn Rowndiau Terfynol y Byd gyda’r wobr fawreddog hon. Camp a hanner yw hon ac yn achos balchder nid yn unig i Arwen ond hefyd i’r Brifysgol a’r sector lletygarwch ehangach yng Nghymru.
“Mae ymroddiad, proffesiynoldeb ac angerdd Arwen bob amser wedi sefyll allan. Mae ei llwyddiant yn tynnu sylw at ffocws byd go iawn ein cwrs Rheoli Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol a’r cyfleoedd y mae’n eu darparu i fyfyrwyr ennill profiad ystyrlon yn y diwydiant. Mae hi wedi cynrychioli Cymru gyda bri, ac rydyn ni yn falch dros ben ohoni.”
Ychwanegodd Dr Jayne Griffith-Parry, Cyfarwyddwr Academaidd Lletygarwch a Rheoli Twristiaeth yn PCYDDS: “Mae hon yn gamp ar y naw. Mae derbyn gwobr unigol ar y lefel hon i Arwen yn beth hollol eithriadol.
“Mae ethos PCYDDS, sy’n cyfuno rhagoriaeth academaidd ag ymgysylltu â’r diwydiant, wedi ei adlewyrchu’n glir yn llwyddiant Arwen. Mae hi’n ymgorffori dyfodol lletygarwch: medrus, meddylgar, gydag ymwybyddiaeth fyd-eang. Edrychwn ni ymlaen at ei chefnogi wrth iddi barhau â’i thaith i arweinyddiaeth yn y sector.”
Yn Rowndiau Terfynol y Byd gwelwyd cynrychiolaeth gref gan staff PCYDDS hefyd. Roedd Antoinette Milne, Hyfforddwr Gwin Preswyl WSET a Darlithydd mewn Rheoli Lletygarwch, yn rhan o’r panel beirniaid ar gyfer categori Cymysgwyr. Ochr yn ochr â Dr Jayne Griffith-Parry, bu’r ddwy yn gweithio’n ddiflino drwy gydol yr wythnos, gan gefnogi myfyrwyr a chyfrannu i ddarparu’r pencampwriaethau.
Roedd Arwen yn rhan o dîm Cymru a oedd yn cystadlu yn rowndiau terfynol y byd ochr yn ochr ag enillwyr cenedlaethol gwobrau’r Cogydd Ifanc a’r Cymysgydd Ifanc, gan arddangos y gorau o dalent Cymru i gynulleidfa ryngwladol o gogyddion blaenllaw, gweithwyr proffesiynol lletygarwch ac arbenigwyr yn y diwydiant.
Roedd y gystadleuaeth ei hun yn brofiad rhagorol i’r tîm. Ar draws sawl diwrnod yn Llundain, maen nhw nid yn unig yn cystadlu yn erbyn timau o bob cwr o’r byd ond hefyd wedi dysgu gan rai o’r gorau yn y diwydiant mewn lleoliadau o fri:
- Diwrnod 1: Digwyddiad Lansio yn Brooklands gan Claude Bosi yn The Peninsula Llundain
- Diwrnod 2: Diwrnod y farchnad a’r diwydiant, gan gynnwys ymweliadau â Marchnad Bysgod Billingsgate, Fortnum & Mason, HG Walter Butchers, a Jumeirah Carlton Towers
- Diwrnod 3: Diwrnod y Gystadleuaeth yn Jumeirah Carlton Towers Llundain
Dywedodd Arwen y bydd hi’n parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn. Yn syth ar ôl y pencampwriaethau, bydd hi’n cydweithio â chyd-fyfyrwyr i gyflwyno Dawns Fasgiau yn rhan o’u Prosiect Digwyddiadau Byw.
Mae’r gystadleuaeth Young Chef Young Waiter Young Mixologist yn parhau i fod yn un o gonglfeini calendr lletygarwch y DU, gan ddathlu egin dalent ar draws y diwydiant. Ar agor i gystadleuwyr o dan 28 oed, mae’n darparu llwyfan byd-eang i’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol lletygarwch.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071