Cydnabyddiaeth Fyd-eang i Ddarlithydd yn PCYDDS yn Rownd Derfynol Gwobr Addysgwyr Dylunio
Mae Vibhor Sharma, Uwch Ddarlithydd mewn Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer categori Addysgwr Dylunio y Flwyddyn yng Ngwobrau Pobl Car Design News (CDN) 2026.
Mae Gwobrau Pobl CDN yn dathlu’r dylunwyr, timau, addysgwyr, ac egin dalent amlwg sy’n llunio dyfodol y diwydiant dylunio modurol byd-eang. Mae’r gwobrau’n cydnabod rhagoriaeth ar draws sbectrwm eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys dylunio allanol a mewnol, modelu clai, deallusrwydd artiffisial, profiad defnyddwyr, cynaliadwyedd, a dylunio uwch.
Mae’r categori Addysgwr Dylunio y Flwyddyn yn anrhydeddu unigolion sydd wedi cael effaith sylweddol ar addysg ddylunio trwy arloesi, arweinyddiaeth, a datblygu talent diwydiant y dyfodol.
Gyda mwy na 15 mlynedd o brofiad sy’n rhychwantu diwydiant a’r byd academaidd, mae Vibhor wedi sefydlu enw da rhyngwladol yn addysgwr a dylunydd modurol. Mae ei yrfa broffesiynol wedi cynnwys rolau gyda sefydliadau blaenllaw megis Mahindra & Mahindra, Hyundai Motors, Volvo-Eicher a Mahindra Odyssea, lle cyfrannodd at ystod o brosiectau trafnidiaeth a symudedd arloesol.
Cyn ymuno â PCYDDS, gwasanaethodd Vibhor yn Bennaeth yr Adran Dylunio Trafnidiaeth yn Sefydliad Dylunio MIT yn Pune, India, lle bu’n arwain rhaglenni academaidd ac yn mentora dylunwyr uchelgeisiol. Trwy gydol ei yrfa, mae wedi cyflwyno dosbarthiadau meistr a darlithoedd gwadd mewn sefydliadau mawreddog, gan rannu arbenigedd ym maes dylunio modurol ac arloesi symudedd sydd â ffocws ar y dyfodol.
Yn PCYDDS, mae Vibhor yn addysgu ar draws ystod o bynciau arbenigol, gan gynnwys dylunio cysyniad, pecynnu cerbydau, dylunio cychod, dylunio lliw, deunyddiau a gorffen (CMF), dylunio cerbydau masnachol, dylunio cerbydau ar gyfer anghenion arbennig, ac addasu modurol. Mae’n arbennig o angerddol am baratoi myfyrwyr ar gyfer heriau sy’n esblygu’n gyflym yn y sectorau modurol a thrafnidiaeth.
Meddai Vibhor: “Mae’n anrhydedd i mi fod ar y rhestr fer ar gyfer Addysgwr Dylunio y Flwyddyn. Mae dylunio modurol wrthi’n trawsnewid mewn modd digynsail, wedi’i yrru gan dechnolegau newydd, blaenoriaethau cynaliadwyedd, ac esblygiad anghenion defnyddwyr. Fel addysgwr, ein cyfrifoldeb ni yw ysbrydoli myfyrwyr i gofleidio’r newidiadau hyn, meddwl yn greadigol a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i lunio dyfodol symudedd. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu nid yn unig fy ngwaith ond hefyd brwdfrydedd, talent ac ymroddiad y myfyrwyr rydw i wedi cael y fraint o’u haddysgu a’u mentora.”
Yn ystod ei yrfa broffesiynol, mae Vibhor wedi gweithio ar ystod amrywiol o brosiectau dylunio, gan gynnwys dylunio a datblygu tu mewn bysiau a lorïau ar gyfer Cerbydau Masnachol Mahindra, cerbyd amlbwrpas cysyniad ar gyfer Hyundai Motors, prosiectau dylunio cychod hwylio, ymchwil trafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol ar gyfer Volvo-Eicher a dylunio a datblygu cerbyd campws trydan ymreolaethol.
Ochr yn ochr â’i gyfrifoldebau addysgu, mae Vibhor ar hyn o bryd yn dilyn PhD sy’n canolbwyntio ar addasu ceir personol. Cydnabuwyd ei gyflawniadau hefyd trwy nifer o wobrau, gan gynnwys y Wobr I-Design a’r ail safle ym Mrwydr y Prosiectau Dylunio yng Ngŵyl Ddylunio Pune, yn ogystal â llwyddiant mewn sawl cystadleuaeth dylunio roboteg.
Meddai Dr Mark Cocks, Deon Athrofa Gwyddoniaeth Cymru yn y Drindod Dewi Sant: “Rydyn ni’n falch iawn o weld ymroddiad Vibhor i addysg ddylunio yn cael ei gydnabod ar lwyfan rhyngwladol. Mae ei gyfuniad o arbenigedd yn y diwydiant, arweinyddiaeth academaidd ac ymrwymiad i lwyddiant myfyrwyr yn ei wneud yn addysgwr rhagorol. Mae’r rhestr fer hon yn adlewyrchu’r profiad dysgu o ansawdd uchel sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth yn PCYDDS ac yn dangos ein hymrwymiad i ddatblygu’r to nesaf o dalent greadigol ar gyfer y sector symudedd byd-eang.”
Cyhoeddir enillwyr Gwobrau Pobl Car Design News 2026 yn ddiweddarach eleni.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071