Skip page header and navigation

Mae Canolfan Arloesi Cymdeithasol, sef canolfan ar y cyd rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS)Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Sefydliad Gwyddoniaeth Tokyo wedi cyhoeddi partneriaeth arloesol.  Mae’r cydweithrediad rhyngwladol hwn wedi’i ymroi i hyrwyddo gweithgarwch corfforol, iechyd, a diogelwch o blentyndod cynnar hyd at ddiweddarach mewn bywyd. 

A group of people standing in a curved line in front of a glass-fronted building.

Cafodd Memorandwm o Ddealltwriaeth (MoU) ei lofnodi rhwng y sefydliadau mewn digwyddiad a gynhaliwyd ar gampws Glannau SA1 Abertawe heddiw (4 Rhagfyr). 

Bydd y cytundeb yn hwyluso cydweithio mewn ymchwil gwyddonol, datblygu a gwerthuso technolegau digidol y gellir eu gwisgo a chynhyrchion a gwasanaethau diogelwch.  Bydd yn cynnwys dylunio, prototeipio, profi a dilysu technolegau a fwriedir i hyrwyddo ffordd o fyw diogel ac yn egnïol ar draws rhychwant oes ddynol.     

Yn ogystal, bydd y bartneriaeth yn canolbwyntio ar greu astudiaethau ac ymyriadau effeithiol sy’n hyrwyddo iechyd a llesiant ar draws pob cyfnod o fywyd, wrth fynd i’r afael ag anghenion oedran penodol a strategaethau lleihau risg. 

Fel rhan o’r fenter hon, bydd y sefydliadau yn rhannu arbenigedd, adnoddau, a gwybodaeth a byddant yn archwilio cyfleoedd ar y cyd am gyllido cyhoeddiadau academaidd, a lledaenu canfyddiadau ymchwil. 

Yn ogystal â chydweithio ymchwil, bydd platfform ar y cyd ar gyfer hyfforddi a chyfenwid staff sy’n cynnwys: 

  • Rhaglenni cydweithredol mewn ymchwil ac addysgu gwyddonol
  • Datblygu proffesiynol a mentrau hyfforddi
  • Cyfleoedd ar gyfer ysgolheigion gwadd

Meddai’r Athro Wendy Dearing, o’r Ganolfan Arloesi Gymdeithasol: “Rydym yn croesawu’r cyfle i gydweithio gyda Sefydliad Gwyddoniaeth Tokyo. Trwy gyfuno arbenigedd ar draws ymchwil, addysg, ac arloesi, nod y bartneriaeth yw cyflwyno mentrau sy’n cefnogi ffyrdd o fyw iach a gwella llesiant i gymunedau yng Nghymru a Japan”.

Meddai Mark Henwood, Cyfarwyddwr Meddygol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:   “Mae gweithio gyda Sefydliad Gwyddoniaeth Tokyo yn gyfle cyffrous i ni i gyd.  Bydd yn ein galluogi i rannu arbenigedd a dysgu arloesol ac edrych ar ffyrdd gwahanol o wneud pethau.  Yn ei dro, bydd hyn yn dod â buddion iechyd a chymdeithasol i’n cymunedau yn ardal Hywel Dda a Japan.”

Ychwanegodd yr Athro Yoshifumi Nishida o Sefydliad Gwyddoniaeth, Japan:  “Nid yn unig yr ydym yn archwilio technolegau newydd, ond rydym hefyd yn creu systemau cymdeithasol i gefnogi cymdeithas amrywiol.  Rydym yn disgwyl y bydd hwn yn gyfle gwych i ddatblygu perthynas gydweithio gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Sefydliad Gwyddoniaeth Tokyo, sy’n dilyn mentrau arloesol yn y ddau faes. 

Meddai’r Athro Gareth Davies, Deon Athrofa Rheolaeth ac Iechyd:   “Nod ein partneriaeth sefydledig gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw manteisio ar ein cryfderau mewn ymchwil cynhwysol ac arloesi i wella ansawdd bywyd ynghyd â iechyd a llesiant unigolion yn ein cymunedau. Mae’r cyfle i gydweithredu gyda Sefydliad Gwyddoniaeth Japan yn ychwanegu gwerth a phersbectif rhyngwladol i’n partneriaeth a bydd y cyfle i rannu gwybodaeth, adnoddau o fudd enfawr i’n partneriaeth a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu”.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon