Cyhoeddi enillydd Gwobr Goffa Norah Isaac 2026.
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi mai enillydd Gwobr Goffa Norah Isaac 2026 yw Fflur Mitchell, myfyriwr cwrs BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar gyda Statws Ymarferydd o Landysul.
Dyfernir Gwobr Goffa Norah Isaac i’r myfyriwr a gyfrannodd fwyaf, yn nhyb y Brifysgol, at fywyd Cymraeg y sefydliad yn ystod y flwyddyn academaidd.
Bu Norah Isaac yn Brif Ddarlithydd Drama a’r Gymraeg yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin am flynyddoedd lawer lle ysbrydolodd genedlaethau o fyfyrwyr. Magodd do ar ôl to o fyfyrwyr i fod, yn eu tro, yn athrawon medrus, a hwythau’n diolch am y cyfle a gawsant i fod wrth draed meistr.
Gyda chefnogaeth a thrwy haelioni Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin, trefnwyd bod Fflur yn derbyn ei gwobr ar gampws Caerfyrddin yn ystod y seremonïau graddio.
Meddai Fflur:
“Mae ennill y wobr yn fraint fawr ac yn rhywbeth rwy’n hynod ddiolchgar am. Mae’n braf gweld bod yr holl waith caled, yr ymroddiad a’r ymdrech dros y tair blynedd wedi cael eu cydnabod. Mae hefyd yn rhoi hyder i mi wrth ddechrau fy ngyrfa ym maes addysg.”
Mae Fflur erioed wedi mwynhau gweithio gyda phlant. Drwy ei gwaith fel athrawes nofio, arweinydd clybiau chwaraeon a gwaith gwirfoddol, sylweddolodd ei bod eisiau adeiladu gyrfa o fewn y byd addysg. Meddai:
“Dewisais Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant oherwydd ei henw da ym myd addysg, y cyfleoedd lleoliad gwych a’r ffaith ei bod yn cynnig cwrs cyfrwng Cymraeg oedd yn rhoi llawer o brofiad ymarferol.”
Chwiliodd Fflur am gwrs oedd yn cyfuno gwybodaeth academaidd â phrofiad ymarferol mewn ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar. Roedd Fflur yn dymuno datblygu fel ymarferydd proffesiynol a meithrin y wybodaeth a’r sgiliau i gefnogi plant i gyrraedd eu potensial. Ychwanega:
“Roedd y cwrs Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar gyda Statws Ymarferydd yn apelio ataf gan ei fod yn rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad oedd eu hangen i weithio’n hyderus gyda phlant.”
I Fflur, bu gweithio allan ar leoliad yn sicr yn uchafbwynt tra’n astudio’r cwrs. Cwblhaodd dros 700 awr ar leoliad, a rhoddodd hynny brofiad gwerthfawr iawn o weithio gyda phlant ac ymarferwyr profiadol. Elfen arall wnaeth Fflur fwynhau oedd y modiwlau ar Anghenion Dysgu Ychwanegol a Dysgu Trwy Chwarae, gan eu bod yn dangos pa mor bwysig yw addasu dysgu i anghenion pob plentyn.
Cafodd gyfle hefyd i ddatblygu ei sgiliau drwy arwain ar nifer o weithgareddau y tu allan i’w chwrs. Meddai:
“Yn ogystal â hynny, roeddwn yn gweithio fel arweinydd clwb chwaraeon gyda’r Urdd, ac athrawes nofio yn y pwll ar y campws yn ogystal â gydag asiantaeth cyflenwi. Helpodd y profiadau gwaith hyn fy sgiliau cyfathrebu, cynllunio gweithgareddau a rheoli grwpiau o blant. Roedd y cyfuniad o’r profiadau hyn yn ategu’r hyn roeddwn yn ei ddysgu yn y brifysgol.”
Bu’n flwyddyn brysur i Fflur hefyd fel Llywydd Cymdeithas Gymraeg (y Gym Gym) y Brifysgol.
“Roedd bod yn Llywydd y Gymdeithas Gymraeg yn brofiad gwerthfawr iawn ac yn un o uchafbwyntiau fy amser yn y brifysgol. Cefais y cyfle i weithio gyda myfyrwyr o wahanol ardaloedd ledled Cymru ac i gyfrannu at greu cymuned Gymraeg fywiog a chroesawgar.
“Fel Llywydd, roeddwn yn gyfrifol am drefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol i fyfyrwyr, gweithio’n agos gyda’r pwyllgor ac aelodau o staff y Brifysgol, a sicrhau bod pob gweithgaredd yn cael ei drefnu’n ddiogel drwy gwblhau asesiadau risg. Roedd y rôl hefyd yn cynnwys hyrwyddo’r Gymraeg ar y campws ac annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau.
“Mae’r rôl wedi fy helpu i ddatblygu fy hyder wrth arwain pobl ac wrth gyfathrebu gyda grwpiau amrywiolRwy’n teimlo bod y profiad wedi fy mharatoi’n well ar gyfer gweithio ym maes addysg, lle mae arweinyddiaeth, cydweithio a chyfathrebu effeithiol yn sgiliau allweddol. Yn ogystal, mae wedi rhoi mwy o hyder i mi fentro ar gyfleoedd newydd, cymryd cyfrifoldeb a chynrychioli eraill mewn ffordd broffesiynol.”
Meddai Siân Dickie, Swyddog Cangen y Drindod o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
“Mae Fflur wedi bod yn fyfyrwraig arbennig, gan gyfuno llwyddiant academaidd rhagorol gyda chyfraniad nodedig i fywyd Cymraeg y brifysgol. Fel Llywydd ymroddedig y Gymdeithas Gymraeg yn PCYDDS, mae wedi arwain yn egnïol gan hybu cymuned fywiog drwy’r Gymraeg. Mae ei hymrwymiad i’r iaith yn amlwg, ac rydym yn hyderus y bydd yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i fywyd Cymreig a’r Gymraeg yn ei gyrfa gyda phlant a theuluoedd yn y dyfodol.”
Mae Fflur wedi canmol y gefnogaeth a dderbyniodd oddi wrth ei darlithwyr:
“ Roeddent bob amser yn barod i ateb cwestiynau, rhoi adborth adeiladol ac annog fi i ddatblygu fel myfyriwr ac fel ymarferydd. Roedd eu cefnogaeth yn rhoi hyder i mi wrth gwblhau aseiniadau i’r gorau o fy ngallu.”
Dywedodd Glenda Tinney, Tiwtor Derbyn y cwrs Blynyddoedd Cynnar:
“Fel darlithydd Fflur mae wedi bod yn bleser cael myfyriwr mor brwdfrydig sydd wedi hybu a chefnogi gweithgareddau cyfrwng Cymraeg darlithoedd ac o fewn ei gwaith lleoliad.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths o Gymdeithas Ddinesig Caerfyrddin:
“Ein llongyfarchion cynnes i Fflur Mitchel ar ennill Gwobr Goffa Norah Isaac eleni a hynny am ei chyfraniad yn arwain gweithgareddau trwy’r Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae Cymdeithas Ddinesig Tref Caerfyrddin yn cyflwyno’r wobr yn flynyddol i’r myfyriwr sydd wedi dangos brwdfrydedd dros y Gymraeg yn ystod y flwyddyn golegol a aeth heibio. Roedd Fflur yn llawn deilwng a diolchwn iddi am ei gwaith.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476