Cymru’n Tanio Balchder Cenedlaethol gyda Ras Gyfnewid y Ffagl Cyn Rowndiau Terfynol y DU
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewis Sant (PCYDDS) yn falch o fod ymhlith y sefydliadau sy’n cynnal Rowndiau Terfynol WorldSkills UK wrth i Gymru baratoi i’w groesawu am y tro cyntaf erioed. Rydym yn cyfri’r dyddiau tan y digwyddiad hanesyddol sy’n mynd i ddechrau gyda ras gyfnewid y ffagl ar draws y wlad a fydd yn dathlu dalent ifanc sy’n dod i’r amlwg, gan gynnwys cystadleuydd o PCYDDS, Tamzin Brewer, un o enghreifftiau disglair cynyddol o lwyddiant sgiliau Cymru.
Cyrhaeddodd Tamzin Brewer, 22 oed, rowndiau terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK yn 2024, gan gystadlu yn CNC Milling. Ar ôl astudio Peirianneg Fecanyddol yng Ngholeg Sir Gâr a chwblhau prentisiaeth uwch weithgynhyrchu tair blynedd gyda CBM Cymru, mae Tamzin bellach yn Dechnegydd Iau yn CBM Cymru, sydd wedi’i lleoli yn PCYDDS.
Meddai Tamzin: “mae cystadlu mewn rowndiau terfynol cenedlaethol Worldskills UK wedi bod yn brofiad anhygoel. Mae CNC Milling yn dal i fod yn ddiwydiant sydd o dan ddylanwad dynion, felly mae bod yma yn dangos bod lle i fenyw lwyddo a gwthio’r ffiniau ym maes gweithgynhyrchu uwch.
“Rwyf wedi dysgu cymaint o’r gystadleuaeth hon, nid yn unig am sgiliau technegol, ond am wytnwch a hyder hefyd. Gobeithio bod fy nhaith yn ysbrydoli mwy o fenywod ifanc i weld peirianneg a pheiriannu CNC yn llwybr gyrfa cyffrous a gwerth chweil.”
Yn ogystal, mae myfyrwyr cyfrifiadura PCYDDS, Luke Redmore, myfyriwr Prentisiaeth Gradd Ddigidol mewn Peirianneg Meddalwedd a Rehan Joseph myfyriwr BSc Rhwydweithiau Cyfrifiaduron a Seiber Ddiogelwch , wedi’u dewis ar gyfer y rownd derfynol yn Rowndiau Terfynol mawreddog WorldSkills UK 2025, a gynhelir rhwng 25 a 28 Tachwedd, 2025.
Mae cystadleuydd arall, Lloyd Thomas peiriannydd CNC o dan hyfforddiant yn Safran Seats yn cael ei gefnogi gan Academi Sgiliau Gweithgynhyrchu Uwch y Brifysgol.
Mae ras gyfnewid ffagl y Daith i Ragoriaeth yn goleuo’r ffordd wrth iddi deithio ar draws Cymru, gan anrhydeddu’r dysgwyr, y prentisiaid, y cyflogwyr, a’r addysgwyr gorau oll. Gan ddechrau yn Adeilad Y Pierhead ym Mae Caerdydd, bydd y ffagl yn teithio drwy bob rhanbarth, gan stopio yng ngholegau a darparwyr hyfforddiant y mae eu myfyrwyr yn cystadlu yn y Rowndiau Terfynol.
Bydd y ras gyfnewid yn gorffen yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr cyn i’r Rowndiau Terfynol ddechrau, gan uno pobl ifanc, tiwtoriaid, cyflogwyr a chymunedau mewn eiliad o gyd ysbrydoliaeth.
Eleni, bydd 131 o gystadleuwyr yn cystadlu dros Gymru – y nifer uchaf erioed i gystadlu dros y genedl. Bydd cystadleuwyr o Gymru yn cyfrif am tua 30% o’r holl gystadleuwyr ar draws y DU, gan arddangos yr ystod o dalent sgiliau yng Nghymru ac effaith buddsoddiad parhaus mewn hyfforddiant a chyfleusterau. Yn ogystal, mae Cymru yn arwain y ffordd yn nifer y cystadleuwyr sy’n cystadlu mewn cystadlaethau Sylfaen WorldSkills UK, a ddyluniwyd ar gyfer pobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) i adeiladu sgiliau ymarferol a gwella cyflogadwyedd.
Meddai’r Gweinidog Diwylliant, Partneriaeth Sgiliau a Chymdeithasol, Jack Sargeant y bydd ras gyfnewid y ffagl yn cipio ysbryd “eiliad balch i’n cenedl.”
Meddai: “Bydd ras gyfnewid y ffagl yn dod â chymunedau ar draws Cymru ynghyd i ddathlu ein pobl ifanc anhygoel. Dyma eiliad balch i’n cenedl – nid yn unig ydyn ni’n cynnal Rowndiau Terfynol WorldSkills UK am y tro cyntaf, ond mae 131 o bobl ifanc yn cystadlu yn y gystadleuaeth – ein tîm mwyaf erioed o gystadleuwyr.
“Mae’n gyfle i arddangos y dalent, y tiwtoriaid a’r cyfleusterau blaengar sy’n helpu i ddiogelu dyfodol economaidd Cymru.”
Yn ogystal, mae cyflogwyr ar draws Cymru yn cofleidio’r cyfle i arddangos y sgiliau a’r dalent yn eu sefydliadau. Mae Stephen Lloyd, Uwch Reolwr y Siop Baent yn Aston Martin, yn cefnogi rhaglen brentisiaeth y cwmni yn Sain Tathan ac yn goruchwylio ei garfan hyfforddi ar gyfer cystadlaethau sgiliau.
Meddai: “Dechreuon ni gofrestru ein prentisiaid ar gyfer Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ac roeddem wrth ein boddau i dderbyn medal yn yr Her Tîm Gweithgynhyrchu wrth gystadlu am y tro cyntaf.
“Mae wedi creu diddordeb gwirioneddol ar draws Aston Martin, gyda chydweithwyr yn cydnabod y buddion sy’n dod yn sgil y cystadlaethau hyn – ar gyfer datblygiad y prentisiaid a’r busnes. Mae’n dangos cryfder ein rhaglenni hyfforddi a safon y dalent rydym yn ei datblygu yn Aston Martin.”
Mae Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK yn dwyn ynghyd gannodd o brentisiaid a dysgwyr mwyaf talentog y DU ar draws 45 o ddisgyblaethau – o beirianneg, digidol, ac iechyd i letygarwch, adeiladu a’r diwydiannau creadigol.
Mae cynnal y Rowndiau Terfynol yng Nghymru am y tro cyntaf yn taflu goleuni ar gyfleusterau hyfforddi arloesol y wlad, gan gynnwys y rhai yn PCYDDS, yn ogystal ag ar sgiliau, creadigrwydd ac uchelgais ei phobl ifanc, sef gweithlu’r dyfodol.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071