Cyn-fyfyriwr PCYDDS yn ennill Gwobr Matthew Rhys yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
Mae cyn-fyfyriwr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Jona Milone, wedi ennill Gwobr Matthew Rhys yn dilyn ei lwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Ynys Môn yng nghystadleuaeth y Fonolog 19-25 oed.
Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Jona:
“ Mae’n anrhydedd llwyr i ennill y wobr, fi’n siŵr ei bod hi’n swnio’n cliché i weud ond wedd cystadleuaeth yn y categori Monolog blwyddyn yma yn safonol tu hwnt. Fel mae fy ymateb i’n dangos yn y fideo canlyniadau, doeddwn i bendant ddim yn meddwl fi wedd wedi’i chipio hi. Mae ennill y wobr hon yn atgoffa fi bod gen i’r gallu i barhau i ddatblygu a gwthio ymlaen.”
Mae’r wobr yn cynnwys cyfres o sesiynau meistr gydag actorion a gweithwyr proffesiynol blaenllaw, gan gynnwys Matthew Rhys ei hun, yn ogystal â chymorth ariannol i gefnogi datblygiad gyrfaol. Dywedodd Jona y bydd hyn yn ei alluogi i fynychu mwy o glyweliadau ar draws y Deyrnas Unedig ac i barhau i ddatblygu ei grefft fel perfformiwr.
Perfformiodd Jona ddwy fonolog yn y gystadleuaeth, monolog Antony o’r ddrama Julius Caesar gan William Shakespeare, a monolog Gavin o’r ddrama Tylwyth gan Daf James.
Mae Jona yn canmol y gefnogaeth a gafodd yn ystod ei gyfnod yn Academi Celfyddydau Dramatig Cymru PCYDDS (WAVDA), gan ddiolch yn arbennig i’w diwtoriaid actio am eu harweiniad a’u hanogaeth.
“Wna’th y cwrs BA Theatr Gerddorol rhoi’r hyder i fi fel actor. Mae rhai actorion yn credu bod hyfforddiant mewn actio yn well ‘na Theatr Gerddorol, ond yn WAVDA fe ddatblygais i’r hyder yn fy nghorff, hyder yn fy llais ac, wrth gwrs, wella fy nghrefft fel actor.
“Rwyf wedi bod yn andros o lwcus gyda fy hyfforddwyr actio yn WAVDA. Mae pob un wedi dysgu i mi rhywbeth gwerthfawr: Tonya Smith na’th ddysgu fi yn fy mlwyddyn gyntaf i gysylltu, i wrando, i ymlacio. Angharad Lee na’th ddysgu i fi i ‘cwla lawr’ a bod yn bresennol, i bwsio fi fel actor, herio fi a wastad fy nghefnogi. Ac i Elen Bowman na’th chwyddo’n angerdd o ddeall theori’r actor a shwt i neidio’n ddyfnach mewn i’r broses. Byswn i byth di gallu cipio’r wobr yma heb yr holl ddarlithwyr yn WAVDA na’th hybu fi i wella fy nghrefft fel actor.”
Ers graddio, mae Jona wedi adeiladu gyrfa gynyddol lwyddiannus yn y diwydiant creadigol. Ymhlith ei waith diweddar mae chwarae rôl Emyr yn Y Tolldy gyda Beastly Media, gweithio fel cyflwynydd gyda Hansh, a chwarae rhan Harris yn y ffilm I Am a Wrestler gan Sam Birch. Mae hefyd ar fin dechrau prosiect ysgrifennu newydd yn Sir Benfro mewn partneriaeth â Torch Theatre.
Mae Jona yn awyddus i gyfrannu ymhellach at ddatblygiad theatr Gymraeg gyfoes:
“Rwy’n gobeithio creu mwy o theatr Gymreig sy’n gwthio’r ffiniau, yn herio’r meddwl ac yn annog cynulleidfaoedd i ailystyried eu safbwyntiau.”
Yn ogystal â’i waith creadigol, mae Jona hefyd wedi dychwelyd i’r Brifysgol i ddysgu myfyrwyr, gan rannu’r sgiliau a’r profiadau y mae’n eu defnyddio yn ei waith proffesiynol gyda’r genhedlaeth nesaf o berfformwyr.
Wrth fyfyrio ar ei daith, ychwanegodd:
“Y wers bwysicaf a ddysgais yn WAVDA oedd deall pwy ydw i fel person. Mae’r ddealltwriaeth honno’n rhoi’r sylfaen i unrhyw actor ffynnu. Rwy’n hynod ffodus i weld myfyrwyr talentog yn datblygu ac yn disgleirio, ac mae hynny’n fraint fawr.”
Ychwanegodd Angharad Lee, Rheolwr Rhaglen BA Theatr Gerddorol yn PCYDDS:
“Roedd Jona bob amser yn llais ac yn bresenoldeb unigryw o fewn ein cymuned, gan ddod â safbwynt arbennig ac ymrwymiad gwirioneddol i’w grefft. Roedd ei angerdd dros y broses actio a’i ymroddiad i ddatblygu fel artist bob amser yn amlwg, cymaint felly fel ein bod wedi ei groesawu yn ôl i addysgu gyda ni y tymor hwn.
“Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, rydym yn ymfalchïo mewn cynnal perthnasoedd ystyrlon gyda’n graddedigion, gan ddathlu nid yn unig eu llwyddiannau ond hefyd eu teithiau creadigol parhaus. Mae bob amser yn bleser gweld cyn-fyfyrwyr yn defnyddio’r sgiliau a’r profiadau a ddatblygwyd ganddynt gyda ni, gan eu haddasu i’w hymarfer eu hunain a llunio gyrfaoedd cyffrous ar eu telerau eu hunain. Mae dychweliad Jona i’r rhaglen, ochr yn ochr â’i gyflawniadau proffesiynol, yn enghraifft wych o’r cysylltiadau parhaol a’r llwybrau creadigol yr ydym yn ymdrechu i’w meithrin.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476