Cyn-fyfyriwr PCYDDS yn lansio llyfr a ysbrydolwyd gan ei thaith menopos
Mae cyn-fyfyriwr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) sydd wedi treulio llawer o’i bywyd yn llywio effaith newid hormonaidd, o brofi glasoed yn bump oed i oresgyn heriau’r menopos ddegawdau yn ddiweddarach, wedi cyhoeddi llyfr gyda’r nod o helpu eraill i ddeall y trawsnewidiad yn well.
Yn ddiweddar, lansiodd Katie Day, un o gyn-fyfyrwyr y rhaglen MA Arfer Proffesiynol sy’n addysgwr ac ymchwilydd y menopos, ei llyfr newydd, Menopause is Really Strange ar gampws Abertawe y Brifsgol.
A hithau wedi dechrau’r glasoed yn ddim ond pum mlwydd oed, roedd Katie yn aml yn teimlo’n wahanol i’w chyfoedion. Degawdau yn ddiweddarach, pan ddechreuodd y perimenopos, nid oedd hi’n cydnabod yr hyn yr oedd hi’n ei brofi i ddechrau.
Fel llawer o fenywod, nid oedd hi’n gyfarwydd â’r arwyddion a’r symptomau ac roedd hi’n cael trafferth gwneud synnwyr o’r newidiadau yr oedd hi’n eu profi. Dim ond ar ôl siarad â ffrind a oedd wedi ymweld â gynaecolegydd yn ddiweddar y dechreuodd Katie adnabod yr arwyddion, a chafodd sawl fflach o sylweddoliad.
Tynnodd y profiad sylw at gyn lleied yr oedd y menopos yn cael ei drafod ar y pryd a faint o fenywod sy’n parhau i lywio’u ffordd drwy’r cyfnod heb yr wybodaeth, y ddealltwriaeth na’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.
Wrth i’r symptomau ddwysáu, disgrifiodd Katie sut y dechreuodd hyn effeithio ar bob agwedd ar ei bywyd, o’i hiechyd corfforol a’i hyder i’w llesiant emosiynol. Cafodd teimladau o unigedd, gorbryder a hunanamheuaeth eu gwaethygu gan ddiffyg trafodaeth agored ynghylch y menopos ar y pryd.
Dywedodd:
“Roeddwn i’n teimlo fy mod wedi mynd o fod yn fenyw fusnes hyderus i rywun nad oedd yn gallu rhaffu brawddeg at ei gilydd, o fewn 48 awr.
“Cyrhaeddodd fy hunan-barch y gwaelod isaf. Roeddwn i’n teimlo’n bryderus dros ‘bethau bach’. Roedd fy ngof wedi gwaethygu ac roedd fy llesiant emosiynol wedi dirywio.”
Nawr yn ei chwedegau hwy ac ar ochr arall y trawsnewidiad menopos, mae Katie yn gweld y profiad hwnnw’n wahanol iawn. Wrth gydnabod yr heriau a wynebodd, siaradodd hefyd am y cyfleoedd, twf a hyder newydd a all ddilyn.
Mae Katie wedi bod yn cyflwyno rhaglenni hyfforddi i sefydliadau am y rhan fwyaf o’i gyrfa, ac fe wnaeth yr hyn a ddechreuodd fel ymgais i chwilio am atebion wrth iddi lywio’i ffordd drwy gyfnod newid y menopos, ei harwain i ganolbwyntio ar faes addysg menopos. Heddiw, mae hi’n gweithio gyda sefydliadau ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, gan helpu menywod i ddeall y menopos yn well ac annog eraill i ddarparu cymorth gwybodus.
Cododd y cyfle i ysgrifennu Menopause is Really Strange ar ôl i unigolyn a oedd wedi mynychu un o sesiynau hyfforddi Katie ei hargymell i’r cyhoeddwr a’r darlunydd y tu ôl i’r gyfres uchel ei chlod, Really Strange.
Mae’r llyfr yn defnyddio gwybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth a darluniau diddorol i esbonio’r menopos, symptomau cyffredin, opsiynau triniaeth a ffynonellau cymorth, gan ei wneud yn hygyrch i unrhyw un sydd eisiau dysgu mwy am y pwnc.
Helpodd MA Katie mewn Ymarfer Proffesiynol hefyd i lunio datblygiad y llyfr. Archwiliodd ei hymchwil sut y gall gwahanol nodweddion personoliaeth ddylanwadu ar y ffordd y mae menywod yn profi ac yn ymateb i’r menopos.
Awgrymodd ei chanfyddiadau, er bod rhai menywod yn fwy tebygol o geisio cefnogaeth a siarad yn agored am eu profiadau, gallai eraill fod yn brwydro mewn tawelwch, gan dynnu sylw at y ffaith nad yw profiad pob unigolyn o’r menopos yr un fath, ac nid oes dull cymorth unigol sy’n addas i bawb.
Wrth fyfyrio ar effaith ei hastudiaethau, dywedodd Katie:
“Cafodd fy MA ddylanwad enfawr ar y modd yr ysgrifennais y llyfr. Helpodd y profiad i mi ddidoli a rhoi trefn ar yr wybodaeth roeddwn i eisiau ei rhannu, ymchwilio’n llawn i’r cynnwys a datblygu ymhellach fy ngallu i gymryd deunydd cymhleth a’i drosi’n iaith bob-dydd.”
Mae Katie hefyd yn gobeithio parhau â’i thaith academaidd gyda PCYDDS yn y dyfodol trwy astudiaeth ddoethurol, gan ei galluogi i ddatblygu ymhellach ei hymchwil i’r menopos a phrofiadau menywod o gyfnod newid y menopos.
Mynychwyd y lansiad yn Abertawe gan Carolyn Harris, AS Castell-nedd a Dwyrain Abertawe, y mae ei gwaith ymgyrchu wedi chwarae rhan sylweddol wrth godi ymwybyddiaeth o’r menopos a gwella cefnogaeth i fenywod ledled y DU.
Yn dilyn y lansiad yn Abertawe, bydd Katie yn parhau â’r sgwrs yn Nau Dŷ’r Senedd lle bydd yn rhannu mewnwelediadau o’i hymchwil i brofiadau menywod o’r menopos.
Gall darllenwyr ddarganfod rhagor am Menopause is Really Strange neu brynu copi yn uniongyrchol o wefan y cyhoeddwr. Menopause is Really Strange | Jessica Kingsley Publishers - UK
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
Ffôn: +447482256996