Cyn-fyfyriwr yn cyhoeddi llyfr newydd er mwyn helpu i egluro dirgelion menopos
Mae un o raddedigion Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), sydd wedi ymroi trwy gydol ei gyrfa i gefnogi menywod wrth iddynt fynd drwy’r menopos, wedi cyhoeddi llyfr a fydd yn cael ei lansio ar gampws y Brifysgol yn Abertawe ym mis Hydref.
Mae Katie Day, a gwblhaodd ei gradd MA mewn Arfer Proffesiynol yn PCYDDS yn 2024, wedi cyfuno profiad personol, arbenigedd proffesiynol a blynyddoedd o ymchwil i greu Menopause is Really Strange, canllaw hygyrch sydd wedi’i gynllunio i addysgu, i dawelu meddyliau ac i rymuso ei ddarllenwyr.
Yn rhan o’r gyfres uchel ei chlod, Really Strange, mae’r llyfr yn defnyddio iaith hawdd i’w deall, gwybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth a darluniau diddorol i helpu i egluro dirgelion y menopos ac annog mwy o sgyrsiau gwybodus am y pwnc.
Meddai Katy: “Gan gofio fy nghyfnod menopos fy hun, a pha mor frawychus oedd hwnnw, rwy’n angerddol ynghylch ceisio sicrhau na chaiff menywod eraill brofiad tebyg. Pan oeddwn i’n mynd drwy’r cyfnod hwn fy hun, nid oedd yn cael ei drafod ac roedd yr unigrwydd a deimlais, ar brydiau, yn fy llethu.
“Gyda’r ddealltwriaeth ar wybodaeth gywir, gellir goresgyn llawer o’r ofn, sy’n galluogi i fenywod gael eu grymuso i wneud eu dewisiadau eu hunain.”
Troi arbenigedd yn ganllaw ymarferol
Fel addysgwr a hyfforddwr menopos, mae Katie wedi treulio blynyddoedd lawer yn gweithio ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, yn helpu menywod i lywio’r menopos ac adnabod y cyfleoedd am dwf sy’n gallu dilyn. A hithau’n Gydymaith o Gymdeithas Menopos Prydain, mae Katie yn llais cydnabyddedig ym maes addysg menopos ac mae hi’n siarad yn rheolaidd mewn cynadleddau a digwyddiadau.
Mae ei llyfr newydd, Menopause is Really Strange, yn tynnu ar gyfuniad o brofiad byw, mewnwelediad proffesiynol ac ymchwil cyfredol, gan greu adnodd sy’n hygyrch i’r rhai sy’n profi menopos ac i’r bobl o’u cwmpas. Mae’n archwilio popeth o symptomau cyffredin ac opsiynau o ran triniaeth i’r ffactorau cymdeithasol a diwylliannol sy’n gallu llunio profiad unigolyn o’r menopos.
Dywedodd Katie bod gwneud gwybodaeth seiliedig ar dystiolaeth yn hawdd ei deall i gynulleidfa ehangach yn gymhelliant allweddol dros ysgrifennu’r llyfr.
“Rwy’n teimlo ei fod yn bwysig iawn gwneud syniadau cymhleth ac iaith feddygol yn hygyrch a hawdd eu deall i bawb. Drwy hynny, gall bobl gael yr wybodaeth y mae arnynt ei hangen i wneud penderfyniadau sy’n gweddu iddyn nhw.”
https://forms.cloud.microsoft/Pages/ResponsePage.aspx?id=-REPTm4EBUWcuNshUjEeIf_M3YwdGoNFtMYS3Z09IZRUQ1pUQU5UT1VBWTRSNFBFQzhNM1lOQUgzUS4uSut y gwnaeth ei hastudiaethau gryfhau ei hymchwil a’i harfer
Fe helpodd MA mewn Arfer Proffesiynol Katie helpu i ddarparu sylfaen academaidd gref ar gyfer yr ymchwil a’r arbenigedd a welir yn Menopause is Really Strange. Fe wnaeth y rhaglen hefyd gryfhau ei hyder fel addysgwr menopos.
Meddai: “Cafodd fy MA ddylanwad enfawr ar y modd yr ysgrifennais y llyfr. Helpodd y profiad i mi ddidoli a rhoi trefn ar yr wybodaeth roeddwn i eisiau ei rhannu, ymchwilio’n llawn i’r cynnwys a datblygu ymhellach fy ngallu i gymryd deunydd cymhleth a’i drosi’n iaith bob-dydd.”
Roedd ei hymchwil ar gyfer y radd meistr yn archwilio rôl personoliaeth ym mhrofiad menywod o gyfnod newid y menopos, maes sy’n parhau i lywio ei gwaith fel addysgwr, siaradwr ac awdur.
Ychwanegodd: “Mae meddu ar y radd meistr yn helpu i sicrhau fy lle ymhlith ‘arbenigwyr’ y maes ac yn gymorth i mi o ran derbyn cydnabyddiaeth, ymddiriedaeth a hyder gydag eraill.”
Dathlu lansiad y llyfr
Bydd Menopause is Really Strange yn cael ei lansio’n swyddogol ar gampws PCYDDS yn Abertawe ddydd Gwener, 23 Hydref.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniad gan Katie a fydd yn trafod y llyfr ac yn adfyfyrio ar ei phrofiadau ar y rhaglen MA, gyda sesiwn holi ac ateb a chyfle i rwydweithio i ddilyn.
Wrth adfyfyrio ar arwyddocâd lansio’r llyfr yn y Brifysgol, dywedodd Katie: “Roedd cael y teimlad fy mod yn rhan o deulu anhygoel o gefnogol PCYDDS yn brofiad mor llawen a phositif i mi. Mae parhau i gael cefnogaeth y Brifysgol trwy lansio’r llyfr hwn yn golygu cymaint i mi.”
Yn dilyn y lansiad yn Abertawe, bydd Katie yn cymryd rhan mewn trafodaeth yn Nau Dŷ’r Senedd, gan dynnu ar ymchwil ei gradd meistr a’i phrofiad proffesiynol i archwilio sut y gall personoliaeth ddylanwadu ar y ffordd y mae menywod yn profi menopos.
Os hoffech fynychu’r lansiad, cofrestrwch yma.
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
Ffôn: +447482256996