Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch iawn o longyfarch cyn-fyfyrwraig BA Perfformio, Glain Llwyd, ar ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026.

Glain Llwyd

Mae’r Fedal Ddrama yn cael ei dyfarnu am ysgrifennu sgript wreiddiol ar gyfer drama fer rhwng 15 a 30 munud o hyd ar gyfer un, dau neu dri pherfformiwr. Enillodd Glain y wobr am ei drama fer ‘Tishe Plant,’ sy’n archwilio bywydau a phrofiadau dau berson ifanc mewn ffordd ffraeth, gonest a pherthnasol.

Wrth ymateb i’r newyddion am ei llwyddiant, dywedodd Glain:

“Dwi dal mewn sioc, a dweud y gwir. Alla i ddim credu’r peth. Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel. Mae’n fraint ennill gwobr fel hon, yn enwedig gan fod y ddrama’n cael ei chyhoeddi gan Wasg Y Stamp. Roedd y seremoni’n ddiwrnod arbennig iawn, a chefais gyfle i gwrdd â phobl dwi’n eu hedmygu’n fawr, gan gynnwys y beirniaid Mared Llywelyn a Gareth Evans-Jones.”

Wedi’i lleoli yn fferyllfa Boots ar Heol y Frenhines yng nghanol Caerdydd, mae’r ddrama yn dilyn Martha ac Efan wrth iddynt aros am y ‘morning after pill’ wedi noson mewn gig gan y band Pys Melyn yng Nghlwb Ifor Bach. Trwy eu sgwrs, mae’r ddrama’n trafod pynciau megis hawliau atal cenhedlu, delwedd corfforol a dylanwad teulu, gan fynd i’r afael â materion cyfoes mewn ffordd ysgafn a hygyrch.

Dywedodd Glain:

“Cefais fy ysbrydoli drwy wrando ar sgyrsiau pob dydd rhwng pobl a meddwl am eu straeon a’u barn ar faterion cyfoes. Roedd hi hefyd yn bwysig i mi osod y ddrama ar ôl gig Pys Melyn yn Clwb, oherwydd mae nhw fel band yn teimlo fel gymaint o ‘stable’ i bobl ifanc Cymraeg fy oed i.”

Fel rhan o’r wobr, bydd Glain yn cael cyfleoedd datblygu proffesiynol gyda Theatr Cymru a’r BBC. Ychwanegodd:

“Mae’r wobr wedi rhoi hwb mawr i mi ddatblygu fy ysgrifennu. Mae’r cyfle i weithio gyda Theatr Cymru a’r BBC yn rhywbeth dwi’n edrych ymlaen ato’n fawr.”

Dywed Glain fod ei chyfnod ar y cwrs BA Perfformio yn PCYDDS wedi ei helpu i osod y sylfeini ar gyfer ei gwaith creadigol.

“Roeddwn yn ddigon ffodus i astudio modiwlau ysgrifennu fel rhan o’r cwrs, ac roedd hynny’n ddechrau pwysig iawn i mi. Cafwyd cyfle i greu a pherfformio gwaith newydd, ac fe ddechreuais ddeall pa mor bwysig yw’r broses ddatblygu a’r cyfnodau ymchwil a datblygu wrth greu theatr.”

Canmolodd hefyd y gefnogaeth a gafodd gan y darlithwyr:

“Roedd anogaeth gyson i fod yn greadigol ac i ddatblygu llais unigryw. Hyd yn oed ers graddio yn 2024, rwyf wedi derbyn negeseuon o gefnogaeth a llongyfarchiadau gan fy narlithwyr, sydd wedi golygu llawer.”

Meddai Angharad Lee, Rheolwr Rhaglen BA Perfformio a BA Theatr Gerddorol PCYDDS: 

“Mae’n bleser mawr gweld Glain yn gwneud mor dda. Roedd hi’n fyfyrwraig llawn calon, ac rwy’n gobeithio bod y sgiliau a enillodd drwy ei phrosiect cydweithredol ac annibynnol gyda ni ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi rhoi’r hyder a’r ysgogiad iddi ysgrifennu a chredu ynddi hi ei hun.”

Ers graddio, mae Glain wedi bod yn adeiladu gyrfa amrywiol yn y celfyddydau a’r cyfryngau. Mae wedi gweithio fel ymchwilydd, actio mewn peilot gomedi newydd, bod yn rhan o ymarferion ar gyfer cynhyrchiad newydd gan Y Cwmni a Theatr Cymru, Calon ac wedi perfformio ar lwyfannau mawr megis Tafwyl ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru gyda’r band Diffiniad.

Wrth edrych tua’r dyfodol, mae’n awyddus i barhau i ddatblygu ei gyrfa fel awdur a pherfformiwr:

“Hoffwn barhau i ysgrifennu sgriptiau a chael mwy o gyfleoedd perfformio. Rwy’n mwynhau ysgrifennu comedi, a byddwn wrth fy modd yn gweithio ar raglen fel Saturday Night Live rywbryd!”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon