Cyn-fyfyrwraig PCYDDS yn Serennu yn ‘The Secret Garden’.
Mae Catrin Mai Edwards, cyn-fyfyrwraig BA Perfformio o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, wedi cael ei dewis i chwarae rhanMartha, un o brif gymeriadau’r cynhyrchiad newydd o’r sioe gerdd The Secret Garden, a fydd yn cael ei lwyfannu yn y Theatre Royal yn Efrog.
Mae’r cymeriad Martha yn forwyn i’r prif gymeriad, Mary, ac yn chwaer i Dickon, cymeriad sy’n llawn cynhesrwydd ac egni, ac sy’n rhan allweddol o galon y stori. Mae’r cynhyrchiad hwn yn wahanol gan fod yr actorion i gyd sy’n perfformio yn chwarae’r gerddoriaeth yn fyw ar y llwyfan. Bydd Catrin yn chwarae’r delyn fel rhan o’i rôl.
Pan dderbyniodd Catrin y newyddion, dywedodd:
“Roeddwn i mor gyffrous i glywed fy mod wedi cael y rhan. Nes i rili fwynhau canu’r deunydd yn y clyweliad, ac rwy’n edrych ymlaen i’w berfformio ar y llwyfan bob nos.
“Mae perfformio mewn sioe newydd wastad yn gyfle i gyfarfod mwy o actorion, a chael gweithio efo tîm creadigol newydd. Dwi’n edrych ymlaen i berfformio The Secret Garden yn y ddinas lle mae o wedi ei selio, a chael deud un o fy hoff straeon ers plentyndod.”
Dyma’r rôl fwyaf i Catrin chwarae hyd yn hyn yn ei gyrfa broffesiynol, ac mae’n ddiolchgar i’r Brifysgol am y sgiliau perfformio a ddatblygodd yn ystod ei hastudiaethau yno fel myfyrwraig. Ychwanegodd:
“Yn ystod fy amser yn y Drindod Dewi Sant, cawsom ni lawer o glyweliadau wnaeth fy mharatoi ar gyfer y byd proffesiynol. Cefais hefyd fod yn rhan o gast Sweeney Todd, Songs For a New World a Cysgu’n Brysur wnaeth fy mharatoi ar gyfer y safon a’r stamina sydd angen ar gyfer sioe proffesiynol.”
Ers graddio, mae Catrin wedi perfformio mewn cynyrchiadau megis The True Adventures of Marian and Robin Hood yn The Barn Theatre, ac A Christmas Carol yn Theatr y Sherman yn 2024. Mae’n dweud fel perfformwraig:
“Dwi’n rili mwynhau’r cyfle i ddod â phob sgil at ei gilydd – canu, actio, dawnsio a chwarae offerynnau. Dwi’n edrych ymlaen i weld beth fydd ychwanegu ‘actor-musicians’ yn ei greu mewn sioe adnabyddus fel The Secret Garden.”
Penderfynodd Catrin astudio BA Perfformio drwy gyfrwng y Gymraeg yn PCYDDS, oherwydd:
“Ar ôl tyfu fyny mewn addysg Gymraeg, roedd hi’n teimlo fel y cam naturiol nesaf i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a hynny ym mhrif ddinas Cymru. Roeddwn i eisiau dewis cwrs ble roedd y ffocws ar y myfyrwyr, oedd yn cynnig safon cyrsie ysgol drama drwy gyfrwng y Gymraeg felly roedd y penderfyniad yn un hawdd.
“Roeddwn i’n hoffi bod y cwrs efo ffocws hafal ar actio a canu/sioe gerdd fel dy fod yn gallu dysgu a chwarae a gweld pa dull rwyt eisiau arbenigo ynddi.”
Mae Catrin yn canmol y tiwtoriaid a’r gefnogaeth a dderbyniodd yn ystod ei chyfnod fel myfyrwraig:
“Yn ystod fy amser yn y Drindod Dewi Sant, cefais fy nysgu gan actorion a chyfarwyddwyr sy’n gweithio yn y diwydiant gan gynnwys Angharad Lee, Elen Bowman, Aled Pedrick, Mali Tudno Jones a Sara Lloyd. Roedd o’n wych i gael cyfarfod pobl yn y diwydiant a gwneud cysylltiadau a chael dysgu o’u profiadau nhw. Cafon hefyd sawl gwers meistr efo casting directors a perfformwyr.”
Meddai Angharad Lee, Rheolwr Rhaglen BA Perfformio a BA Theatr Gerddorol yn PCYDDS:
“Bu Catrin yn astudio ar ein cwrs BA Perfformio yma, ac mae wedi bod yn bleser mawr gwylio ei gyrfa’n datblygu. Rydym yn hynod falch o’i chyflawniadau. Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod y cwrs BA Perfformio yn adlewyrchu’r hyn y mae’r diwydiant yn gofyn amdano, gan barhau i fod yn ymatebol i anghenion unigol pob perfformiwr. Caiff ein hyfforddiant actio ei arwain gan weithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y sector, ac mae llwyddiannau fel hyn yn ein hatgoffa bod ein dull yn gweithio.”
Mae Catrin yn annog bobl i astudio’r cwrs BA Perfformio.
“Mae’r cwrs yn ffordd grêt o ddarganfod os wyt eisiau dilyn gyrfa mewn perfformio. Ti’n cael y cyfle i weithio efo pobl arbennig drwy weithio ar dramau/sioeau cerdd Cymraeg, cystadlu yn yr Eisteddfod, creu ffrindiau efo’r ‘run brwdfrydedd am y diwylliant, a datblygu fel perfformiwr. Faswn i ddim lle ydw’i heddiw heb ddechrau yn y Drindod!”
Mae The Secret Garden yn cael ei berfformio yn York Theatre Royal rhwng 17 Mawrth a 4 Ebrill.
Am fwy o wybodaeth am y cwrs BA Perfformio, cysylltwch â Angharad Lee: Angharad.rees@uwtsd.ac.uk neu ewch i’n gwefan.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476