Skip page header and navigation

Bydd cytundeb cyfnewid myfyrwyr newydd rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a Chyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol yn Université Paris Cité, yn cryfhau cydweithrediad academaidd a symudedd myfyrwyr rhwng Cymru a Ffrainc.

UWTSD's Kath Griffiths and Hannah Clayton with colleagues from Universite Paris Cite

Nod y cytundeb yw galluogi myfyrwyr o’r ddau sefydliad i gymryd rhan mewn rhaglen gyfnewid mewn pynciau ar draws y Dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol.  Mae’r cytundeb yn nodi cytundeb cyfnewid ffurfiol cyntaf Université Paris Cité gyda phrifysgol yng Nghymru, a bydd yn gwella cyfleoedd dysgu rhyngwladol, cyfnewid diwylliannol a phartneriaeth academaidd. 

Mae’r cytundeb yn adeiladu ar y sylfeini cadarn a ddatblygwyd drwy dîm symudedd rhyngwladol y Brifysgol yn ystod y blynyddoedd diwethaf sy’n cefnogi ymgysylltiad o’r newydd y DU â’r rhaglen Erasmus+, gan ehangu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio dramor fel rhan o’u gradd.

Dywedodd Kath Griffiths, o adran Symudedd Rhyngwladol o fewn cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Academaidd y Drindod Dewi Sant:

“Rydym yn falch iawn o ffurfioli’r bartneriaeth hon gyda Chyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol yn Université Paris Cité. Rydym yn gobeithio adeiladu ar etifeddiaeth Taith drwy barhau i ddatblygu cyfleoedd rhyngwladol hygyrch, o ansawdd uchel i fyfyrwyr o’r Drindod Dewi Sant a Pharis. Wrth i’r DU ymuno ag Erasmus+, mae’r cytundeb hwn yn agor posibiliadau newydd cyffrous ar gyfer cyfnewid cynhwysol, cyfoethogi academaidd a chydweithredu Ewropeaidd dyfnach.”

Mae’r bartneriaeth yn adlewyrchu ymrwymiad strategol y Drindod Dewi Sant i ryngwladoli ac ehangu cyfranogiad, gan sicrhau bod cyfleoedd astudio dramor yn hygyrch i fyfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd tra’n cefnogi datblygu sgiliau a safbwyntiau byd-eang.

Gall myfyrwyr sydd â diddordeb mewn astudio dramor am semester yn Université Paris Cité ddarganfod mwy drwy gysylltu â goglobal@uwtsd.ac.uk neu drwy ymweld â’r tudalennau astudio dramor rhyngwladol ar dudalennau gwe’r Brifysgol


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 01267 676790

Rhannwch yr eitem newyddion hon