Skip page header and navigation

Bydd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn cynnal Darlith Goffa J. E. Caerwyn a Gwen Williams nos Fawrth, 9 Rhagfyr. 

Headshot photo of Jerry Hunter

Sefydlwyd y Ddarlith Goffa hon yn 2001 er cof am y diweddar Athro J. E. Caerwyn Williams a’r ddiweddar Mrs Gwen Williams. Y siaradwr gwadd eleni yw’r Athro Jerry Hunter.  

Mae’r Athro Jerry Hunter yn darlithio yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor, ac yn byw ym Mhen-y-groes, Dyffryn Nantlle. Mae wedi mynd i’r afael â phob cyfnod yn hanes llenyddiaeth Gymraeg, ond y cyfnod modern cynnar yw prif faes ei ymchwil, ac mae wedi cyhoeddi chwe llyfr yn y maes hwnnw. Mae ei lyfr diweddaraf – am yr anterliwt – yn y wasg ar hyn o bryd. Ac yntau’n awdur creadigol hefyd, mae wedi cyhoeddi chwe nofel. Bydd ei ddrama, Ledi’r Wyrcws, ar daith led-led Cymru yn ystod mis Mawrth 2026. Mae’n cydgyflwyno’r podlediad arobryn, Yr Hen Iaith.

Testun y ddarlith fydd ‘ “Digenhedlu yn rhy bell”:

Y Dyneiddwyr, y Beirdd a Hunaniaeth Genedlaethol Gymreig yn Oes y Tuduriaid’. Rhai o gyfraniadau’r Athro J. E. Caerwyn Williams ei hun yw’r man cychwyn, sef y llyfryn Geiriadurwyr y Gymraeg yng Nghyfnod y Dadeni a dwy ysgrif a gyhoeddodd am genedlaetholdeb yng Nghymru yn yr Oesau Canol. Gan graffu ar gerddi mawl a rhyddiaith gan ddyneiddwyr, bydd y ddarlith yn ystyried y modd y mae rhai o feirdd ac awduron Cymraeg yr unfed ganrif ar bymtheg yn trafod hunaniaeth genedlaethol. 

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, “Rydym yn hynod falch o groesawu’r Athro Jerry Hunter i draddodi’r ddarlith hon eleni. Mae ei arbenigedd a’i ddiddordebau ymchwil yn cwmpasu canrifoedd lawer a’i ddulliau cyfathrebu ymysg y mwyaf blaengar. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at y digwyddiad.”

Cynhelir y ddarlith yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac ar lein nos Fawrth, 9 Rhagfyr 2025, am 5.00 o’r gloch. 

E-bostiwch canolfan@cymru.ac.uk i gofrestru.

CAWCS 40 logo

Nodiadau i Olygyddion 

Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk  

1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol. 

2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk  

3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru: https://www.geiriadur.ac.uk/ 


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon