Darpar Addysgwyr yn Archwilio Dysgu Dwyieithog Drwy Chwarae yn PCYDDS
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi dathlu blwyddyn academaidd lwyddiannus arall o weithdai allgymorth wedi’u cynllunio i gryfhau cysylltiadau rhwng addysg uwch, colegau addysg bellach, a darparwyr chweched dosbarth ledled Cymru.
Gan ganolbwyntio ar thema chwarae fel cyfrwng i archwilio plentyndod, addysg a dysgu creadigol, mae’r gweithdai wedi galluogi myfyrwyr i brofi’n uniongyrchol bwysigrwydd chwarae yn natblygiad a llesiant cyfannol plant.
Wedi’u cyflwyno ar draws ystod o golegau ac ysgolion AB, mae’r sesiynau rhyngweithiol yn annog dysgwyr i gymryd rhan weithredol mewn dysgu chwareus eu hunain, gan archwilio adnoddau creadigol a dylunio gweithgareddau a straeon unigryw. Mae pob gweithdy wedi tynnu sylw at sut mae chwarae yn cefnogi datrys problemau, cyfathrebu, rhyngweithio cymdeithasol, llesiant emosiynol, gwyddoniaeth a mathemateg, ochr yn ochr â chreadigrwydd ac arbrofi.
Mae’r sesiynau yn arbennig o werthfawr i fyfyrwyr sy’n ystyried mynd ymlaen i raglenni gradd sy’n gysylltiedig â Phlentyndod, Addysg a Chymdeithas, gan eu helpu i adfyfyrio ar sut y gall chwarae gefnogi plant a phobl ifanc mewn lleoliadau addysgol a chymunedol.
Dywedodd Glenda Tinney, un o arweinwyr y gweithdai:
“Mae’r mathau hyn o weithdai yn chwalu rhwystrau ac yn dangos nad yw addysg uwch yn rhywbeth na ellir ei gyflawni. Yn PCYDDS gallwn hefyd ddangos bod y dull addysgu yn ymarferol ac yn ddiddorol ac nad yw bob amser wedi’i seilio ar ddarlithoedd. O ran y gweithdai chwarae, maen nhw hefyd yn rhoi blas i fyfyrwyr o sut beth fyddai astudio cyrsiau Plentyndod, Addysg a Chymdeithas.”
Dywedodd Natasha Morgans, un arall oedd yn arwain y gweithdai:
“Eleni, mae’r fenter hefyd wedi cryfhau cyfleoedd dysgu dwyieithog a chyfrwng Cymraeg. Bu’r tîm yn cydweithio’n agos â swyddogion o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr a Sir Benfro, yn ogystal â thiwtoriaid o’r Mudiad Meithrin a’i raglen Cam wrth Gam mewn ysgolion uwchradd ledled de Cymru.
Dangosodd y gweithdai sut mae chwarae yn creu amgylchedd hamddenol a chefnogol ar gyfer cyflwyno ac ymarfer ieithoedd ychwanegol. Gwnaeth myfyrwyr argraff dda ar hwyluswyr trwy ymgorffori’r Gymraeg yn naturiol yn eu gweithgareddau chwarae a thrwy ddylunio gemau yn benodol i annog datblygiad iaith.”
Dywedodd un tiwtor Addysg Bellach:
“I ni fel coleg AB, mae cael ymweliadau Addysg Uwch yn bwysig oherwydd eu bod yn agor llygaid myfyrwyr i’r hyn y gellir ei astudio ar lefel AU, gan hefyd helpu i fagu eu hyder trwy ddangos iddynt fod eu sgiliau presennol yn darparu’r sylfaen sydd ei angen ar gyfer cam nesaf eu haddysg.
“Mae’n ehangu eu gorwelion, ac mae ymgysylltu rhwng sectorau yn sicrhau bod y ‘cam nesaf’ i Addysg Uwch yn teimlo’n llai fel neidio i’r anhysbys ac yn fwy fel dilyniant naturiol o’u doniau presennol.
Rydym yn ddiolchgar i dderbyn ymweliadau gan amrywiaeth o sefydliadau a chyrsiau Addysg Uwch fel y gall ein myfyrwyr gael dealltwriaeth glir o’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt.”
Ychwanegodd Angharad Jameson o Gam wrth Gam:
“Rydym yn ymweld â champws y Brifysgol bob blwyddyn, lle mae ein dysgwyr Gofal Plant Lefel 3 yn elwa’n aruthrol o weithdai chwarae diddorol ochr yn ochr â thrafodaethau am gyrsiau a chymwysterau a allai fod ar gael iddynt yn y dyfodol.
Unwaith eto, mae wedi bod yn gyfle gwych i’n dysgwyr gymryd rhan ac ehangu eu gwybodaeth am chwarae a sylfeini Datblygiad Plant gyda darlithwyr Prifysgol profiadol a chroesawgar. Diolch yn fawr iawn.”
Mae’r gweithdai yn parhau i hyrwyddo meddwl creadigol wrth gryfhau cysylltiadau rhwng theori addysgol ac arfer proffesiynol. Yn bwysig, maent hefyd yn arddangos Addysg Uwch fel amgylchedd dysgu gweithredol a diddorol lle gall myfyrwyr gymryd rhan mewn dysgu drwy brofiadau sy’n gysylltiedig â hawliau plant, datblygiad holistaidd, gwaith tîm, arweinyddiaeth, astudiaethau cwricwlwm, Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), a pholisi llesiant.
Mae’r Brifysgol yn edrych ymlaen at groesawu hyd yn oed mwy o fyfyrwyr yn y misoedd i ddod wrth i’r rhaglen barhau i dyfu.
I archebu gweithdy neu i ddarganfod rhagor am raglenni Plentyndod, Addysg a Chymdeithas yn PCYDDS, cysylltwch â g.tinney@uwtsd.ac.uk neu ewch i: Plentyndod, Addysg a Chymdeithas (BA Anrh) | Abertawe 3 Blynedd Llawn amser | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476