Dau fyfyriwr o PCYDDS yn ychwanegu gwerth gwirioneddol i gwmni o Abertawe
Mae interniaethau myfyrwyr a gefnogir gan PCYDDS wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r cwmni logisteg o Abertawe, Shipmax, gan ysgogi gwerth diriaethol i’r busnes.
Mae’r myfyrwyr trydedd flwyddyn, Kieran Brown a Caitlin Davis ill dau wedi cael profiadau â thâl yn y gweithle fel interniaid yn y cwmni.
Bu Kieran, a fydd yn graddio gyda gradd BSc mewn Cyfrifiadura Cymhwysol ym mis Gorffennaf, yn cymryd rhan mewn interniaeth 80 awr ac mae bellach yn weithiwr amser llawn gyda’r cwmni.Yn gynharach y mis hwn ymunodd â SHIPMAX yn rhan o ddirprwyaeth o Lywodraeth Cymru, drwy Fusnes Cymru, i fynychu cynhadledd ar AI yn Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) yn Boston.
“Mae gweithio fel intern yn SHIPMAX wedi datblygu fy nealltwriaeth yn sylweddol o sut y gellir cymhwyso AI yn y gweithle i yrru arloesedd a chynyddu effaith”, eglura Kieran. “Ychwanegwyd at hyn ymhellach trwy fy nhaith ddiweddar i MIT gyda SHIPMAX, lle cefais hyd yn oed fwy o fewnwelediad i botensial technolegau datblygol. A minnau bellach yn symud i rôl amser llawn, rwy’n gyffrous i fwrw ati’n syth a chymhwyso popeth rydw i wedi’i ddysgu. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y cam nesaf hwn a’r hyn sydd o’n blaenau ni yn SHIPMAX.”
Mae Shipmax wedi’i leoli o fewn Matrics Arloesi’r Brifysgol ar gampws SA1 Y Glannau, wedi i’r cwmni ddechrau defnyddio’r adeilad fel gofod rhannu desgiau cyn cymryd uned yn yr adeilad. Dywedodd Phil Rees, Prif Swyddog Gweithredol, sydd hefyd yn ddarlithydd gwadd yn y Brifysgol: “Mae cyfraniad Kieran i’r busnes wedi bod yn arbennig o werthfawr, felly cynigiais swydd amser llawn iddo yn y busnes ar ôl iddo gwblhau ei radd.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â’r Brifysgol yn y flwyddyn academaidd newydd gyda rhagor o interniaethau a chydweithredu oherwydd y llwyddiant cychwynnol hwn”.
Dywedodd James Williams, uwch ddarlithydd mewn cyfrifiadura cymhwysol: “Gwnaeth cyfraniad Phil Rees fel darlithydd gwadd o’r diwydiant ychwanegu gwerth sylweddol at y profiad myfyrwyr, gan bontio’r bwlch rhwng dysgu academaidd ac arfer y diwydiant. Daeth sgwrs Phil â mewnwelediad byd go iawn i’r modwl Arloesi a Rheolaeth Prosiectau, gan atgyfnerthu bod y dulliau, yr offer a’r broses llif gwaith y mae ein myfyrwyr yn ymgymryd â nhw yn cyfateb yn union i’r rhai a ddefnyddir mewn diwydiant. Mae hefyd yn wych gweld effaith uniongyrchol ein hymgysylltiad â’r diwydiant ar deithiau gyrfa ein myfyrwyr. Mae interniaeth Kieran gyda SHIPMAX yn enghraifft wych o sut mae’r profiadau hyn yn trosi’n gyfleoedd cyflogaeth ystyrlon, o fudd i’r myfyriwr a’r cyflogwr.”
Cwblhaodd Caitlin, sy’n astudio’r BA Dylunio Graffig, leoliad 40 awr ac ers hynny mae wedi parhau i weithio yn y cwmni fel dylunydd llawrydd. Trwy gydol yr interniaeth, dywed ei bod wedi datblygu ystod o sgiliau creadigol a thechnegol newydd, tra hefyd yn gwella ei hyder wrth gyfathrebu syniadau, rheoli prosiectau, ac addasu i ddisgwyliadau proffesiynol.
Dywedodd: “Yn ystod fy interniaeth 40 awr gyda SHIPMAX, cefais y cyfle i weithio’n agos ochr yn ochr â Phil, gan ennill profiad ymarferol mewn dylunio graffig mewn amgylchedd gwaith proffesiynol, sy’n symud yn gyflym.
“Fe wnes i fwynhau’r profiad yn fawr, gan ei fod wedi rhoi mewnwelediad gwerthfawr i mi i’r diwydiant a chaniatáu i mi gymhwyso ac ehangu’r sgiliau roeddwn i wedi’u datblygu yn ystod fy astudiaethau. Roedd gweithio gyda Phil yn arbennig o werthfawr, gan fy mod yn gallu dysgu o’i arweiniad a chael gwell dealltwriaeth o waith dylunio a chydweithredu yn y byd go iawn.
“Ers cwblhau’r interniaeth, rwyf wedi parhau i weithio gyda Phil fel gweithiwr llawrydd, sydd wedi bod yn barhad cyffrous o fy natblygiad proffesiynol. Mae’r cyfle hwn wedi caniatáu imi adeiladu ar y profiad a gefais yn ystod fy interniaeth, ymgymryd â heriau creadigol newydd, a dechrau sefydlu fy hun yn y diwydiant wrth i mi ddechrau fy nhaith newydd fel myfyriwr ôl-raddedig”.
Mae interniaethau myfyrwyr o fudd i’r myfyriwr a’r cwmni fel ei gilydd, fel y dangosir gan SHIPMAX. Maent yn darparu manteision diriaethol i gwmnïau, gan eu galluogi i recriwtio sgiliau ac arbenigedd penodol i’r busnes tra hefyd yn darparu profiad ymarferol seiliedig ar waith i fyfyrwyr sy’n ategu eu hastudiaethau academaidd. Yn aml, fel yn achos Kieran a Caitlin, maen nhw’n arwain at gyfleoedd gwaith. Yn ogystal, gall interniaethau helpu myfyrwyr i wneud dewisiadau gyrfa gwybodus, cryfhau eu CVs a helpu i adeiladu rhwydweithiau proffesiynol gan roi hwb i hyder myfyrwyr wrth drosglwyddo i gyflogaeth amser llawn.
Dywedodd Amanda Hayden, Rheolwr Prosiectau PCYDDS ar gyfer Arloesi ac Ymgysylltu: “Mae bob amser yn hynod werthfawr gweld interniaethau yn datblygu yn gyfleoedd ystyrlon sydd o fudd i bawb dan sylw, y myfyriwr, y busnes a’r Brifysgol. Yn PCYDDS, rydym wedi ymrwymo i greu profiadau a arweinir gan y diwydiant sy’n rhoi cyfleoedd gwerthfawr i’n myfyrwyr a’n graddedigion yn y byd go iawn tra hefyd yn helpu busnesau i gael mynediad at dalent, syniadau a sgiliau newydd.
“Yr hyn sy’n gwneud cydweithrediadau fel hyn gyda SHIPMAX yn arbennig iawn yw’r dull partneriaeth. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n tenantiaid a’n partneriaid yn y diwydiant i sicrhau bod y perthnasoedd hyn yn mynd y tu hwnt i rannu gofod yn unig. Maent yn gydweithrediadau gwirioneddol sydd wedi’u hadeiladu ar fudd i’r ddwy ochr, uchelgais a rennir ac effaith hirdymor.
“Mae wedi bod yn wych gweld llwyddiant Kieran a Caitlin yn SHIPMAX, ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Phil, Kieran a’r tîm yn SHIPMAX, a’n holl denantiaid yn y Matrics Arloesi i greu hyd yn oed mwy o gyfleoedd yn y dyfodol.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071