Skip page header and navigation

Mae Dr Tim Bashford, Arweinydd Ymchwil yn Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi bod yn meddwl yn ddwys am y modd y gall sefydliadau o bob math fynd i’r afael â deallusrwydd artiffisial gyda hyder a phwrpas. Yn fwyaf diweddar, rhannodd ei fewnwelediadau mewn colofn wadd ar gyfer Business News Wales, gan ddadlau bod parodrwydd sefydliad am AI yn dibynnu mwy ar raddfa ac aeddfedrwydd digidol y sefydliad yn hytrach na’i sector yn unig, ac amlinellodd pam mae addysg, sgiliau a llywodraethiant yn bwysig er mwyn ei fabwysiadu’n gyfrifol. 

Gallwch ddarllen colofn Tim isod a hefyd dilyn y ddolen i’r bennod o’r podlediad Government & Not for Profit lle mae’n ymuno â thrafodaeth bord gron ynglŷn ag AI ar waith i gael safbwyntiau pellach ar y pwnc hwn sy’n esblygu’n gyflym.

Profile headshot photo of Dr Tim Bashford
Dr Tim Bashford, Arweinydd Ymchwil yn Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS)

Sonnir yn aml am AI fel maes lle mae’r sector cyhoeddus wedi’i dynghedu i lusgo ar ei hôl hi. Dydw i ddim yn argyhoeddedig bod hynny’n wir. Mewn gwirionedd, o’r hyn rwy’n ei weld trwy fy ngwaith yn Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru, mae’r darlun yn llawer mwy cymhleth.

Nid rhaniad rhwng y cyhoeddus a’r preifat ydyw. Mae’n rhaniad rhwng sefydliadau mawr, aeddfed yn ddigidol sy’n gyfoethog eu hadnoddau, a phawb arall. Ac yn y categori “pawb arall”, mae yna lawer iawn o sefydliadau sector preifat, yn enwedig busnesau llai, nad ydynt damaid yn fwy parod ar gyfer AI na’r rhannau lleiaf aeddfed o’r sector cyhoeddus.

Mae ein Sefydliad ni yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol De Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Rydym yn gweithio’n agos gyda GIG Cymru ar arloesi, ymchwil a datblygu, a hyfforddiant.

Mae llawer o’r heriau sy’n wynebu gofal iechyd heddiw yn broblemau sy’n ymwneud ag arloesi, ac ni ellir eu goresgyn yn hawdd. Maent yn gofyn am ddulliau newydd, ffyrdd newydd o feddwl ac yn aml gallu technegol newydd. Mae AI yn eistedd yn gadarn yn y gofod hwnnw. Rydym yn treulio llawer o amser nid yn unig yn edrych ar y dechnoleg ei hun, ond hefyd ar sut y gall pobl a sefydliadau ei mabwysiadu’n ddiogel ac yn hyderus.

Yr hyn sy’n drawiadol yw nad yw’r naratif cyffredin – bod gwasanaethau cyhoeddus bob amser ymhell y tu ôl i’r sector preifat – mewn gwirionedd yn dal dŵr. A dweud y gwir, yng Nghymru, mae gan wasanaethau cyhoeddus strwythurau llywodraethu a chymorth cymharol aeddfed ar gyfer AI. Mae yna, wrth gwrs, amrywiadau rhwng sefydliadau. Gall hen systemau a chapasiti etifeddol arafu mabwysiadu. Ond gwelwn rai pocedi o gryfder go iawn hefyd. Yn y cyfamser, nid yw’r sector preifat wastad ar y blaen. Oes, mae yna sefydliadau mawr, yn enwedig mewn meysydd fel fintech a medtech, sy’n gwneud gwaith da iawn o fabwysiadu AI. Ond mae yna hefyd gynffon hir o fusnesau bach a chanolig sy’n ei chael yn anodd o ran parodrwydd, sgiliau a buddsoddiad. Nid yw’r bwlch, felly, yn un o sefydliadau cyhoeddus yn erbyn rhai preifat, ond o raddfa ac aeddfedrwydd.

Dyma lle rwy’n credu y gall addysg uwch chwarae rôl fwy gweithredol ac ymarferol. Yn rhy aml, mae prifysgolion yn cael eu hystyried yn gartrefi pethau aruchel, algorithmig yn unig - yr ymchwil dechnegol fanwl a’r gyfrifiadureg gymhleth nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn dod ar eu traws o ddydd i ddydd. Er bod yr ymchwil hwnnw’n bwysig, nid dyma’r unig gyfraniad y gallwn ei wneud. Mewn gwirionedd, byddwn i’n dadlau bod ein rôl mewn hyfforddiant a datblygu sgiliau yr un mor hanfodol, yn enwedig wrth i sefydliadau ledled Cymru ddechrau meddwl am sut y gellid defnyddio AI yn gyfrifol.

Rydym eisoes yn gweld yr angen am hyfforddiant sy’n eistedd ymhell y tu hwnt i ddylunio algorithmau datblygedig. Mae angen i staff y sector cyhoeddus ddeall sut i ddefnyddio offer AI, sut i’w cwestiynu, sut i ddehongli eu hallbynnau a sut i’w cymhwyso mewn ffyrdd sy’n foesegol, yn dryloyw ac yn ddiogel. Ar yr un pryd, mae angen iddynt osgoi gorddibyniaeth. Gall AI fod yn argyhoeddiadol hyd yn oed pan mae’n anghywir, ac mae diofalwch yn risg. Felly hefyd y risg o ganlyniadau anghyfartal pan fydd rhagfarnau cynhenid yn y data, neu lle nad yw ieithoedd fel y Gymraeg yn cael eu trin yn gyfartal oherwydd nad yw’r modelau sylfaenol wedi’u hyfforddi â’r cydbwysedd cywir. Mae’r rhain yn bryderon byd go iawn sy’n gofyn am hyfforddiant byd go iawn.

Mae yna hefyd angen sy’n dod i’r amlwg am yr hyn y gallem ei alw’n llythrennedd promptio: y gallu i ddefnyddio AI yn effeithiol o fewn gwaith bob dydd. I lawer o bobl mewn amgylcheddau swyddfa, mae tasgau fel cynhyrchu deunydd, syntheseiddio gwybodaeth neu gynhyrchu drafftiau cynnar eisoes yn dod yn rhan o’u hymwneud arferol ag offer AI. O’u defnyddio’n iawn, gall yr offer hyn ryddhau amser a gwella cynhyrchiant. Mae gadael y gallu hwnnw heb ei ddefnyddio, dim ond oherwydd nad oes digon o hyfforddiant neu adeiladu hyder wedi bod, yn ymddangos fel cyfle a gollwyd.

Dyna pam rydyn ni’n dechrau datblygu pecynnau DPP bach, hygyrch i helpu sefydliadau i adeiladu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt. Mae’r rhain wedi’u cynllunio i fod yn ymarferol ac yn ddefnyddiadwy, nid yn ddamcaniaethol. Maent yn canolbwyntio ar yr hyn y mae angen i weithwyr ei wybod i wneud eu swyddi yn haws ac i ddefnyddio AI yn gyfrifol. Maent hefyd yn ystyried materion moesegol fel tegwch, tryloywder, risgiau camwybodaeth a sut i gynnal ymddiriedaeth, oherwydd mae ymddiriedaeth, ar ôl ei golli, yn anodd iawn ei adennill.

Yn fy marn i, dyma lle gall addysg uwch wneud gwahaniaeth sylweddol. Rydym mewn sefyllfa dda i gefnogi sefydliadau sydd eisiau symud y tu hwnt i’r heip cychwynnol ac i’w fabwysiadu’n feddylgar, mewn modd rheoledig. Gallwn gynnig arbenigedd ymchwil, ond gallwn hefyd drosi hynny i fod yn hyfforddiant, arweiniad a fframweithiau sy’n gweithio i bobl nad ydynt yn arbenigwyr. A’r pwynt pwysig yw y gallwn weithio gyda sefydliadau o bob maint, nid dim ond y rhai sydd â chyllidebau mawr neu dimau digidol mewnol.

Bydd AI yn parhau i esblygu, a bydd y sgiliau sydd eu hangen i weithio gydag ef yn esblygu hefyd. Mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn iawn i gymryd ymagwedd bwyllog: dechrau gyda’r broblem, deall y pwrpas ac adeiladu’r gallu cyn rhuthro i ddefnyddio offer. Os gallwn gefnogi’r daith honno gyda hyfforddiant ac arweiniad ymarferol, yn hytrach nag ymchwil dechnegol lefel uchel yn unig, yna gall addysg uwch helpu i sicrhau bod sefydliadau ledled Cymru – nid y rhai mwyaf yn unig – yn gallu defnyddio AI yn ddiogel, yn hyderus ac am y rhesymau cywir.

Mae Tim Bashford yn siarad am hyn, a mwy, yn y bennod Ready for AI o’r podlediad Government and Not for Profit.  Gwrandewch yma.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon