Dyfarnu Ysgoloriaeth Cyfieithu ar y Pryd i Richard Timothy.
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn falch o longyfarch Richard Timothy, myfyriwr o’r cwrs Cyfieithu ar y Pryd, ar dderbyn Ysgoloriaeth Cyfieithu ar y Pryd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru eleni. Dyfarnwyd yr ysgoloriaeth, gwerth £1,000, i gydnabod ei ymrwymiad a’i botensial yn y maes. Ar hyn o bryd, mae Richard yn gweithio i Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fel Uwch Gydymaith y Gymraeg.
Mynegodd Richard;
“Mae’r cwrs a’r cymhwyster nid yn unig yn rhoi’r gallu a’r hyder i fi’n hun o ran cyfieithu ar y pryd, ond hefyd caniatau imi ymateb yn bositif ac yn gadarnhaol i geisiadau yn fewnol, ac efallai caniatau imi fod o gymorth i rai o’n rhanddeiliaid sydd mewn sefyllfa debyg.”
Mae Canolfan Gwasanaethau Cymraeg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn darparu’r cymhwyster Ôl-Raddedig Cyfieithu ar y Pryd yma’n flynyddol o dan arweiniad Lynwen Davies.
Dyma’r unig gymhwyster ôl-radd o’i fath yng Nghymru. Mae’r Dystysgrif yn derbyn cefnogaeth gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru ac yn derbyn nawdd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Gweithreda’r cwrs unigryw ac arloesol hwn, a ddarperir gan arbenigwyr a darlithwyr y Brifysgol, fel sylfaen gadarn i’r myfyrwyr lwyddo mewn maes sy’n angenrheidiol i gyrff cyhoeddus yn unol â gofynion Safonau’r Iaith Gymraeg. Cynigir y cyfle i fireinio’r sgiliau creiddiol ac i dderbyn profiadau euraidd yn y gweithle fel rhan o’r cymhwyster hwn, a hynny rhan amser ar y cyd â swydd llawn amser.
Dyfernir Ysgoloriaeth Cyfieithu ar y Pryd yn flynyddol gan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Sefydlodd y Gymdeithas y wobr hon yn 2022-23 er mwyn ateb y galw am fwy o gyfieithwyr ar y pryd.
Ychwanegodd Teleri Haf, Prif Swyddog Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru;
“Pleser ydy cael cynnig ysgoloriaeth eleni ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Cyfieithu ar y Pryd. Mae yna ddiffyg enbyd o gyfieithwyr ar y pryd ac rydym yn hynod o ddiolchgar i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant am gynnig hyfforddiant cydnabyddedig ar gyfer unigolion sy’n dymuno mentro i’r maes. Dymunwn y gorau i Richard ac edrychwn ymlaen at ei groesawu’n aelod o’r Gymdeithas yn y dyfodol.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476