Dyfarnu ysgoloriaeth nodedig gan yr RTS i un o fyfyrwyr PCYDDS
Mae Juliette McManus, myfyrwraig Animeiddio ac Effeithiau Gweledol (VFX) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi derbyn ysgoloriaeth nodedig am Arloesi Digidol gan y Royal Television Society (RTS), gan gydnabod ei dawn greadigol a’i hymrwymiad i ddatblygu gyrfa o fewn y diwydiant.
Mae’r ysgoloriaeth yn cynnwys bwrsariaeth o £1,500, ynghyd â mynediad i ddigwyddiadau rhwydweithio yn y diwydiant, taith haf o amgylch stiwdios a mentor o’r diwydiant, gan roi cyfleoedd gwerthfawr i Juliette ddatblygu cysylltiadau proffesiynol a chael mewnwelediad i’r diwydiannau creadigol.
I Juliette, mae ysgoloriaeth yr RTS yn gam pwysig ymlaen tuag at gyflawni ei huchelgais o symud o fod yn rhywun â diddordeb yn y diwydiannau creadigol i fod yn weithiwr proffesiynol yn y maes.
Meddai: “Roeddwn i wrth fy modd ac wedi synnu rhyw ychydig. Dw i’n cofio bod â gwên ar fy wyneb am oriau. Ac mae cymuned yr RTS yn llawn o bobl hyfryd, hynod gefnogol.”
Bydd y fwrsariaeth yn helpu i dalu costau ymarferol sy’n gysylltiedig â datblygu ei gwaith a chymryd rhan yng nghymuned ehangach y cyfryngau, gan gynnwys costau meddalwedd, teithio i ddigwyddiadau’r diwydiant a chostau cynhyrchu ffilmiau byr.
“Mae cael y cyfle i bontio’r bwlch hwnnw o fod yn fyfyriwr i weithio yn y diwydiant yn wirioneddol wych. Gallwch fforddio’r feddalwedd, teithio i ddigwyddiadau’r diwydiant, cwrdd â’ch cymheiriaid, cael mynediad at brofiad gwaith, a thalu costau cynhyrchu ffilmiau byr. Mae wir yn ehangu’r cyfleoedd i gymryd rhan yng nghymuned y cyfryngau.”
Gydag angerdd arbennig am animeiddio 3D, modelu ac efelychu, mae Juliette eisoes yn meithrin profiad yn y diwydiant ochr yn ochr â’i hastudiaethau. Mae hi wedi gweithio fel animeiddiwr cymeriadau 3D ar gêm annibynnol sydd ar y gweill ac mae’n datblygu ei ffilm fer ei hun i’w chyflwyno mewn gwyliau.
Mae Juliette yn credu bod ei hastudiaethau yn PCYDDS hefyd wedi agor cyfleoedd na fyddai fel arall wedi bod ar gael iddi.
“Mae’r cwrs yn agor llawer o ddrysau. Mae nifer o interniaethau, lleoliadau gwaith, ac ysgoloriaethau na fyddwn yn gallu gwneud cais amdanynt heb fod yn fyfyriwr Effeithiau Gweledol.”
Astudiodd Juliette gwrs Animeiddio yng Ngholeg Kerry cyn dewis parhau â’i haddysg yn PCYDDS.
Meddai: “Dewisais y cwrs BA Animeiddio ac Effeithiau Gweledol yma oherwydd y modylau. Does dim rhyw lawer o gyrsiau Effeithiau Gweledol ar gael yn y wlad, ac un o’m prif ddiddordebau erioed fu gwaith 3D ac efelychiadau, nid golygu’n bennaf. Roedd gan y cwrs hwn gymysgedd cytbwys o’r ddau a oedd yn apelio ata i.”
Un o uchafbwyntiau ei hamser yn PCYDDS oedd ymweliad ag S4C, lle cafodd gyfle i glywed yn uniongyrchol gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant a chael cyngor ymarferol am weithio yn sector y cyfryngau.
“Dysgais gymaint wrth weld a chlywed gan bobl yn y diwydiant, a chael cyngor ymarferol.”
Byddai’n argymell y cwrs i ddarpar fyfyrwyr, yn enwedig y rhai sy’n awyddus i ddatblygu eu prosiectau creadigol eu hunain.
“Mae’n amgylchedd eithaf di-straen; mae pawb yn garedig iawn. Byddwn i’n ei argymell os oes gennych chi lawer o waith hunangyfeiriedig.”
Meddai Phil Organ, Uwch Ddarlithydd yn PCYDDS: “Braf clywed y newyddion fod Juliette, un o’n hisraddedigion gweithgar ar y radd Animeiddio ac Effeithiau Gweledol, wedi ennill ysgoloriaeth a nawdd gan y Royal Television Society. Mae ei gwaith cwrs yn gyson gryf, ac nid yw’r wobr hon yn syndod. Mae hi’n dangos yn barhaus lefel gref o ymrwymiad ac angerdd dros ei hastudiaethau, gan ymdrechu bob amser i godi ei safon o ddylunio wedi’i animeiddio a gwneud ffilmiau, y tu hwnt i waith dosbarth yn unig.
“Mae technegau cynhyrchu yn greiddiol i’r hyn a wnawn yma yn PCYDDS, ac mae Juliette yn hapus i ymgolli yn y gymuned animeiddio estynedig, gan fynychu digwyddiadau a gwyliau, cysylltu â’r diwydiant a mwy. Bydd hi’n croesawu’r gefnogaeth a’r cyfleoedd rhwydweithio a ddaw yn sgil hyn, i helpu i hyrwyddo ei nodau gyrfa ac i sicrhau’r rôl y mae hi’n dyheu amdani ar ôl graddio. Da iawn Juliette!”
Ar hyn o bryd mae Juliette yn gwneud cais am interniaethau tra’n gweithio ar waith animeiddio 3D ar gyfer ei ffilm fer, y mae’n gobeithio ei chyflwyno i wyliau yng nghanol 2027. Mae hi hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiad creu gemau (game jam) ac yn bwriadu mynychu rhagor o ddigwyddiadau rhwydweithio wrth iddi barhau i adeiladu ei phortffolio a’i chysylltiadau â’r diwydiant.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476