Dylunio’r Dyfodol: Ysgol Pensaernïaeth PCYDDS Abertawe yn Dathlu Rhagoriaeth a Thwf Myfyrwyr
Cynhaliodd Ysgol Pensaernïaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ei Sioe Diwedd Blwyddyn yn ddiweddar, gan arddangos creadigrwydd, sgiliau technegol a meddwl dylunio rhagorol ei myfyrwyr pensaernïaeth. Daeth llawer iawn o bobl gan gynnwys cynrychiolwyr o fusnesau pensaernïaeth lleol, gweithwyr proffesiynol, cyn-fyfyrwyr ac aelodau o’r cyhoedd – a gwnaeth ansawdd a dyfnder y gwaith a arddangoswyd argraff fawr ar bob un ohonynt.

Canmolodd gwesteion yr arddangosfa am ei hamrywiaeth a’u heglurdeb, a dynnodd sylw at y pwysigrwydd a osodir ar y broses ddylunio, gyda llyfrau brasluniau a modelau’n cael eu dathlu gymaint â’r cyflwyniadau terfynol. Nododd un o’r mynychwyr:
“Roedd yn bleser gennym weld y llyfrau brasluniau a’r modelau braslunio – mae’r cynllunio yr un mor bwysig â’r darn terfynol!”
Yn ogystal, manteisiodd gweithwyr proffesiynol y diwydiant ar y cyfle i ymgysylltu â myfyrwyr a staff. “Roedd yn wych gweld arferion yn cael eu cynrychioli a chael y cyfle i siarad â chydweithwyr proffesiynol ,” dywedodd un gwestai, ac ychwanegodd Wezley Morgan, “Rwy’n edrych ymlaen at ymweld eto er mwyn helpu cefnogi myfyrwyr o safbwynt technegol a noddi Gwobr Myfyriwr Sioe Diwedd Flwyddyn!”

Ymhlith uchafbwyntiau’r myfyrwyr oedd Jimmy Cho, y cydnabuwyd ei gyfraniadau gyda’r Wobr Lluniadu Technegol Gorau. Cafodd Jimmy, sydd wedi bod yn gweithio gyda George & Co yn ystod ei astudiaethau Rhan 1, ganmoliaeth gan Steven George am ei ymrwymiad a’i lwyddiant. Meddai:
“Roedd yn wych gweld iddo ennill y wobr… Rydym yn dymuno pob lwc iddo yn ei bennod newydd yn Llundain.”

Yn ogystal, mae’r sioe eleni yn nodi carreg filltir gyffrous i’r ysgol, sydd wedi cyhoeddi cymhwyster lefel Meistr newydd a fydd yn cael ei lansio ym Medi 2025. Mae’r datblygiad hwn yn golygu y gall myfyrwyr barhau eu haddysg bensaernïol yn Abertawe – newyddion sydd wedi cael eu croesawu gan gwmnïau lleol fel Starki AEC, sy’n falch o gefnogi talent leol.
Meddai Ian Standen, Cyfarwyddwr Rhaglen Pensaernïaeth PCYDDS:
“Gydag ehangu parhaus ein cyrsiau a chymuned fywiog o fyfyrwyr, mae Ysgol Pensaernïaeth Abertawe yn prysur ddod yn ganolfan ragoriaeth bensaernïol yng Nghymru. Unwaith eto mae’r Sioe Diwedd Flwyddyn wedi cadarnhau ymrwymiad yr ysgol i ddylunio, arloesi a manwl gywirdeb technegol – ac mae’r dyfodol yn edrych yn fwy disglair nag erioed!”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476