Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn datblygu sgiliau cyfathrebu a phroffesiynol hanfodol gan ddefnyddio efelychiadau wedi’u pweru gan AI, menter a amlygwyd yn ddiweddar yn un o gynadleddau technoleg addysg fwyaf y DU.

Laura Hutchings on stage at Digisfest sitting down as  panellist with three other individual

Rhannodd y Brifysgol fewnwelediadau o’i defnydd o’r platfform dysgu trochol Bodyswaps yn Digifest, cynhadledd genedlaethol a gynhelir gan Jisc sy’n dwyn ynghyd arweinwyr o feysydd addysg uwch ac addysg bellach i archwilio sut mae technolegau digidol yn llunio dyfodol dysgu a phrofiad myfyrwyr.

Wedi’i chyflwyno’n wreiddiol o fewn Athrofa Addysg a’r Dyniaethau y Brifysgol, mae’r dechnoleg bellach yn cael ei defnyddio gan fyfyrwyr ar draws rhaglenni a champysau  Abertawe, Caerfyrddin ac ICC Birmingham.  Mae Bodyswaps yn caniatáu i fyfyrwyr ymarfer sgiliau gweithle a rhyngbersonol trwy sgyrsiau rhyngweithiol gyda chymeriadau rhithwir mewn senarios realistig. Mae un o nodweddion unigryw’r platfform yn galluogi dysgwyr i “gyfnewid safbwyntiau”, gan brofi’r rhyngweithio o safbwynt person arall i adfyfyrio ar eu harddull gyfathrebu a datblygu empathi.

Mae’r efelychiadau yn darparu amgylchedd diogel lle gall myfyrwyr ailadrodd senarios, derbyn adborth ar unwaith ar elfennau fel tôn a chyflwyno, a mireinio eu dull cyn cymhwyso’r sgiliau hyn mewn lleoliadau proffesiynol go iawn.

Wrth siarad yn Digifest, esboniodd Laura Hutchings, Arweinydd Digidol yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau ac arweinydd academaidd ar gyfer y prosiect Bodyswaps, sut mae technolegau trochol yn cefnogi datblygiad sgiliau dynol ochr yn ochr â gwybodaeth academaidd.

 “Mae Bodyswaps wedi darparu ffordd werthfawr iawn i fyfyrwyr ymarfer y mathau o sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol sy’n hanfodol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol,” meddai.

“Mae wedi bod yn arbennig o werthfawr i gydweithwyr yn yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau weld sut mae’r platfform yn cael ei ddefnyddio ar draws athrofeydd eraill yn y Brifysgol. Mae gallu dysgu o wahanol achosion a rhannu arfer gorau wedi ein helpu i archwilio ffyrdd newydd o integreiddio’r dechnoleg i ddulliau addysgu ac asesu.”

Un o gryfderau’r platfform yw ei hyblygrwydd. Gall staff academaidd addasu neu greu eu senarios eu hunain, gan ganiatáu i efelychiadau adlewyrchu gwahanol gyd-destunau proffesiynol a deilliannau dysgu ar draws disgyblaethau.

Mae’r prosiect hefyd wedi creu cyfleoedd ar gyfer cydweithio rhwng staff academaidd a thîm Profiad Digidol ac Ymgysylltu y Brifysgol, sy’n gweithio gyda chydweithwyr i ddylunio ac ymgorffori gweithgareddau dysgu trochol.

 “Mae technolegau trochol yn creu cyfleoedd newydd i academyddion ddylunio gweithgareddau dysgu drwy brofiad a fyddai’n anodd eu hailadrodd mewn lleoliadau dosbarth traddodiadol,” meddai Glyn Jenkins, Rheolwr Profiad Digidol ac Ymgysylltu.
“Ein rôl yw gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr i archwilio’r posibiliadau hyn, gan gefnogi dylunio, profi a gweithredu dysgu seiliedig ar efelychu gan ddefnyddio platfformau fel Bodyswaps. Mae’r dull cydwweithredol hwn yn ein galluogi i arloesi wrth sicrhau bod y dechnoleg yn cyd-fynd â deilliannau dysgu.”

Mae ymgysylltiad cryf â’r platfform wedi gosod y Brifysgol ymhlith y tri sefydliad gorau yn fyd-eang o ran defnydd o fewn y prosiect Bodyswaps, gan adlewyrchu’r diddordeb cynyddol mewn offer AI trochol i gefnogi datblygiad sgiliau myfyrwyr.

Dywedodd James Cale, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol, fod y fenter yn dangos gwerth cydweithio ar draws y Brifysgol.

 “Mae prosiectau fel hyn yn dangos effaith cydweithio cryf rhwng cydweithwyr academaidd a’n timau digidol,” meddal James Cale. 
“Trwy weithio gyda’n gilydd gallwn archwilio technolegau arloesol sy’n gwella addysgu a dysgu, cefnogi trawsnewid digidol, a sicrhau bod ein myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol.”

Wrth i’r prosiect barhau i ddatblygu, mae’r Brifysgol yn archwilio cyfleoedd pellach i integreiddio efelychiadau trochol yn y dulliau addysgu ac asesu ar draws rhaglenni.

Mae mentrau fel hyn yn tynnu sylw at sut mae AI yn cael ei ddefnyddio nid i ddisodli rhyngweithio dynol, ond i gefnogi myfyrwyr wrth fagu’r hyder, y sgiliau cyfathrebu a’r sgiliau proffesiynol a fydd yn eu helpu i lwyddo yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon