Skip page header and navigation

Dyma farn Emma Henshaw sy’n graddio o’r radd BA Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig o gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yr wythnos hon.

Emma Henshaw - BA Addysg Gynradd 2026

Dywed Emma:  “Fy hoff beth am Gampws Caerfyrddin oedd y teimlad o gymuned. Mae’n gampws bach, ac mae hynny’n golygu nad ydych byth yn teimlo fel rhif; mae pawb yn adnabod ei gilydd, ac mae’r awyrgylch yn gynnes, Cymreig a chroesawgar. Roedd y darlithwyr yn gefnogol ac yn barod i helpu, ac roedd y cwrs cyfrwng Cymraeg yn teimlo’n gartrefol iawn, bron fel teulu”.

Dewisodd Emma astudio ar gampws Caerfyrddin oherwydd gysylltiad cryf â’r Gymraeg a’i enw da am hyfforddi athrawon cynradd. Roedd hefyd am astudio’n agos at ei chartref yn Llanwrda mewn amgylchedd cefnogol, ac roedd y cwrs cyfrwng Cymraeg yn cynnig profiad unigryw a phersonol meddai. 

“Roedd y cyfleoedd ymarferol, y lleoliadau rheolaidd, a’r darlithwyr brwdfrydig yn gwneud y brifysgol yn ddewis naturiol i mi” meddai Emma. 

“Roedd y lleoliadau’n cael eu rhannu’n gyfartal dros y tair blynedd, gan roi profiad ymarferol o’r cychwyn cyntaf. Roedd y modiwlau’n berthnasol ac yn ymarferol, ac roedd y cwrs yn annog myfyrwyr i fynd uwchlaw a thu hwnt i ddisgwyliadau drwy gyfleoedd fel lleoliadau amgen a modiwlau ymchwil mewn ysgolion.”

Roedd cydbwyso astudio, lleoliadau a gwaith rhan-amser yn her i Emma ar brydau ond dywed ei bod wedi sicrhau ei bod yn trefnu ei gwaith yn ofalus, yn gofyn am gymorth pan oedd ei angen, ac yn cadw at drefn glir er mwyn rheoli’r pwysau. Mae hefyd yn canmol y gefnogaeth gan darlithwyr a mentoriaid lleoliad.  Cafodd hefyd gymorth gan yr adran Gwasanaethau Myfyrwyr a wnaeth wahaniaeth enfawr i’w graddau a’i dealltwriaeth a byddai’n argymell y gwasanaeth yn fawr iawn, gan ei fod yn gallu helpu i godi hyder a chyrraedd graddau uwch”.

Y tu hwnt i’r astudiaethau, bu Emma yn gwirfoddoli gydag ysgol goedwig leol a gweithio i glybiau ysgol gan gefnogi dysgu awyr agored a datblygiad emosiynol cymdeithasol plant. 

“Roeddwn hefyd yn rhan o fywyd y campws, yn cymryd rhan mewn digwyddiadau Cymraeg ac yn mwynhau’r gymuned glos o fyfyrwyr Addysg Gynradd” meddai. “Roedd y cydbwysedd rhwng astudio, lleoliadau a gweithgareddau y tu allan i’r cwrs yn gwneud y profiad yn gyfoethog ac yn werth chweil”.

Mae Emma yn argymell y Brifysgol yn fawr. “Mae’r darlithwyr yn hynod gyfeillgar ac yn gefnogol, ac maen nhw wir eisiau gweld myfyrwyr yn llwyddo. Mae’r campws bach yn creu amgylchedd cynnes a phersonol lle mae pob myfyriwr yn cael sylw unigol. Mae’r cwrs Addysg Gynradd yn ymarferol, wedi’i strwythuro’n dda, ac yn cynnig lleoliadau o’r flwyddyn gyntaf. Mae’r profiad cyfrwng Cymraeg yn arbennig ac yn meithrin hyder, sgiliau ac ymdeimlad o berthyn”.

Bellach mae Emma yn bwriadu cwblhau eu blwyddyn Athro Newydd Gymwysoli (ANG) a pharhau i wirfoddoli mewn ysgol goedwig ac yn cymryd cymaint o gyfleoedd datblygu proffesiynol ag y gallai.


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 01267 676790

Rhannwch yr eitem newyddion hon