Grant gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru i Dr Harriett Webster ar gyfer prosiect arloesol am Gymru’r Oesoedd Canol
Mae Dr Harriett Webster, Uwch Ddarlithydd yn Hanes yr Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wedi derbyn grant gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru i gynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu prosiect ymchwil rhyngddisgyblaethol newydd sy’n archwilio rhwydweithiau mynachaidd yr oesoedd canol yng Nghymru.
Bydd cyllid Cynllun Grant y Gweithdy Ymchwil yn cefnogi cyfres o dri gweithdy yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe yn gynnar eleni, gan ddod â haneswyr, ymchwilwyr digidol, gweithwyr proffesiynol treftadaeth ac addysgwyr ynghyd yn rhan o brosiect MonkNet.
Bydd MonkNet yn defnyddio dulliau digidol uwch gan gynnwys Dadansoddi Rhwydweithiau Cymdeithasol (SNA) a Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) i fapio a dadansoddi cysylltiadau hanesyddol a rhyngwladol tai mynachaidd Cymru ar ôl 1066. Trwy ddelweddu sut roedd mynachlogydd yng Nghymru wedi’u cysylltu’n gymdeithasol, yn wleidyddol ac yn ddiwylliannol â sefydliadau ledled Prydain ac Ewrop, bydd y prosiect yn datgelu eu dylanwad mewn ffyrdd newydd a hygyrch.
Bydd y gweithdai yn dod â phartneriaid o bob cwr o Gymru ynghyd, gan gynnwys cydweithwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Ymddiriedolaeth Gwirfoddolwyr Abaty Hendy-gwyn ar Daf, Ymddiriedolaeth Treftadaeth Abaty Cwm-hir, ac Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur, ochr yn ochr ag ymchwilwyr ac addysgwyr o raglenni TAR ac Addysg CAWCS a PCYDDS. Gyda’i gilydd, byddan nhw’n cyd-ddylunio’r fframwaith ar gyfer cais grant ymchwil cydweithredol mawr i’w gyflwyno yn haf 2026.
Croesawodd Dr Harriett Webster y dyfarniad, gan ddweud:
“Rwy’n falch iawn bod Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi dewis cefnogi MonkNet yn y cyfnod cynnar tyngedfennol hwn. Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi ni i ddod â chyfuniad cyffrous o haneswyr, arbenigwyr digidol, ymarferwyr treftadaeth ac addysgwyr at ei gilydd i lunio prosiect sy’n rhoi gorffennol Cymru’r Oesoedd Canol mewn cyd-destun gwirioneddol ryngwladol.
Bydd y gweithdai hyn yn gam hanfodol wrth adeiladu rhwydwaith cryf, cydweithredol a all ddarparu ymchwil arloesol, ymgysylltu â’r cyhoedd yn ystyrlon a chael effaith hirdymor ar amgylchedd hanesyddol Cymru.”
Nod y prosiect yw nid yn unig hyrwyddo dealltwriaeth academaidd o Gymru’r Oesoedd Canol ond hefyd cryfhau rhwydwaith treftadaeth ddigidol Cymru a hyrwyddo ymgysylltiad cynhwysol a chynaliadwy â gorffennol y genedl. Bwriedir iddo fod yn sail Astudiaeth Achos Effaith yn y dyfodol ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) nesaf.
Mae cynllun grantiau Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cefnogi ymchwil wreiddiol ledled Cymru ac yn 2025 dyfarnodd gyllid i 21 o brosiectau newydd ar draws y celfyddydau, y Dyniaethau, y gwyddorau a’r gwyddorau cymdeithasol.
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076