Gwahodd Arweinwyr AB i Arddangos Llwyddiant Prosiect Adeiladu Cynaliadwy 'Not Business As Usual'
Gwahoddwyd arweinwyr Addysg Bellach o bob cwr o Gymru i ddigwyddiad arddangos ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) i ddathlu llwyddiant prosiect ‘Not Business As Usual’ – menter arloesol a ddaeth ag Addysg Bellach (AB), Addysg Uwch (AU) a diwydiant at ei gilydd i drawsnewid y ffordd y mae sgiliau adeiladu cynaliadwy yn cael eu haddysgu a’u cymhwyso.
Wedi’i gyflwyno dros gyfnod o 18 mis a bellach wedi’i gwblhau’n llwyddiannus, rhagorodd y prosiect ar ei dargedau gwreiddiol, gan hyfforddi 557 o fuddiolwyr yn erbyn targed cychwynnol o 420. Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys disgyblion ysgol uwchradd, gweithwyr proffesiynol adeiladu, darlithwyr AB, a myfyrwyr AB, gan ddangos cyrraedd eang y prosiect ar draws llwybrau sgiliau addysg ac adeiladu.
Mae ystod eang o sefydliadau ledled Cymru wedi elwa o’r rhaglen, sy’n adlewyrchu cydweithio cryf rhwng darparwyr addysg a phartneriaid diwydiant.
Dan arweiniad Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) mewn cydweithrediad â staff Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a’r Amgylchedd (ACE) PCYDDS, dechreuodd y prosiect drwy ddatblygu 10 sesiwn hyfforddi byr ymarferol a rhyngweithiol newydd. Roedd y sesiynau hyn yn archwilio pynciau allweddol sy’n ymwneud â gwella adeiladau a’r amgylchedd adeiledig ehangach, gan alinio’n uniongyrchol â’r tri maes pwnc craidd a addysgir yn yr Ysgol.
Ymhlith y pynciau roedd Dylunio Amlen Adeilad, Technolegau Digidol ar gyfer Adeiladu, Draenio Trefol Cynaliadwy a Hydroleg Dalgylch, a’r defnydd o ddeunyddiau adeiladu cynaliadwy. Roedd y dull yn fwriadol ymarferol ac ymdrochol, gan helpu i resymoli pynciau cymhleth sy’n aml yn anodd eu haddysgu heb gyfleusterau arbenigol, adnoddau dysgu a deunyddiau addysgu pwrpasol – pob un ohonynt wedi’u datblygu yn rhan o’r prosiect.
Tynnodd y digwyddiad arddangos sylw at sut mae’r fenter Not Business As Usual, a ariennir drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe yn rhan o raglen Adeiladu Cymru Sero Net, wedi helpu i fynd i’r afael â bylchau sgiliau drwy roi’r wybodaeth a’r profiad ymarferol sydd eu hangen ar addysgwyr, dysgwyr a gweithwyr adeiladu proffesiynol i ddarparu adeiladau carbon isel, perfformiad uchel a sero-net.
Roedd un o linynnau allweddol y prosiect yn canolbwyntio ar gefnogi staff AB drwy Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP). Cynhaliodd CWIC gyfres o sesiynau DPP ar gyfer darlithwyr AB o Goleg Ceredigion, Coleg Menai, Coleg Sir Benfro a Choleg Merthyr Tudful. Wedi’i chyflwyno mewn cydweithrediad â Thîm Sgiliau Ysbrydoledig CSG, roedd y rhaglen yn cynnwys darlithwyr o bob cwr o Gymru a chryfhau’r cysylltiadau rhwng AB ac AU, gan helpu i sicrhau bod darpariaeth addysg adeiladu cynaliadwy yn fwy cyson.
Cyflwynwyd sesiynau gan Ian Brown, Matthew Drummond a Brandon Roberts o’r Drindod Dewi Sant, ochr yn ochr â gweithdai ymarferol eraill gan ddefnyddio cyfleusterau ac adnoddau arbenigol CWIC.
Cafodd y prosiect effaith uniongyrchol ar ddysgwyr hefyd. Drwy’r fenter Not Business As Usual, gwnaeth myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe, Ysgol Bae Baglan, Ysgol Gymunedol Dylan Thomas, Ysgol Ystalyfera, Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth, Coleg Castell-nedd Port Talbot, a Choleg Sir Benfro, ymhlith eraill, gymryd rhan mewn profiadau dysgu ymarferol ar gampws SA1 Glannau Abertawe PCYDDS. Gan ddefnyddio deunyddiau ecogyfeillgar fel pren lleol ac inswleiddio cynaliadwy, cafodd myfyrwyr fewnwelediad ymarferol i arfer gorau technegau gosod a’r rôl y mae’r rhain yn ei chwarae wrth leihau effaith amgylcheddol adeiladau.
Wedi’i ddylunio ar y cyd gan CWIC a’r Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a’r Amgylchedd, nod y prosiect oedd ysbrydoli adeiladwyr, penseiri a gweithwyr proffesiynol adeiladu sy’n gyfrifol yn amgylcheddol, wrth ddarparu sylfaen gadarn o sgiliau i gefnogi dilyniant i sector sy’n wynebu heriau hinsawdd a sero-net brys.
Meddai Gareth Evans, Pennaeth Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC):
“Roedd yr arddangosfa Not Business As Usual yn gyfle pwerus i ddod ag Addysg Bellach ac Addysg Uwch ynghyd â’r diwydiant a dangos sut olwg sydd ar adeiladu cynaliadwy yn ymarferol. Trwy rannu canlyniadau’r prosiect hwn, rydym yn cefnogi addysgwyr a dysgwyr i ymgorffori meddylfryd carbon isel, dylunio ffabrig yn gyntaf a thechnegau adeiladu arloesol mewn addysgu a hyfforddiant. Mae dysgu ymarferol yn hanfodol os ydym am arfogi’r genhedlaeth nesaf â’r sgiliau sydd eu hangen i ddarparu adeiladau sero-net a gyrru newid go iawn ar draws y sector.”
Gan gydnabod na all adeiladu ddal ati i weithredu yn yr un ffordd ag arfer, mae’r prosiect wedi chwarae rhan bwysig wrth hyrwyddo arferion amgylcheddol cyfrifol ar draws Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Mae ei lwyddiant yn dangos gwerth cydweithio agos rhwng AB, AU a diwydiant wrth ymateb i anghenion sgiliau ac uchelgeisiau hinsawdd Cymru.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071