Gwasanaeth Rhagorol yn Cael ei Gydnabod: Gwilym Dyfri Jones yn Derbyn Cymrodoriaeth Anrhydeddus gan y Drindod Dewi Sant
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (y Brifysgol) wedi dyfarnu Cymrodoriaeth Anrhydeddus i Gwilym Dyfri Jones i gydnabod ei gyfraniad rhagorol i’r Brifysgol a’i wasanaeth ymroddedig dros fwy na thri degawd.
Cyflwynwyd y wobr yn ystod seremonïau graddio’r Brifysgol yng Nghaerfyrddin i gydnabod ymrwymiad Gwilym i addysg uwch, darpariaeth cyfrwng Cymraeg, arweinyddiaeth, a gwasanaeth i gymuned y Brifysgol.
Ymunodd Gwilym â Choleg y Drindod Caerfyrddin ym 1992 fel darlithydd ac aeth ymlaen i ddal nifer o swyddi arweinyddiaeth uwch drwy gydol ei yrfa nodedig. Roedd ei rolau’n cynnwys Pennaeth yr Adran Gymraeg, Pennaeth a Deon y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant, Dirprwy Is-Ganghellor Cysylltiol (Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithrwydd), ac yn fwyaf diweddar Prifathro campysau Caerfyrddin a Llambed.
Dros 32 mlynedd o wasanaeth, chwaraeodd Gwilym ran allweddol wrth lunio darpariaeth academaidd a chyfeiriad strategol y Brifysgol. Roedd yn eiriolwr angerddol dros addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog a gwnaeth gyfraniad sylweddol at ddatblygiad addysgu, dysgu a phrofiad myfyrwyr ar draws y sefydliad.
Fel Prifathro, roedd Gwilym yn aelod allweddol o Dîm Arweinyddiaeth Uwch y Brifysgol, gan hyrwyddo buddiannau campysau Caerfyrddin a Llambed tra hefyd yn gwasanaethu fel llysgennad i’r Brifysgol ymhlith partneriaid allanol, rhanddeiliaid a chymunedau lleol.
Cyflwynwyd y Gymrodoriaeth Anrhydeddus gan yr Athro Mirjam Plantinga.
Wrth gyflwyno’r wobr, dywedodd yr Athro Plantinga:
“Wrth siarad â llawer o gydweithwyr wrth baratoi ar gyfer yr araith yma, yr hyn a ddaeth i’r amlwg dro ar ôl tro oedd y parch mawr oedd gan bawb tuag atoch. Dro ar ôl tro, canmolodd staff eich cefnogaeth iddynt yn bersonol. Roedd rhoi amser i eraill, gwrando ar eu straeon, dathlu eu llwyddiannau a chefnogi cymunedau lleol yn nodweddion allweddol o’r swydd olaf a ddalioch tan 2024 a hynny fel profost campysau Caerfyrddin a Llanbed. Mae ymdeimlad cryf Gwilym o gynhwysiant bob amser wedi cynnwys ymrwymiad i gefnogi dysgwyr Cymraeg. Rwyf fi’n bersonol wedi elwa ar yr ymrwymiad hwnnw, ac am hynny hoffwn ddiolch yn ddiffuant i chi.
Mae’n anrhydedd i mi ein bod heddiw yn dathlu bywyd a dreuliwyd yn cefnogi eraill, yn sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg a’r iaith Gymraeg yn parhau i ffynnu, ac yn canolbwyntio ar rym trawsnewidiol addysg.”
Wrth dderbyn y Gymrodoriaeth Anrhydeddus, dywedodd Gwilym Dyfri Jones:
“Mae’n fraint fawr sefyll o’ch blaen heddiw a derbyn Cymrodoriaeth Anrhydeddus gan brifysgol sydd wedi llunio fy mywyd ers dros ddeuddeg mlynedd ar hugain. Rwy’n ddiolchgar iawn, ac rwy’n derbyn yr anrhydedd hon ar ran pawb sydd wedi cerdded ochr yn ochr â mi ar hyd fy nhaith – fy nheulu, fy nghydweithwyr, a’r cenedlaethau o fyfyrwyr sydd wedi bod yn guriad calon y sefydliad hwn.
Heddiw, yn anad dim, yw dathliad ohonoch chi – y graddedigion. Rydych chi wedi cyrraedd carreg filltir sy’n cynrychioli ymroddiad, gwydnwch, chwilfrydedd a gobaith. Mae graddio yn foment o hapusrwydd – nid y math dros dro, ond yr hapusrwydd dwfn, tawel sy’n dod o gyflawni rhywbeth ystyrlon. Rydych chi, y graddedigion, wedi ennill yr hapusrwydd hwnnw. Ac rydych chi’n ei gario gyda chi nawr i’r bennod nesaf o’ch bywydau. Llongyfarchiadau. Rydych chi wedi gwneud eich teuluoedd yn falch, eich darlithwyr yn falch a’ch prifysgol yn falch. Cariwch heddiw gyda chi bob amser.”
Mae’r Gymrodoriaeth Anrhydeddus yn un o’r anrhydeddau uchaf a roddir gan Y Drindod Dewi Sant ac mae’n cydnabod unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’w proffesiwn, eu cymuned, neu i fywyd a gwaith y Brifysgol.
Trwy ei ymrwymiad diysgog i addysg, yr iaith Gymraeg a chenhadaeth y Brifysgol, mae Gwilym Dyfri Jones wedi gadael gwaddol parhaol a fydd yn parhau i fod o fudd i genedlaethau’r dyfodol o fyfyrwyr, staff a chymunedau ledled Cymru.
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076