Skip page header and navigation

Mae Sioned Raymond, sy’n gweithio i Cyngor Sir Caerfyrddin, wedi cynnal ymchwil fel rhan o’i hastudiaethau MA Arfer Proffesiynol gyda Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant  i archwilio sut y gellir cynyddu nifer y graddedigion a phrentisiaid cyfrwng Cymraeg o fewn y Cyngor.

photo  of Sioned Raymond

Ar ôl gorffen ei hastudiaethau israddedig, roedd Sioned yn awyddus i barhau i ddatblygu’n broffesiynol tra’n gweithio yn y sector cyhoeddus. Dewisodd astudio’r MA Arfer Proffesiynol oherwydd hyblygrwydd y rhaglen a’i ffocws ar ddatblygiad gyrfa, gan ganiatáu iddi gyfuno dysgu academaidd â’i phrofiad gwaith o ddydd i ddydd.

Dywedodd:
“Roedd y cyfle i astudio ochr yn ochr â fy swydd yn apelio’n arbennig, gan ganiatáu i mi ddatblygu’n broffesiynol wrth barhau yn fy rôl.”

Roedd cynnwys y cwrs yn hynod berthnasol i’w gwaith, gyda modiwlau’n cynnwys Cynllun Dysgu, Dulliau Ymchwil, Rheoli Prosiectau, Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), a Phrosiect Seiliedig ar Waith. Mae’r sgiliau a’r wybodaeth a enillodd drwy’r modiwlau hyn wedi helpu Sioned i ddatblygu dull mwy strategol a myfyriol o’i gwaith.

Fel rhan o’i thraethawd hir, canolbwyntiodd Sioned ar ffyrdd o gynyddu nifer y graddedigion a phrentisiaid cyfrwng Cymraeg o fewn y Cyngor. Ei nod oedd archwilio’r system bresennol a’r gofynion ar gyfer y swyddi hyn, gyda’r bwriad o ddatblygu dulliau mwy effeithiol o ddenu ymgeiswyr Cymraeg eu hiaith.

Gan ei bod hi ei hun wedi bod drwy’r cynllun graddedig, roedd yn awyddus i sicrhau bod eraill yn gallu manteisio ar yr un cyfleoedd. Meddai:

“Roeddwn i eisiau i eraill gael y profiadau a’r cyfleoedd gwych mae’r cynllun yn ei gynnig. Ond wrth fynd drwy’r rhaglen, daeth rhai bylchau i’r amlwg o ran recriwtio gweithwyr cyfrwng Cymraeg.”

Wedi ei magu ar aelwyd Gymraeg amaethyddol, mae Sioned yn angerddol dros y Gymraeg ac yn ymwybodol o’r heriau sy’n wynebu ardaloedd gwledig. Nododd fod data’r cyfrifiad yn dangos bod llawer o bobl ifanc yn symud i ffwrdd, gan bwysleisio’r angen i hyrwyddo manteision aros a gweithio’n lleol.

Fel rhan o’i hymchwil, cynhaliodd Sioned holiaduron, grwpiau ffocws a chyfweliadau gyda graddedigion presennol a chyn-raddedigion y Cyngor, myfyrwyr prifysgol ledled Cymru, yn ogystal â sefydliadau eraill megis Cyngor Gwynedd, sy’n rhedeg cynlluniau penodol ar gyfer siaradwyr Cymraeg. Ychwanegodd: 

“Nes i fwynhau gwneud yr ymchwil yn fawr iawn. Daeth nifer o argymhellion pwysig i’r amlwg, ac rwy’n edrych ymlaen at eu cyflwyno i dîm dysgu a datblygu’r Cyngor.”

Yn ogystal â’i gwaith ymchwil, mae’r cwrs wedi cael effaith sylweddol ar ei datblygiad personol a phroffesiynol. Mae bellach yn rheoli nifer o brosiectau a phaneli, gan gymhwyso’r sgiliau a ddatblygodd yn ystod y rhaglen yn uniongyrchol yn ei gwaith.

“Mae’r cwrs wedi fy helpu i ddatblygu mwy o hyder yn fy ngallu i wneud penderfyniadau, cymryd arweiniad ar brosiectau a chyfrannu’n weithredol at waith y tîm. Rwy’n teimlo’n fwy hyderus yn fy rôl ac yn fwy parod i gamu ymlaen at gyfleoedd newydd.”

Mae’r cwrs hefyd wedi cryfhau ei sgiliau myfyrio ac adfyfyrio, gan ei galluogi i wella ei hymarfer o ddydd i ddydd.

Canmolodd y gefnogaeth a gafodd gan dîm Fframwaith Arfer Proffesiynol y Brifysgol.
“Roedd gweithio gyda’r tîm yn brofiad cadarnhaol iawn. Roeddent yn gefnogol ac yn broffesiynol, gan egluro’r camau yn glir a darparu adborth adeiladol.”

Dywedodd Sarah Loxdale, Uwch Ddarlithydd Fframwaith Arfer Proffesiynol o’r Brifysgol:

“Mae ymchwil Sioned yn dangos yn glir sut y gall astudiaethau ôl-raddedig gael effaith uniongyrchol ar y gweithle. Trwy archwilio ffyrdd o gryfhau’r gweithlu Cymraeg, mae hi wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr sy’n berthnasol iawn i anghenion sefydliadau cyhoeddus heddiw.”

Ychwanegodd Lowri Harris, Rheolwr Rhaglen ac Uwch Ddarlithydd y Fframwaith Arfer Proffesiynol yn PCYDDS:

“Mae gwaith Sioned yn enghraifft wych o sut mae’r MA Arfer Proffesiynol yn galluogi myfyrwyr i gyfuno eu profiad gwaith gyda dysgu academaidd i greu newid ystyrlon. Rydym yn falch iawn o’i llwyddiant a’r ffordd y mae ei hymchwil yn cefnogi datblygiad y gweithlu Cymraeg.”

Byddai Sioned yn annog eraill i ystyried hawlio am ddysgu drwy brofiad fel rhan o’u datblygiad proffesiynol. 

“Mae’n ffordd effeithiol o gydnabod a gwerthfawrogi profiad gwaith a’i drosi’n gymhwyster ffurfiol gydnabyddedig.” 

Sioned Raymond in work

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon