Skip page header and navigation

Mae’r artist weledol a’r darlithydd Holly Slingsby wedi derbyn gwobr o fri gan Ymddiriedolaeth Bryan Robertson, sy’n cydnabod ei chyfraniad sylweddol i ymarfer ac ymchwil ym maes y celfyddydau gweledol cyfoes.

A lecturer standing against a poster on a wall with a colourful background.

Sefydlwyd y wobr ar gyfarwyddyd y diweddar Bryan Robertson, cyfarwyddwr Oriel Whitechapel 1962–69, darlledwr, beirniad, curadur a hyrwyddwr y celfyddydau gweledol a dawns gyfoes, a’i nod yw cefnogi artistiaid sy’n cyflawni gwaith newydd uchelgeisiol.

Ar y panel dethol roedd yr Ymddiriedolwyr Stephen Chambers RA ac Alison Wilding OBE RA, ochr yn ochr ag aelodau’r panel ymgynghorol Simon Groom, Ed Hubbard, Tim Marlow OBE, yr Athro Roderick Mengham ac Ashley Page OBE.

Wrth sôn am y wobr, meddai Holly: “Gyda chymorth y wobr rwy’n bwriadu cychwyn ar gorff newydd o ymchwil a gwaith celf yn seiliedig ar Fadonnas Cysegrfeydd yr Oesoedd Canol. Mae’r rhain yn fath prin o wrthrych defosiynol sy’n cynnwys ffigwr cerfiedig bach y gellir ei agor i ddatgelu golygfeydd wedi’u paentio neu wedi’u cerfio ynghudd yn ei chorff. Rwy’n gyffrous oherwydd y potensial o wneud fersiynau maint bywyd o’r rhain fel gwisgoedd ar gyfer perfformio a / neu fannau taflunio hylaw ar gyfer ffilmiau fideo.”

Artist gweledol yw Holly sy’n gweithio ar draws perfformio, fideo a phaentio. Mae ei hymarfer yn archwilio systemau cred, portreadau o fenywod, a thraddodiadau eiconograffig, gan dynnu ar ddelweddau Beiblaidd, mytholeg a diwylliant cyfoes.

Astudiodd yn Ysgol Gelf Rusi ac Ysgol Celf Gain Sled, ac mae wedi arddangos, sgrinio a pherfformio gwaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol mewn lleoliadau gan gynnwys Tate St Ives, Turner Contemporary, ICA, Canolfan y Barbican, Matt’s Gallery, a Modern Art Oxford.

Ar hyn o bryd mae Holly yn Ddarlithydd mewn Celfyddyd Gain yng Ngholeg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac mae hefyd yn aelod gweithgar o SCAR (Coleg Ymchwil Celf Abertawe), gan gyflwyno gwaith drwy gynadleddau ac arddangosfeydd. Mae ei gwaith wedi derbyn cymorth yn flaenorol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Celfyddydau Lloegr, ochr yn ochr â sawl gwobr gan a-n The Artists Information Company.

Yn 2023, hi oedd cyd-enillydd Cystadleuaeth Agored Celfyddyd Gyfoes Caerwysg.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon