Gŵyl Cyfryngau Rhyngwladol Cymru yn dychwelyd i’r Egin yn PCYDDS
Mae Gŵyl Cyfryngau Rhyngwladol Cymru (IMFW) yn dychwelyd i Ganolfan S4C Yr Egin ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCCYDS) ym mis Tachwedd, ac yn dwyn ynghyd gwneuthurwyr ffilm, darlledwyr, pobl greadigol a gweithwyr proffesiynol ym maes cyfryngau digidol o bob cwr o Gymru a’r tu hwnt.
Cynhelir yr ŵyl ddydd Gwener 27 Tachwedd 2026, o 10am i 5pm, gyda rhaglen o ddangosiadau ffilm, profiadau trochi a chyfleoedd i archwilio datblygiadau newydd ar y sgrin, ym meysydd sain a’r cyfryngau digidol.
Mae IMFW sydd bellach yn ei phumed flwyddyn yn darparu cyfle i bobl sy’n gweithio ar draws y diwydiannau creadigol gwrdd, rhannu syniadau ac edrych ar y cyfleoedd sy’n dod i’r amlwg o dechnoleg newydd a dulliau sy’n newid o adrodd straeon.
Yn ogystal, mae’r ŵyl yn darparu cyfle pwysig i fyfyrwyr PCYDDS gael profiad o weithio ochr yn ochr â’r diwydiant cyfryngau.
Mae myfyrwyr o gwrs BA Cynhyrchu Cyfryngau Digidol wedi bod yn creu cynnwys ar gyfer yr ŵyl, gan roi’r cyfle iddynt roi eu sgiliau ar waith ar brosiect byw a chael profiad gwerthfawr y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
Meddai Cyfarwyddwr yr Ŵyl ac Uwch Ddarlithydd PCYDDS Dr Brett Aggersberg:
Mae’r Egin yn lle gwych i gynnal gŵyl fel hon gan ei fod yn dwyn ynghyd addysg, diwydiant a’r gymuned greadigol.
“Rwy’n arbennig o falch bod ein myfyrwyr yn gallu bod yn rhan o’r ŵyl a chael y profiad ymarferol o weithio ar ddigwyddiad proffesiynol. Mae’n rhoi’r cyfle iddyn nhw gwrdd â phobl o’r diwydiant, adeiladu eu profiadau, a gweld lle gall y sgiliau maen nhw’n eu datblygu yn PCYDDS fynd â nhw.
Mae wedi bod yn gyfle gwych i arddangos y gwaith sy’n cael ei wneud yma yng Nghaerfyrddin a dod â phobl o ddiwydiant y cyfryngau ehangach i’r rhanbarth.”
Mae IMFW yn rhan o Ŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin, sy’n gymwys ar gyfer BAFTA ac yn gweithio gyda’r prif bartneriaid yn niwydiant ffilm Cymru. Cynhelir Gŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin yn Llanelli bob mis Mai.
Mae Canolfan S4C yr Egin sydd wedi’i lleoli ar gampws Caerfyrddin, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gweithredu fel hwb blaenllaw ar gyfer y diwydiannau creadigol a digidol, gan gynnig theatr o’r radd flaenaf, cyfleusterau cyfarfodydd ar gyfer rhwydweithio a darllediadau byw yn ystod y dydd.
Mae’r ŵyl yn rhad ac am ddim i’w mynychu ac mae ar agor i weithwyr proffesiynol, myfyrwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn ffilm, teledu, sain a’r cyfryngau digidol. Ewch i wefan swyddogol yr ŵyl i weld y rhaglen lawn.
Cyswllt â’r Cyfryngau: e-bost: info@infw.wales
Gwefan: www. Internationalmediafestivalofwales.com/
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476