Skip page header and navigation

Mae Gwill King yn graddio heddi o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gyda BA mewn Dylunio Graffeg.

Gwill King - BA Graphic Design

Mae Gwill, o Ddyfnaint, nid yn unig wedi bod yn fyfyriwr rhagorol, yn ôl cyfarwyddwr y rhaglen, Donna Williams, mae hefyd yn un o nifer o fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant i elwa o gronfa Interniaeth INSPIRE y Brifysgol, sydd wedi ei gefnogi i ymgymryd â lleoliad â thâl gyda chwmni lleol.

Yn ystod ei gyfnod gyda’r Cor Watersports Ltd ym Mhenrhyn Gŵyr, roedd Gwill yn gyfrifol am ddylunio graffeg, creu cynnwys cyfryngau cymdeithasol, datblygu rhyngwyneb gwe y cwmni a gwella profiad defnyddiwr ar ei lwyfannau digidol. Cefnogodd y cwmni drwy’r interniaeth rhwng Chwefror a Mai ac mae bellach yn gweithio yno’n llawn amser am y misoedd nesaf gyda’r gobaith o ymestyn ei gytundeb. 

Dywed Gwill am ei brofiad: “Roedd Interniaeth INSPIRE yn ffordd anhygoel o gael mynediad at amgylchedd gweithle o fewn diwydiant ac yr oedd fy nghwrs wedi fy helpu i gyrraedd y safon honno o waith. Roedd fy narlithwyr yn gefnogol iawn gyda mi pan oedd ar fy interniaeth ac roeddent wrth law i ateb unrhyw gwestiynau neu dasgau a osodwyd i mi a oedd yn dal i fod angen ychydig o gefnogaeth. Rwyf bellach yn ôl yn Cor Watersports ond nawr fel eu Dylunydd Graffeg na allai fod wedi bod yn bosibl heb y cyfle a’r cyllid Interniaeth INSPIRE”.

Yn ôl Matt Baker Smith, o Cor Watersports, creodd talent greadigol Gwill a gwybodaeth am becynnau meddalwedd priodol gapasiti o fewn y tîm a daeth â safbwyntiau ac ysbrydoliaeth newydd i’r cwmni.  Mae’n dweud bod yr Interniaeth yn “ffordd wych o drochi ein traed i helpu i gynnig cyflogaeth, a hefyd hyfforddi a siapio unigolyn gyda’i gryfderau allweddol eu hunain”.

Esboniodd Matt: “Yn Cor Watersports, credwn fod gan fusnesau gyfrifoldeb i helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o dalent. Cyrhaeddodd Gwill gyda sylfaen greadigol gref, ond roedd ei frwdfrydedd, ei barodrwydd i ddysgu a’i ymrwymiad i wella bob dydd yn sefyll allan mewn gwirionedd. Mae ei wylio yn tyfu mewn hyder ac yn dod yn aelod pwysig o’n tîm wedi bod yn hynod werthfawr.

“Nid oedd yr interniaeth yn ymwneud â llenwi rôl yn unig - roedd yn ymwneud â buddsoddi mewn person. Yn gyfnewid, mae Gwill wedi dod â syniadau ffres, sgiliau newydd a phersbectif gwahanol sydd wedi helpu i symud ein busnes ymlaen. Byddwn yn annog busnesau lleol eraill i ystyried cymryd interniaid. Mae’n rhoi cyfle gwirioneddol i bobl ifanc ddechrau eu gyrfaoedd tra’n caniatáu i gyflogwyr ddarganfod unigolion talentog sy’n gallu gwneud cyfraniad parhaol.”

Meddai Donna Williams Rheolwr Rhaglen BA (Anrh) Dylunio Graffeg “Ymunodd Gwill King â’r cwmni drwy interniaeth yn y brifysgol, cyfle a brofodd yn amhrisiadwy wrth ddatblygu ei sgiliau a’i brofiad proffesiynol. Rydym wrth ein bodd bod yr interniaeth bellach wedi arwain at gyflogaeth amser llawn, gan ganiatáu i Gwill ddechrau ei yrfa yn Abertawe.

“Mae Gwill wedi bod yn fyfyriwr rhagorol a gofleidiodd bob cyfle a gynigiwyd yn ystod ei amser yn y Drindod Dewi Sant. Er y byddwn yn drist o’i weld yn gadael, rydym wrth ein bodd ei fod wedi sicrhau cyflogaeth trwy raglen interniaeth y Brifysgol ac yn dymuno pob llwyddiant iddo yn y dyfodol.”

Meddai Amanda Hayden, Rheolwr Prosiectau Arloesi ac Ymgysylltu yn y Drindod Dewi Sant: “Un o’n blaenoriaethau allweddol yw cefnogi cyflogadwyedd myfyrwyr a darparu profiad ystyrlon yn y diwydiant sy’n helpu myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau, yr hyder a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae cefnogaeth cyflogwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth wneud hyn yn bosibl ac rydym yn ddiolchgar iawn i Cor Watersports Ltd am weithio gyda ni.  Rwy’n falch iawn bod Gwill wedi profi’r fath ased i’r cwmni ac rwy’n dymuno’r gorau iddo ar gyfer y dyfodol.”


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 01267 676790

Rhannwch yr eitem newyddion hon