Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi cryfhau ei hymrwymiad i addysg gyfreithiol sy’n ffocysu ar arfer wrth lansio LLM newydd yn y Gyfraith ac Arfer Cyfreithiol gyda SQE 1 a 2, a gyflwynir mewn cydweithrediad â BARBRI, arweinydd byd eang mewn addysg gyfreithiol.  

UWTSD Law student
Alinio astudiaeth academaidd â’r proffesiwn cyfreithiol

Mae’r rhaglen a leolir yn Ysgol y Gyfraith Abertawe, yn integreiddio paratoi ar gyfer yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yn uniongyrchol i radd ôl-raddedig, sy’n gam arwyddocaol wrth alinio astudiaethau academaidd â gofynion esblygol y proffesiwn cyfreithiol. 

Mae’r LLM newydd, sydd ar gael i fyfyrwyr o fis Hydref 2026, yn ymgorffori cyrsiau paratoi SQE1 a SQE2 BARBRI o fewn rhaglen amser-llawn o 1 flwyddyn neu raglen 2 flynedd ran amser.  Mae’r model integredig hwn yn cynnig llwybr symlach i fyfyrwyr gymhwyso fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr, gan gyfuno paratoi ar gyfer arholiadau dwys gyda modylau astudio sydd wedi’u ffocysu ar arfer o Ysgol y Gyfraith.   Yn ogystal, mae’n cynnig y cyfle i fyfyrwyr gael mynediad at gyllid myfyrwyr ôl-raddedig ar gyfer paratoi ar gyfer eu cymwysterau SQE. 

Graddedigion wedi’u paratoi’n well

Yn ei hanfod, mae’r rhaglen yn adlewyrchu newid ehangach ar draws addysg gyfreithiol y DU, lle mae prifysgolion yn cydweithio fwyfwy â darparwyr hyfforddiant arbenigol er mwyn sicrhau bod graddedigion wedi’u paratoi’n well ar gyfer arfer proffesiynol.

Yn bennaf, bydd myfyrwyr yn cael eu haddysgu gan y tîm arbenigol yn Ysgol y Gyfraith Abertawe, gyda modylau ar Arfer Cyfreithiol cyfoes, Methodoleg Ymchwil, a naill ai traethawd hir neu brosiect arfer cyfreithiol mewn maes arbenigol o’r gyfraith.  

Mae BARBRI, sydd â degawdau o brofiad a mwy na 1.45 miliwn o ddysgwyr ar draws y byd, yn cyfrannu ei blatfform dysgu a gyfoethogir gan dechnoleg, sy’n cynnwys cynlluniau astudio addasol, gweithdai byw, olrhain perfformiad, a hyfforddiant sy’n ffocysu ar arholiadau.  

Mae’r dull deuol hwn wedi’i gynllunio i fynd i’r afael â her hirsefydlog mewn addysg gyfreithiol: pontio’r bwlch rhwng gwybodaeth ddamcaniaethol a pharodrwydd proffesiynol. Trwy ymgorffori paratoi ar gyfer SQE yn uniongyrchol i  LLM, nod PCYDDS a BARBRI yw dileu dyblygu mewn llwybrau astudio a lleihau’r amser, y gost a’r cymhlethdod sy’n gysylltiedig yn draddodiadol â chymhwyso fel cyfreithiwr. 

Yn ogystal, mae’r opsiwn rhan amser yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ymgymryd â Phrofiad Gwaith Cymwys wrth astudio gan greu effeithlonrwydd ychwanegol ar ran amser a chyllid y rhaglen.  

Meddai Christopher Howard, Cyfarwyddwr Partneriaethau Prifysgol yn BARBRI am y rhaglen: “Mae wedi bod yn bleser cefnogi’r gwaith o ddatblygu’r rhaglen hon, gan gyfuno addysg gyfreithiol ymarferol arbenigol o Ysgol y Gyfraith Abertawe a thechnoleg ddysgu arloesol gan BARBRI SQE Prep i baratoi addysg gynhwysfawr ar gyfer gyfreithwyr llawn dyhead mewn lleoliad prifysgol ragorol.” 

I PCYDDS, mae’r bartneriaeth yn cyd-fynd â gweledigaeth Ysgol y Gyfraith Abertawe i ddarparu rhaglenni proffesiynol perthnasol sydd wedi’u llywio gan ymgysylltiad â’r diwydiant.  Nododd Dr Bronwen Williams, Cyfarwyddwr Academaidd Ysgol y Gyfraith mewn cyhoeddiad diweddar:  “Mae Ysgol y Gyfraith Abertawe yn falch iawn o weithio gyda BARBRI SQE Prep i allu Cyflwyno’r LLM yn y Gyfraith ac Arfer Cyfreithiol (gyda pharatoadau ar gyfer SQE 1 a 2) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.”

Yn ogystal, mae’r cydweithrediad yn adeiladu ar strategaeth ehangach PCYDDS o integreiddio cyflogadwyedd i’w dyluniad cwricwlwm.  Mae Ysgol y Gyfraith Abertawe wedi lleoli ei hun yn hwb ar gyfer addysg gyfreithiol sy’n ffocysu ar arfer, gan ymgorffori mewnbwn cyflogwyr a chyfleoedd dysgu yn y byd go iawn ar draws ei rhaglenni.  Mae cynnwys offer paratoi SGE BARBRI yn atgyfnerthu’r dull hwn ymhellach, gan roi i fyfyrwyr y sylfaen academaidd a’r cymwyseddau ymarferol sy’n ofynnol gan gyflogwyr cyfreithiol modern. 

O safbwynt myfyriwr, mae’r buddion yn glir.  Yn hytrach nag astudio ar gyfer LLM ac yna dilyn cyrsiau paratoi SQE ar wahân, gall myfyrwyr gwblhau’r ddwy elfen ar yr un pryd o fewn un rhaglen.  Mae’r llwybr integredig hwn yn gwneud y daith i gymhwyso’n fwy effeithlon, yn fwy hygyrch ac mae’n cyd-fynd â disgwyliadau fframwaith SQE yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr. 

Yn yr un modd, mae platfform dysgu BARBRI yn cyflwyno lefel o bersonoli a hyblygrwydd sy’n cael ei gwerthfawrogi’n fwyfwy mewn addysg ôl-raddedig.  Mae nodweddion fel cynlluniau astudio addasol a dangosfyrddau perfformiad yn galluogi myfyrwyr i olrhain eu cynnydd mewn amser real, tra bod mynediad at hyfforddwyr dysgu a chefnogaeth strategaeth arholiadau’n helpu i sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n llawn ar gyfer gofynion asesiadau SQE.   

Yn ogystal, mae lansio’r LLM yn PCYDDS yn adlewyrchu tueddiadau ehangach yn y sector cyfreithiol, lle mae cyflwyno’r SQE wedi ysgogi arloesedd sylweddol yn y ffordd y mae prifysgolion a darparwyr hyfforddiant yn cydweithio. Trwy integreiddio paratoadau ar gyfer arholiadau gydag astudiaethau academaidd, mae rhaglenni fel hyn yn anelu at gynhyrchu graddedigion sydd nid yn unig yn wybodus, ond yn gallu gweithredu’n syth mewn amgylcheddau proffesiynol. 

Wrth edrych tua’r dyfodol, bydd llwyddiant y rhaglen yn debygol o ddibynnu ar ei gallu i gyflawni canlyniadau cryf mewn cyflawniad academaidd a pherfformiad SQE.  Fodd bynnag, mae’r sylfeini yn ymddangos yn gadarn: prifysgol sefydledig, darparwr hyfforddiant a gydnabyddir yn fyd-eang, a chwricwlwm sydd wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion esblygol y proffesiwn. 

Mae’r LLM newydd yn cynrychioli opsiwn deniadol i fyfyrwyr mewn marchnad gystadleuol.  Mae’n cynnig y cyfle i ennill cymhwyster meistr ar yr un pryd â pharatoi ar gyfer yr asesiadau allweddol sy’n ofynnol i gymhwyso fel cyfreithiwr.  Yn y cyfamser, i PCYDDS a BARBRI, mae’n enghraifft glir o sut y gall cydweithredu yrru arloesedd mewn addysg gyfreithiol a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol cyfreithiol. 


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 01267 676790

Rhannwch yr eitem newyddion hon