Lleisiau Dysgwyr yn Helpu i Lunio Trafodaeth Sgiliau’r Dyfodol yn PCYDDS
Roedd myfyrwyr a graddedigion yn ganolog i ford gron sgiliau a gynhaliwyd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), ar gampws Glannau Abertawe, a ddaeth ag arweinwyr Llywodraeth Cymru, addysg a diwydiant at ei gilydd i drafod y sgiliau sydd eu hangen ar Gymru ar gyfer y dyfodol.
Croesawyd Cefin Campbell AS, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, i’r cyfarfod ochr yn ochr â chyflogwyr, addysgwyr a phartneriaid sgiliau i archwilio sut y gall cydweithio gefnogi twf economaidd, arloesi, a’r trawsnewid i sero net.
Dan gadeiryddiaeth Sharron Lusher, Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg Bellach) PCYDDS, canolbwyntiodd y drafodaeth ar bwysigrwydd creu llwybrau hyblyg i yrfaoedd medrus, cryfhau cysylltiadau rhwng addysg a diwydiant, a sicrhau bod dysgwyr yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer economi sy’n newid. Tynnodd cyfranogwyr sylw at bwysigrwydd ymgorffori datblygiad sgiliau drwy gydol addysg a hyfforddiant, gan sicrhau bod dysgwyr yn parhau i fod yn ganolog i’r gwaith o gynllunio’r gweithlu yn y dyfodol.
Gwnaeth Tamzin Brewer, cyn-fyfyriwr a Pheiriannydd CNC ac Arddangoswr Technegol siarad am sut y gwnaeth cystadlaethau sgiliau ei helpu i fagu hyder a llunio ei gyrfa. Bellach, mae hi’n helpu i hyfforddi a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymgeiswyr.
Meddai: “Yr unig rwystr yw ni ein hunain. Rhoddodd cystadlaethau sgiliau yr hyder i mi wthio fy hun, datblygu sgiliau newydd ac agor drysau nad oeddwn erioed wedi meddwl y byddai’n bosibl eu hagor. O gyfrifiadura i WorldSkills, i ennill medal aur, mae pob cyfle wedi fy helpu i dyfu. Nawr, rwy’n falch o fod yn cefnogi eraill ar eu teithiau hwythau.”
Amlygodd Joseph Tobin, a raddiodd o’r Radd-brentisiaeth BEng Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg ac sy’n Arbenigwr Cynhyrchu ar safle Llanwern Tata Steel, bwysigrwydd prentisiaethau a dysgu gydol oes.
Meddai: “Mae’r cyfleoedd rydw i wedi’u cael trwy addysg a phrentisiaethau wedi fy helpu i symud fy ngyrfa yn ei blaen a chyflawni gradd dosbarth cyntaf. Prentisiaid yw asgwrn cefn diwydiant ac mae buddsoddi yn eu sgiliau yn hanfodol i’n dyfodol.”
Clywodd y ford gron hefyd gan Tim James, a raddiodd yn ddiweddar mewn Peirianneg Modurol yn PCYDDS ac sy’n arwain prosiect Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth Prifysgol gyda’r gwneuthurwr pecynnu Coppice, gyda’r nod o wella effeithlonrwydd, lleihau gwastraff a chryfhau ysbryd cystadlu.
Meddai: “Mae’r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth hon yn rhoi cyfle i mi roi’r hyn rydw i wedi’i ddysgu ar waith, ond hefyd i barhau i ddysgu bob dydd gan Coppice a PCYDDS. Mae’n teimlo fel pont berffaith rhwng bod yn y brifysgol a dechrau fy ngyrfa.
Myfyriodd Oscar McNaughton, Peiriannydd Dylunio Arweiniol a chyn radd-brentis yn CBM Cymru PCYDDS, ar fod y person cyntaf i gynrychioli’r DU ym maes Gweithgynhyrchu Haen-ar-Haen yn WorldSkills.
Meddai: “Drwy ddechrau yn y brifysgol fel prentis cefais gyfle i ddatblygu sgiliau arbenigol wrth weithio ar brosiectau go iawn o’r diwrnod cyntaf un. Roedd cystadlu yn WorldSkills yn brofiad anhygoel ac mae’r gefnogaeth a gefais wedi helpu i lunio fy ngyrfa. Rwyf hefyd bellach yn falch o fod yn helpu’r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr.”
Tynnodd y bwrdd crwn sylw hefyd at brosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru Llywodraeth Cymru, sy’n dathlu cyflawniadau dysgwyr, prentisiaid a phobl ifanc sy’n datblygu sgiliau o’r radd flaenaf trwy gystadlaethau a dysgu galwedigaethol. Trwy straeon a modelau rôl dysgwyr, nod y prosiect yw codi dyheadau, arddangos gwerth sgiliau technegol a phroffesiynol, ac ysbrydoli mwy o bobl i archwilio’r cyfleoedd sydd ar gael drwy sgiliau, prentisiaethau a dysgu gydol oes.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell: “Roedd yn ysbrydoledig clywed yn uniongyrchol gan ddysgwyr a graddedigion y mae eu teithiau sgiliau wedi’u llunio gan brentisiaethau, addysg uwch a chystadlaethau sgiliau. Mae eu profiadau yn dangos pwysigrwydd creu llwybrau hyblyg o ansawdd uchel sy’n helpu pobl i ddatblygu eu doniau a chyflawni eu huchelgeisiau.
Trwy fentrau fel Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, rydym yn arddangos cyflawniadau dysgwyr ac yn helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ddilyn y sgiliau a fydd yn cefnogi eu gyrfaoedd ac yn cyfrannu at ffyniant Cymru yn y dyfodol. Wrth i ni edrych ymlaen, mae’n hanfodol bod dysgwyr yn parhau i fod wrth wraidd ein trafodaethau am y sgiliau, y cyfleoedd a’r gweithlu y bydd eu hangen ar Gymru yn y blynyddoedd i ddod.”
Mae’r digwyddiad hefyd yn amlygu partneriaeth ddatblygol PCYDDS gyda WorldSkills UK. Ers cynnal Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK yn 2025 yn llwyddiannus, fe fydd y Brifysgol unwaith eto yn cynnal cystadlaethau ar gampws Glannau Abertawe yn 2026, gan atgyfnerthu ei rôl wrth gefnogi rhagoriaeth dechnegol a datblygiad sgiliau galwedigaethol.
Meddai Sharron Lusher: “Dangosodd y ford gron werth dod â dysgwyr, cyflogwyr, darparwyr addysg a llunwyr polisi at ei gilydd i drafod dyfodol sgiliau yng Nghymru. Y lleisiau pwysicaf yn y sgyrsiau hyn yw lleisiau ein dysgwyr a’n prentisiaid, gan mai nhw fydd gweithlu’r dyfodol yn gyrru arloesi a thwf economaidd.
“Yn PCYDDS, rydym wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda’n partneriaid AB, diwydiant a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein darpariaeth yn adlewyrchu anghenion cyflogwyr wrth greu cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i lwyddo.
“Mae ein partneriaeth â WorldSkills UK a’n harlwy prentisiaethau cryf yn enghreifftiau allweddol o sut rydym yn helpu i ddatblygu talent, codi dyheadau a chefnogi’r sgiliau sydd eu hangen ar Gymru nawr ac yn y dyfodol.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071