Skip page header and navigation

Mae cyfres o leoliadau pythefnos sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc yng Ngheredigion ddarganfod yr ystod o rolau proffesiynol a masnachol sy’n gysylltiedig â’r diwydiant adeiladu wedi cael ei lansio yr wythnos hon.

UWTSD Architecture Students undertaking practical workshop

Mae Codi Dyfodol Adeiladu yn  cael ei arwain gan dîm Canolfan Arloesi Adeiladu Cymru (CWIC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant mewn partneriaeth â  thîm prentisiaethau Cyfle Building Skills.

Mae’r prosiect, sy’n rhan o  fenter Cymru Wledig LPIP[rh1]  Rural Wales (Partneriaeth Polisi Lleol ac Arloesi ar gyfer Cymru Wledig) a gefnogir gan Gyngor Sir Ceredigion, wedi’i ddatblygu i dynnu sylw at y gyrfaoedd eang a gwerth chweil sydd gan yr amgylchedd adeiledig i’w cynnig -  nid yn unig y llwybrau crefft ond hefyd rolau cysylltiedig, technegol a phroffesiynol sy’n aml yn cael eu hanwybyddu gan ddarpar ddysgwyr. Mae’r rolau hyn yn cynnwys technoleg bensaernïol, rheoli adeiladu ac arolygu meintiau, yn ogystal â’r proffesiynau crefft mwy cyfarwydd fel gwaith coed, gosod brics, plymio a phlastro. 

Nod y prosiect peilot hwn, sy’n gysylltiedig â datblygu sgiliau galwedigaethol yng Ngheredigion, yw creu cynnig profiad gwaith sy’n gynhwysol i ddysgwyr nad ydynt efallai wedi ystyried adeiladu a’r amgylchedd adeiledig fel opsiwn gyrfa, yn ogystal â gwneud llwybrau a meysydd dilyniant yn glir rhwng ysgolion, addysg bellach ac uwch a’r gweithle. Bydd yn tynnu sylw at berthnasedd y sector adeiladu i ystod eang o fyfyrwyr, gan gynnwys y rhai sy’n astudio celf, dylunio a chyrsiau sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd.  

Dywedodd Gareth Evans, Pennaeth CWIC: “Mae CWIC mewn sefyllfa dda i arwain ar ddatblygiad y prosiect Codi Dyfodol Adeiladu mewn partneriaeth â Cyfle Building Skills a chyflogwyr yng Ngheredigion.  Mae’n rhan o ymateb Cymru Wledig LPIP Rural Wales i’r angen i arallgyfeirio’r gweithlu yn y diwydiannau adeiladu a’r amgylchedd adeiledig a’i nod yw mynd i’r afael â’r diffyg dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth sy’n bodoli am y rolau niferus ac amrywiol o fewn y diwydiannau hyn yn ogystal â ymateb i’r prinder sgiliau yn ein cymunedau gwledig.

“Ledled Cymru, mae llawer o ddysgwyr yn cymryd yn ganiataol eu bod yn gwybod beth mae gyrfaoedd ym maes adeiladu yn ei olygu ac yn aml gall hyn fod yn bersbectif cul ar gyfleoedd yn y diwydiant.  Dyna pam rydym yn cynnig lleoliadau gwaith i bobl rhwng 16-24 oed sy’n byw yng Ngheredigion ac sy’n awyddus i brofi sut  beth fyddai gweithio yn y sector adeiladu a, gobeithio, y bydd yn agor drysau i yrfaoedd hirdymor, cynaliadwy yn y rhanbarth.”

Mae’r ffordd y mae’r prosiect wedi’i sefydlu yn ei gwneud hi’n hawdd i gyflogwyr yn yr ardal gymryd rhan yn y lleoliadau gwaith.  Ar hyn o bryd mae’r tîm yn gweithio gydag amrywiaeth o gyflogwyr a fydd yn darparu  cyfleoedd i gyfranogwyr weithio ar safle adeiladu a dysgu beth mae saer, briciwr neu drydanwr yn ei wneud neu gysgodi technolegydd pensaernïol neu reolwr adeiladu yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

Dywedodd Anthony Rees, Rheolwr Rhanbarthol Cyfle Building Skills Ltd: “Rydym yn hapus iawn i gefnogi pobl ifanc gyda chyfleoedd profiad gwaith ymarferol yng Ngheredigion a chreu gyrfaoedd newydd i’r genhedlaeth nesaf.”

Mae Codi Dyfodol Adeiladu yn ganlyniad gweithdai a gynhaliwyd gan Cymru Wledig LPIP Rural Wales fel rhan o’i labordai arloesi a dynnodd sylw at yr heriau o ysbrydoli a recriwtio gweithlu amrywiol i adeiladu. Nododd cyfranogwyr yn y gweithdai hynny wahaniaethau rhanbarthol a diffyg dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ymhlith aelodau posibl y sector o’r is-sectorau amrywiol sy’n bodoli o fewn ac sy’n gysylltiedig ag adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.

Dywedodd Siobhan Maderson, Rheolwr Arloesi Cymru Wledig LPIP Rural Wales: “Mae’r prosiect hwn wedi cael ei gefnogi’n frwdfrydig gan Gyngor Sir Ceredigion, ac mae ganddo’r potensial i fod yn enghraifft dda o gynllun sy’n cyd-fynd â pholisi o sut i wella a darparu cyfleoedd hyfforddi integredig o ansawdd i ddysgwyr a newydd-ddyfodiaid i’r sector. Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, byddwn yn recriwtio ymgeiswyr ar gyfer y profiad gwaith o ystod eang o gefndiroedd academaidd ac addysgol a phroffesiynol, er mwyn sicrhau cymaint o amrywiaeth â phosibl o fewn y garfan”.


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 01267 676790

Rhannwch yr eitem newyddion hon