Skip page header and navigation

Mae Llinos Davies wedi trawsnewid ei phrofiadau ei hun yn berson ifanc yng Nghlwb Ieuenctid Tysul yn yrfa sy’n anelu at gefnogi’r genhedlaeth nesaf, ar ôl cwblhau ei gradd Gwaith Ieuenctid ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn llwyddiannus.

Image of Llinos Davies in her cap and gown

I Llinos, mae Gwaith Ieuenctid wedi bod yn gyson trwy gydol ei hoes. Ar ôl mynychu Clwb Ieuenctid Tysul yn berson ifanc, cafodd ei chefnogi gan Weithwyr Ieuenctid a chwaraeodd ran bwysig yn ei helpu i lywio gwahanol gyfnodau o’i bywyd. Meddai Llinos: 

“Mae gweld yr effeithiau cadarnhaol a gawson nhw arna i wedi fy ysbrydoli i roi rhywbeth yn ôl a chefnogi’r to nesaf o bobl ifanc yn yr un modd.”

Heddiw, yr un unigolion hynny yw rhai o’i rheolwyr, ac mae Llinos wedi treulio’r pum mlynedd ddiwethaf yn gweithio hithau yn y clwb ieuenctid.

Cadarnhaodd ei phrofiad yn Tysul mai Gwaith Ieuenctid oedd yr yrfa yr oedd hi am ei dilyn a daeth hynny â hi i PCYDDS, lle gallai adeiladu ar ei phrofiad proffesiynol wrth ddatblygu ei gwybodaeth a’i sgiliau academaidd. Meddai:

“Roeddwn i am ddyfnhau fy nealltwriaeth o Waith Ieuenctid a chael gwell canfyddiad o brofiadau ac anghenion pobl ifanc. Roedd gen i brofiad ymarferol eisoes, ond roeddwn i am ddatblygu hwnnw ymhellach trwy ddeall y wybodaeth a’r theori y tu ôl iddo.

“Fy uchelgais oedd dod yn Weithiwr Ieuenctid mwy gwybodus ac effeithiol a allai wneud gwahaniaeth go iawn ym mywydau pobl ifanc. Roeddwn i am ennill y sgiliau a’r hyder i gefnogi pobl ifanc sy’n wynebu ystod o heriau wrth ennill cymhwyster a fyddai’n agor drysau i gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol.”

Un o gryfderau allweddol y radd oedd ei chyfuniad o astudio academaidd a phrofiad ymarferol. Yn ystod ei hastudiaethau, cwblhaodd Llinos leoliadau yn Llandysul Paddlers a Darpariaeth Addysg Amgen Cwrt Newydd, gan ennill profiad o weithio gyda phobl ifanc sy’n dilyn llwybrau addysg amgen ac y mae arnyn nhw angen cymorth ychwanegol. Ychwanegodd:

“Roedd gallu defnyddio beth roeddwn i wedi’i ddysgu mewn darlithoedd mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn yn fuddiol dros ben ac fe gryfhaodd fy hyder yn ymarferydd.”

Cymerodd Llinos ran hefyd mewn taith astudio wedi’i ariannu’n llawn i’r Ffindir, gan roi cyfle iddi archwilio dulliau Gwaith Ieuenctid mewn cyd-destun rhyngwladol. Rhoddodd profi sut mae gwasanaethau Gwaith Ieuenctid yn gweithredu mewn gwlad arall safbwyntiau a syniadau newydd iddi y gall hi fynd â nhw ymlaen i’w hymarfer proffesiynol.

Ochr yn ochr â’i lleoliadau, gweithiodd Llinos gyda Gweithwyr Ieuenctid profiadol a gweithwyr proffesiynol eraill, gan ddatblygu ei dealltwriaeth o ymarfer seiliedig ar berthynas, cymorth ymddygiad, addysg anffurfiol ac ymarfer adfyfyriol.

Roedd ei thraethawd hir blwyddyn olaf yn caniatáu iddi archwilio maes arall o bwysigrwydd cynyddol yn y proffesiwn: llesiant digidol pobl ifanc. Archwiliodd ei hymchwil rôl Gweithwyr Ieuenctid wrth gefnogi pobl ifanc gydag effaith y cyfryngau cymdeithasol a’i pherthynas ag iechyd meddwl.

Mae’r pwnc hefyd wedi dylanwadu ar ei huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol, a Llinos yn awyddus i ddatblygu gyrfa sy’n canolbwyntio ar gymorth ymddygiadol, iechyd meddwl a llesiant.

Roedd cydbwyso’r brifysgol ag ymrwymiadau swydd a theulu yn creu heriau, ond canfu Llinos fod cynllunio’n ofalus, rhannu aseiniadau yn dasgau haws i’w rheoli a defnyddio’r cymorth oedd ar gael drwy PCYDDS wedi ei helpu i gadw eu ffocws.

Roedd hi’n gwerthfawrogi’n arbennig y cymorth a ddarparwyd gan ei darlithwyr a’r cymorth un-i-un trwy gydol y radd.

“Roedd hi’n hawdd mynd at y darlithwyr. Roedden nhw’n galonogol ac yn ymddiddori yn ein helpu ni i lwyddo. Roedd y cymorth un-i-un oedd ar gael trwy gydol y radd hefyd yn anhygoel, rhoddodd arweiniad ychwanegol i mi gan fy helpu i gadw fy ffocws a chynnal fy hyder, yn enwedig ar yr adegau mwy heriol. Roedd gwybod bod cymorth gydol yr adeg yn rhoi’r hyder i mi wthio fy hun a chyflawni mwy nag yr oeddwn i’n meddwl y gallwn i.”

Bu cwblhau’r radd yn arbennig o arwyddocaol i Llinos ar lefel bersonol.

“Mae’r daith hon wedi golygu llawer iawn i mi oherwydd nid oedd addysg bob amser yn brofiad hawdd pan oeddwn i’n iau, felly mae gallu dod yn ôl i ddysgu, derbyn y cymorth cywir a chwblhau fy ngradd yn llwyddiannus wedi bod yn gamp bersonol enfawr.”

Trwy gydol ei thair blynedd yn PCYDDS, mae Llinos wedi datblygu nid yn unig yn Weithiwr Ieuenctid ond hefyd mewn hyder a gwytnwch yn unigolyn.

“Galla i weld faint rydw i wedi tyfu dros y tair blynedd ddiwethaf, nid yn unig yn Weithiwr Ieuenctid ond yn berson.”

Mae Llinos yn credu bod y cwrs yn addas i unrhyw un sy’n ystyried adeiladu gyrfa yn gweithio gyda phobl ifanc, yn enwedig oherwydd y cydbwysedd rhwng dysgu academaidd a phrofiad proffesiynol.

“Byddwn i’n ei argymell i unrhyw un sydd am adeiladu gyrfa ystyrlon yn gweithio gyda phobl ifanc.”

Ar ôl graddio, mae Llinos yn bwriadu parhau i ddatblygu ei gyrfa mewn Gwaith Ieuenctid. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cefnogi iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc ac mae’n gobeithio meithrin profiad mewn cymorth ymddygiadol. Mae hi hefyd yn archwilio’r posibilrwydd o symud i Seland Newydd, lle mae hi’n gobeithio gweithio mewn gwahanol leoliadau, ehangu ei phrofiad a pharhau i helpu pobl ifanc i gyrraedd eu potensial.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon