Skip page header and navigation

Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cynnal prynhawn agored arbennig gan archwilio’r straeon cyfareddol sydd wedi’u cuddio mewn pren hanesyddol o’r enw Llongau, Coed a Chyplau To. 

trusses

Cynhelir y digwyddiad ddydd Mercher 18 Chwefror am 2pm, yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen ar gampws y Brifysgol yn Llambed.

Bydd ymwelwyr yn cael y cyfle i glywed gan archeolegydd PCYDDS Dr Rod Bale, a fydd yn trafod ei ymchwil ar bren llongau a gafodd ei ailgylchu i’w ddefnyddio mewn rhes o dai teras Sioraidd yn Abertawe. Yn ogystal, bydd yn rhannu cipolwg ar adeiladau hanesyddol lleol lle defnyddiwyd y broses dadansoddi cylch tyfiant coed i ddyddio pren strwythurol ochr yn ochr ag arddangosfeydd o samplau pren o’i waith. 

Meddai Dr Roderick Bale: 

“Mae ein gwaith yn Cambrian Place yn dyddio’n union gymysgedd o bren llongau a ailddefnyddiwyd a phren conwydd wedi’i fewnforio, sy’n datgelu sut y defnyddiodd adeiladwyr Abertawe iardiau torri llongau a chysylltiadau masnach pren byd-eang ar ddechrau’r 19eg ganrif.  Mae’n gipolwg goleuedig ar orffennol y ddinas a’r straeon sydd wedi’u cydio yn ei hadeiladau hanesyddol.”

ship timber trusses

Bydd y sgwrs hon yn gosod yr adeiladau o fewn eu lleoliad hanesyddol ehangach.  Roedd yr ardal a elwir yn “Y Twyni” unwaith yn dir comin hynafol yn perthyn i Fwrdeisiaid Abertawe, a gafodd ei hamgáu yn 1762, cyn cael ei thrawsnewid ar ddechrau’r 19eg ganrif yn ardal glan môr ffasiynol yn dilyn datblygiad Cambrian Place, yr Ystafelloedd Cynulliad a’r strydoedd cyfagos.   Erbyn y 1820au, daeth yn gyrchfan ffasiynol a oedd yn enwog am ei “aer da”, gan ddenu trigolion nodedig ac ymwelwyr tymhorol.  Roedd bywyd cymdeithasol yn ffynnu, gyda regatas yn cael eu cynnal ym Mae Abertawe, rasys ar Gwrs Ras y Twyni, a chyngherddau a dawnsfeydd yn cael eu cynnal yn yr Ystafelloedd Cynulliad.  Cynhaliwyd dathliadau dinesig yno hefyd, gan gynnwys dathliadau’n nodi coroni’r Frenhines Fictoria yn 1883 a digwyddiadau’n gysylltiedig â dyfodiad y rheilffordd yn 1850.

Newidiodd cymeriad yr ardal yn sylweddol ar ôl agor y dociau yn 1859, pan ddechreuodd y diwydiant arforol ddominyddu ac ail-bwrpaswyd ardaloedd fel Sgwâr Y Twyni ar gyfer storio coed.  Cyflwynodd datblygiadau Fictoraidd ac Edwardaidd lawer o’r adeiladau masnachol bric a cherrig sylweddol sy’n diffinio’r ardal hyd at heddiw.  Dilynodd dirywiad yng nghanol yr ugeinfed ganrif wrth i weithgarwch y dociau leihau, ond, mae ymdrechion adfywio yn ystod y degawdau diweddaf wedi dod â bywyd newydd i’r glannau hanesyddol, gan ailgysylltu’r ardal gyda’i threftadaeth forwrol. 

Mae’r prynhawn agored yn cynnig cyfle unigryw i ddysgu sut y gall technegau gwyddonol fel coed-ddyddio ddatgloi dealltwriaeth newydd o hanes a threftadaeth bensaernïol. 

ships trusses on display

Meddai Sian Collins, Pennaeth Casgliadau Arbennig yn PCYDDS:

“Rydym yn gyffrous i groesawu Rob i’r llyfrgell ym mis Mawrth, gyda’i samplau cyfareddol o goed. Fe fydd y siaradwr cyntaf yn Niwrnodau Agored Casgliadau Arbennig ac Archifau sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd ac ni allwn aros i eistedd yn ôl a chlywed yr hyn sydd ganddo i’w ddweud!”

I wybod rhagor neu gadw lle, cysylltwch â Ruth Gooding yn r.gooding@uwtsd.ac.uk.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon