Llwybr graddedig i fywyd ar daith fel Technegydd Llwyfan
Wrth i ni edrych ymlaen at Sioeau Gradd yr Haf yma ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae’r cyffro’n cynyddu ar gyfer agoriad yr arddangosfa BA Dylunio a Chynhyrchu Setiau ar 15 Mai yng Nghanolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin. Mae’r dathliadau eleni yn arbennig o arwyddocaol, wrth i’r cwrs nodi 25 mlynedd o feithrin talent greadigol a llunio’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr theatr.
I ddathlu, rydym yn tynnu sylw at Ella Routledge, a raddiodd yn ddiweddar, y mae eu taith o fod yn fyfyriwr i Dechnegydd Llwyfan teithiol gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn adlewyrchu ehangder y cyfleoedd y gall y cwrs eu datgloi.
Pan ddechreuodd Ella eu hastudiaethau BA Dylunio a Chynhyrchu Setiau ar gampws Caerfyrddin y Drindod Dewi Sant, nid oedd ganddynt syniad clir i ble y gallai eu gyrfa yn y theatr eu harwain, rhywbeth maen nhw bellach yn ei weld fel mantais go iawn.
“Pan ddechreuais, roeddwn yn anghyfarwydd iawn â’r broses gynhyrchu, a doeddwn i ddim yn gwybod pa rôl fyddwn i’n ei hoffi, neu pa rôl fyddai’n cydweddu â mi orau,” meddai Ella. “Rhoddodd fy nghwrs gyfle i mi roi cynnig ar bob agwedd o gynhyrchu a darganfod drosof fy hun pa rôl roeddwn i eisiau ei dilyn.”
Anogir myfyrwyr ar y cwrs i ddatblygu set sgiliau eang, gyda chyfleoedd i archwilio meysydd fel dylunio setiau a gwisgoedd, celf golygfeydd, gwneud propiau, a rheoli llwyfan, gan eu paratoi ar gyfer amrywiaeth o rolau ar draws theatr, ffilm a theledu. Cafodd y cyfle hwnnw i archwilio effaith barhaol ar Ella. Wedi’u denu at yr amrywiaeth y mae theatr yn ei gynnig, cawsant eu hunain wedi ymgolli mewn disgyblaeth lle nad oes dau brosiect yr un peth.
“Mae pob prosiect yn newydd ac yn wahanol, gyda chyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd a chamu y tu hwnt i’r ffiniau sy’n gyfforddus i chi,” medden nhw. “Roeddwn i eisiau cwrs a llwybr gyrfa a oedd yn cynnig amrywiaeth i mi, a dyna’n union beth gefais i.”
Un o uchafbwyntiau allweddol cyfnod Ella yn y Drindod Dewi Sant oedd gweithio ar y Cynyrchiadau Prif Lwyfan a Stiwdio trydedd flwyddyn, profiadau a oedd yn adlewyrchu arfer proffesiynol yn agos ac yn helpu i fagu hyder. Mae cydweithio wrth wraidd y cwrs, gyda myfyrwyr yn gweithio ar draws disgyblaethau i ddod â chynyrchiadau yn fyw mewn amgylchedd stiwdio broffesiynol.
“Daeth fy nosbarth at ei gilydd i ffurfio cwmni, a chawsom weithio ochr yn ochr â’r myfyrwyr actio i gynnal sioeau go iawn,” meddai Ella. “Roedd yn wych i gael dangos yr hyn yr oeddem wedi’i ddysgu a’r sgiliau yr oeddem wedi’u hennill trwy ein hastudiaethau. I mi, roedd gweld fy nyluniadau’n dod yn fyw ar lwyfan am y tro cyntaf yn rhywbeth na fyddaf yn ei anghofio.”
Roedd y cynyrchiadau diwedd blwyddyn yma, sy’n rhan ehangach o’r Sioeau Gradd yr Haf, yn foment allweddol. “Cawsom ddigon o arweiniad ond cafodd y cyfrifoldeb am ein rolau ei roi yn ein gofal ni” meddai Ella. “Gadewais y ddwy sioe yn teimlo’n hynod fedrus.”
Y tu hwnt i’r llwyfan, manteisiodd Ella i’r eithaf ar gyfleoedd ymarferol yng Nghaerfyrddin, gan ennill profiad yn y diwydiant ochr yn ochr â’u hastudiaethau. “Cefais waith Rheoli Llwyfan ar ddiwedd fy mlwyddyn gyntaf, ac yn yr ail flwyddyn roeddwn i’n Ddirprwy Reolwr Llwyfan yn Theatr y Lyric. Roedd y ddau yn gyfleoedd anhygoel.”
Bellach, flwyddyn yn unig ar ôl graddio, mae Ella eisoes yn adeiladu gyrfa gyffrous, ac ar hyn o bryd yn teithio o amgylch y DU fel Technegydd Llwyfan gydag Opera Cenedlaethol Cymru.
“Ar hyn o bryd rydw i ar daith fel Technegydd Llwyfan gydag Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) - dyma fy ail dymor gyda WNO,” medden nhw. “Mae fy nhîm a minnau yn gyfrifol am fynd â sawl sioe ar raddfa fawr o amgylch y DU bob tymor, gan gyflawni’r gwaith o osod a dadosod setiau ym mhob lleoliad. Rydym yn gosod y setiau ar bob llwyfan, yn gwneud newidiadau golygfeydd, ac yn cyfnewid y setiau ar ddiwedd y sioe. Mae’n lawer o waith ac yn lawer o hwyl.”
Wrth adfyfyrio ar eu hamser yn y Drindod Dewi Sant, mae Ella yn rhoi clod i’r cwrs am roi iddynt y sgiliau technegol a’r hyder i ffynnu mewn amgylchedd sy’n symud mor gyflym.
“Rhoddodd fy nghwrs brofiad mor realistig i mi o broses gynhyrchu fy mod yn gwybod yn union beth sydd angen i mi ei gyfrannu a sut y bydd yn effeithio ar bawb o’m cwmpas,” medden nhw. “Rwy’n gwybod beth yw fy nghryfderau a’m gwendidau… ac rwy’n dal i ddysgu bob dydd, a dyna beth rwy’n ei garu am fy swydd.”
Mae’r profiad o astudio yn y Drindod Dewi Sant wedi gadael argraff barhaol ar Ella - nid yn unig yn broffesiynol, ond yn bersonol hefyd. “Mae’n brofiad gwych i gael eich amgylchynu gan bobl sydd eisiau i chi lwyddo, ac sy’n gwybod y byddwch chi’n llwyddo,” medden nhw. “Rydw i wedi gwneud ffrindiau oes, ac wedi adeiladu cymuned anhygoel o bobl greadigol wych.”
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
Ffôn: +447482256996