Llyfr newydd yn archwilio naratifau’r cyfryngau, chwaraeon a hunaniaeth genedlaethol ledled Prydain
Mae llyfr newydd a ysgrifennwyd ar y cyd gan uwch academydd o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn taflu goleuni newydd ar sut mae’r cyfryngau, chwaraeon a hunaniaeth genedlaethol yn croestorri ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban.
Mae Dr John Harris, Rheolwr Rhaglen DBA (Birmingham) yn yr Athrofa Dysgu Canol Dinas yn PCYDDS, wedi cyd-ysgrifennu Sport, National Identities and the Media: Battling Brits gyda’r Athro John Vincent o Brifysgol Alabama.Mae’r llyfr yn cael ei gyhoeddi yr wythnos hon gan y cyhoeddwr academaidd Routledge.
Mae’r llyfr yn adeiladu ar fwy na degawd o ymchwil gydweithredol sy’n archwilio sut mae’r cyfryngau yn cynrychioli ac yn siapio delweddau o’r cenhedloedd chwaraeon ym Mhrydain Fawr. Mae’n archwilio’r berthynas gymhleth rhwng chwaraeon, hunaniaeth a gwleidyddiaeth, yn enwedig mewn cyd-destunau lle mae cenhedloedd Prydain Fawr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn cystadlaethau rhyngwladol.
Trwy astudiaethau achos sy’n amrywio o gemau pêl-droed rhwng y gwledydd cartref i’r sylw i athletwyr unigol fel Andy Murray, mae’r awduron yn dadansoddi sut y gall llwyddiant yn y byd chwaraeon sbarduno naratifau cystadleuol am berthyn cenedlaethol. Mae’r llyfr hefyd yn archwilio dadleuon ynghylch athletwyr sy’n cynrychioli Tîm Prydain Fawr er eu bod wedi’u geni y tu allan i’r Deyrnas Unedig, gan dynnu sylw at gwestiynau ehangach am hunaniaeth, mudo a chynrychiolaeth.
Mewn pennod arall archwilir gwobr fawreddog Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC a’r ffyrdd y mae trafodaethau am genedligrwydd yn croestorri â materion cymdeithasol ehangach fel cydraddoldeb rhywedd, hil a chynrychiolaeth mewn chwaraeon.
Wrth fyfyrio ar gyhoeddi’r llyfr a’r cydweithredu y tu ôl iddo, dywedodd Dr John Harris:
“Rydym yn falch iawn o weld y llyfr hwn yn cael ei gyhoeddi ar ôl blynyddoedd lawer o ymchwil gydweithredol. Mae chwaraeon yn darparu lens bwerus ar gyfer archwilio hunaniaeth genedlaethol, yn enwedig mewn cyd-destun ‘Prydeinig’. Mae’r cyfryngau yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio sut mae’r hunaniaethau hyn yn cael eu deall, eu dathlu, ac weithiau eu herio.”
Tynnodd yr Athro John Vincent hefyd sylw at werth y bartneriaeth ymchwil hirsefydlog rhwng y ddau awdur. Ychwanegodd:
“Mae gweithio gyda John dros y degawd diwethaf wedi bod yn gydweithrediad hynod werthfawr. Gyda’n gilydd rydym wedi archwilio sut y gall adegau arbennig mewn chwaraeon, ar ffurf yr ysbryd cystadleuol rhwng timau pêl-droed neu lwyddiant athletwr unigol, ddatgelu sgyrsiau diwylliannol a gwleidyddol dyfnach am genedligrwydd, perthyn a hunaniaeth.”
Mae’r llyfr hefyd yn ystyried sut mae naratifau chwaraeon yn cysylltu â dadleuon ehangach am natur fregus ymddangosiadol y Deyrnas Unedig a lle Prydain Fawr a’i gwledydd cyfansoddol o fewn Ewrop sy’n newid yn yr oes ar ôl Brexit.
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076