Skip page header and navigation

Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr Cymru a Lloegr wedi comisiynu nodyn ymarfer newydd i helpu cyfreithwyr i lywio’r corff cynyddol o gyfraith sy’n unigryw i Gymru a’r gwahaniaethau rhwng deddfwriaeth yng Nghymru a Lloegr.

Dr Bronwen Williams, head of Swansea Law School

Cafodd y canllawiau eu datblygu gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a byddant yn tynnu sylw at feysydd allweddol lle mae deddfwriaeth Cymru yn wahanol, yn ogystal â darparu cymorth ymarferol i gyfreithwyr sy’n ymarfer yng Nghymru a’r rhai sy’n gweithio ar draws y ffin. Mae’r prosiect yn rhan o waith parhaus Swyddfa Cymru Cymdeithas y Cyfreithwyr i gefnogi cyfreithwyr sy’n ymarfer yng Nghymru a’r rhai sy’n cynghori ar faterion Cymreig ledled Cymru a Lloegr.

Bydd y nodyn ymarfer yn cael ei ddatblygu gan Dr Bronwen Williams, pennaeth Ysgol y Gyfraith Abertawe ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac aelod o Fwrdd Cenedlaethol Cymru Cymdeithas y Cyfreithwyr, ochr yn ochr â Dr Emyr Lewis, cyfreithiwr blaenllaw yng Nghymru ac Athro Emeritws ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Er bod Cymru a Lloegr yn rhannu un awdurdodaeth gyfreithiol, mae corff deddfwriaeth Cymru yn parhau i ehangu ar draws meysydd datganoledig fel tai, iechyd, addysg a’r amgylchedd. Wrth i’r gwahaniaethau hyn gynyddu, mae’n dod yn fwyfwy pwysig bod cyfreithwyr sy’n cynghori cleientiaid yng Nghymru yn adnabod y fframwaith cyfreithiol cywir ac yn ei ddefnyddio.

Dywedodd Dr Bronwen Williams: “Mae’r brifysgol yn gweithio gyda Chymdeithas y Cyfreithwyr i dynnu sylw at bwysigrwydd deddfwriaeth ddatganoledig yng Nghymru. Mae’n hanfodol i gyfreithwyr sy’n ymarfer fod yn ymwybodol o feysydd allweddol sydd wedi’u datganoli ac yn gwybod am ddatblygiad y fframwaith cyfreithiol. Fel prifysgolion, mae angen i ni wreiddio’r wybodaeth hon yn ein rhaglenni, ac mae eisoes yn rhan sefydledig o gwricwlwm y gyfraith yn Ysgol y Gyfraith Abertawe.”

Ychwanegodd Jonathan Davies, pennaeth Swyddfa Cymru Cymdeithas y Cyfreithwyr: “Mae Cymru a Lloegr yn gweithredu o dan un awdurdodaeth gyfreithiol, ond mae’r corff o gyfraith sy’n berthnasol yng Nghymru yn dod yn fwyfwy gwahanol. Yn unol â safbwynt Distinct, Not Separate Cymdeithas y Cyfreithwyr, rydym yn cydnabod ac yn cefnogi datblygiad hunaniaeth gyfreithiol Gymreig unigryw sy’n gweithredu o fewn y fframwaith datganoli presennol.

“Fodd bynnag, wrth i ddeddfwriaeth Cymru barhau i dyfu, mae’n bwysig bod cyfreithwyr yn deall ym mha ffyrdd y mae’r gyfraith yng Nghymru yn wahanol i’r gyfraith yn Lloegr wrth gynghori cleientiaid. Bydd y nodyn ymarfer hwn yn darparu canllawiau ymarferol i gyfreithwyr sy’n ymarfer yng Nghymru, yn ogystal ag i ymarferwyr yn Lloegr sy’n cynghori ar faterion Cymreig neu’n gweithio ar draws y ffin.”

Bydd y nodyn ymarfer yn tynnu sylw at feysydd allweddol lle mae cyfraith Cymru yn wahanol i’r gyfraith yn Lloegr ac yn darparu arweiniad ymarferol i helpu cyfreithwyr i nodi’r fframwaith cyfreithiol cywir wrth gynghori cleientiaid.


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 01267 676790

Rhannwch yr eitem newyddion hon